Treuliais yr wythnosau cyntaf ar ôl imi gael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Dai yn siarad gyda chynifer o ymarferwyr tai ag y gallwn. Fy mwriad oedd darganfod i ba raddau yr oeddem yn cyflawni’r heriau sy’n gysylltiedig â thai yng Nghymru.
Siaredais â chyrff sy’n cynrychioli awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, staff ac aelodau llawer o wahanol gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ledled Cymru, sefydliadau tenantiaid, a chyrff proffesiynol. Er ei bod yn amlwg bod llawer o waith da’n cael ei wneud, nid oedd y ddarpariaeth yn gyson ym mhob rhan o Gymru. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf dro ar ôl tro oedd bod cyfleoedd i ddarparu cartrefi a gwasanaethau ac i adfywio cymunedau’n cael eu colli oherwydd system reoliadol nad yw’n gwbl briodol mwyach, ac oherwydd prosesau meicroreoledig sy’n arafu’r broses o gyflawni ac yn amharu ar berfformiad. Yr oedd diffyg eglurder hefyd ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaith: Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n adeiladu tai; mae’n dibynnu ar ei phartneriaid i gynllunio a darparu tai cymdeithasol newydd. O ganlyniad i’r negeseuon cyson yr oeddwn yn eu cael, ym mis Hydref, gofynnais i Sue Essex gadeirio adolygiad o’r system gyfredol. Fy ngweledigaeth oedd y dylem i gyd weithio gyda’n gilydd er mwyn cael cymaint o fudd ag sy’n bosibl o’r adnoddau sydd gennym yn ogystal ag o fuddsoddiad newydd sy’n cael ei wneud. Dylid herio pob partner i gyfrannu mwy er mwyn helpu i ddiwallu’r angen am dai y byddwn yn ei wynebu. Dylai’r systemau a’r prosesau yr ydym yn eu defnyddio ein helpu i gyflawni’r amcan hwnnw.
Y brîff ar gyfer adolygiad Essex oedd ystyried sut y gallem gael y budd mwyaf o’r asedau sydd gan gymdeithasau tai yn barod; annog mwy o gydweithio rhyngddynt, er mwyn bod yn fwy effeithiol wrth ddarparu cartrefi newydd; edrych ar ffyrdd o gyflymu’r broses o gyflawni amcanion sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd wrth adeiladu cartrefi newydd; a sicrhau bod gan bob partner ddealltwriaeth glir o’i rolau a’i gyfrifoldebau. Gyda’i gilydd, bydd y pedair elfen hyn, o’u gweithredu’n briodol, yn gwella perfformiad ac yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i allu cyflawni’r heriau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu ym maes tai.
Mae Sue Essex, ynghyd â Dr Peter Williams a Dr Bob Smith, wedi treulio bron i chwe mis yn herio pob un sy’n ymwneud â’r mudiad tai. Buont yn siarad yn uniongyrchol â thros 100 o unigolion, a thros 70 o sefydliadau. Yn ogystal â siarad â’r rhai hynny sy’n uniongyrchol gysylltiedig, a’r cyrff sy’n eu cynrychioli, buont hefyd yn siarad â staff sy’n cael eu cyflogi yn y gyfarwyddiaeth dai, benthycwyr preifat a’r rhai hynny sy’n ymwneud â’r sector preifat.
Erbyn y Nadolig, yr oeddynt wedi argymell pum ateb sydyn—newidiadau a oedd yn dangos y ffordd ymlaen, a allai leihau biwrocratiaeth, a galluogi cymdeithasau tai i fenthyca mwy yn erbyn eu hasedau cyfredol drwy fabwysiadu trefniadau tebycach i fenter gymdeithasol. Buom yn ymgynghori’n eang a chawsom ein calonogi gan y gefnogaeth aruthrol a gawsom i’r dull hwn. Yr ydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried sut y gallwn symud ymlaen â’r argymhellion hyn cyn gynted ag y bo modd.
Cefais gopi o adroddiad terfynol adolygiad Essex yn ddiweddar. Er mwyn derbyn yr her o ymateb i’r nifer mawr o heriau amrywiol sydd gennym ym maes tai, mae’n argymell cyfeiriad strategol newydd ac yn galw am arweiniad cryf a phenderfynol i’w sicrhau.
Mae’r adolygiad yn cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes ac yn ceisio galluogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i ddarparu mwy o gartrefi a mwy o adfywio cymunedol. Er mwyn cyflawni hynny, mae’n dadlau ei bod yn hollbwysig cael asesiad mwy cynhwysfawr o anghenion tai ledled Cymru. Dylai adnoddau ddilyn angen, a bydd y gofyniad a gyhoeddais yn ddiweddar i bob awdurdod cynllunio gyhoeddi cynllun cyflenwi tai fforddiadwy gyda thargedau ar gyfer ei gyflawni’n rhoi mecanwaith mwy manwl a thryloyw i hybu lefelau perfformiad uwch.
Ar gyfer cymdeithasau tai, mae’r adroddiad yn cynnig newid sylfaenol yn y system reoleiddio i hyrwyddo mwy o arloesi a mwy o ryddid i ddefnyddio eu statws di-elw i fuddsoddi mwy yn eu cymunedau. Er mwyn gwrthbwyso model sy’n llai gwrthwynebol i risg ac yn fwy cymdeithasol fentrus, mae’n argymell rhoi mwy o bwyslais ar lywodraethu a rheoleiddio ariannol, yn ogystal â pharhau i sicrhau safonau uchel o ran rheoli a gwaith cynnal a chadw i denantiaid.
Yn olaf, er mwyn sicrhau y bydd y system reoleiddio’n dal yn addas, mae’n awgrymu sefydlu bwrdd rheoleiddio o randdeiliaid allweddol i gymryd trosolwg ac adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidog ar allu’r sector i fynd â’r maen i’r wal yn effeithiol.
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell rhoi cymhellion i symud ymlaen yn gynt i ymateb i’r agenda ar y newid yn yr hinsawdd yn y rhaglen adeiladu newydd, ac mae’n awgrymu dull newydd o hwyluso’r broses o wella’r stoc dai mewn awdurdodau lleol lle y mae tenantiaid wedi pleidleisio yn erbyn trosglwyddo stoc. Mae hefyd yn ystyried dulliau o wella trefniadau consortia cymdeithasau tai.
I bawb sy’n ymddiddori ym maes tai yng Nghymru, mae hwn yn adroddiad arloesol. Mae’n gynhwysfawr ac yn gynhwysol, ac mae ynddo heriau i bawb sy’n gysylltiedig. O ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n ein herio i arwain y newid sy’n angenrheidiol. O ran awdurdodau lleol, mae’n eu herio i hwyluso gweithio mewn partneriaeth ac i reoli perfformiad. O ran cymdeithasau tai, mae’n eu herio i ddod yn fwy arloesol ac i ddefnyddio eu hasedau’n fwy effeithiol er mwyn buddsoddi rhagor.
Ers comisiynu’r adroddiad hwn, mae’r heriau wedi cynyddu. Pan ymgymerais â’m swydd, yr oeddem yn canolbwyntio ar 'Cymru’n Un’ ac ar ein hymrwymiadau o ran tai. Gan fod y newidiadau yn yr economi’n effeithio ar y marchnadoedd tai, mae’r heriau’n fwy o lawer yn awr. Mae’r adroddiad hwn yn ddadansoddiad cynhwysfawr o’r sefyllfa bresennol, ac mae’n cynnig dull cydlynol o wella ein gallu i ymateb iddi. Gofynnaf yn awr am ddadl eang ar yr adroddiad, ei argymhellion, a’r modd y gallwn gydweithio i’w roi ar waith.