Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio Ymgynghoriad ar Strategaeth Newydd ‘Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad – Creu Dyfodol Cadarn’

Dolenni perthnasol

Roedd y cyfnod ymgynghori am 12 wythnos, a’r dyddiad cau ar gyfer sylwadau oedd 8 Medi 2008.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig
Rwy’n lansio ymgynghoriad y bore yma, sef dydd Llun, 16 Mehefin, i wahodd sylwadau ar strategaeth newydd ar gyfer ffermio a gynigir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef ‘Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad – Creu Dyfodol Cadarn’. Atodir copi o’r papur ymgynghori er gwybodaeth.

Bydd y ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad, a rhoddwyd copïau caled yn y llyfrgell.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn ystod y Cyfarfod Llawn yfory, dydd Mawrth 17 Mehefin, a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi.