Skip to content

Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
O dan Adrannau 21 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru sy'n amlinellu’r canllawiau ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub, yn ogystal â blaenoriaethau ac amcanion i’w dilyn mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Cymru ym mis Mawrth 2005, a gwnaed nifer o ddiwygiadau iddo, drwy Orchymyn, ym mis Mawrth 2007. Gan gydnabod y canllawiau a’r polisi sydd wedi cael eu datblygu ym maes materion tân ac achub yng Nghymru ers datganoli ym mis Tachwedd 2004, ymgymerodd y cyn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio â’r gwaith o newid y Fframwaith cyfredol yn ystod 2008. Hefyd, mae angen paratoi Fframwaith newydd sy’n adlewyrchu’r trydydd Cynulliad a’r blaenoriaethau a geir yn y ddogfen ‘Cymru’n Un’.

Mae Llywodraeth y Cynulliad, mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Tân ac Achub ac â chynrychiolydd staff yr Awdurdodau hyn, wedi ystyried cynnwys a ffocws y Fframwaith newydd. Yn dilyn hyn, mae Fframwaith newydd wedi’i ddatblygu sydd, ym fy marn i, yn adlewyrchu ac yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Bydd y Fframwaith yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y Gwasanaeth a'i rôl o ran cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer y sector cyhoeddus a Chymru ehangach. Mae’n rhoi manylion y prif themâu ar gyfer y Gwasanaeth yn ystod oes tair blynedd y Fframwaith, sef cydweithio; yr amgylchedd a chynaladwyedd; a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hefyd yn amlinellu’r disgwyliadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth ac yn pennu cynllun gweithredu, sy'n amlinellu sut y dylid cyflawni’r disgwyliadau, a’r amserlenni ar gyfer y camau gweithredu hynny y mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl iddynt gael eu cymryd. Yn ogystal, mae’n rhoi manylion y camau y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i ategu’r gwaith o ddatblygu polisi yn y maes a’r cyfeiriad y bydd y Gwasanaeth yn ei gymryd yn y dyfodol.

Cynhelir ymgynghoriad ar y Fframwaith drafft rhwng 17 Mawrth a 20 Mehefin. Caiff ei ddosbarthu i randdeiliaid o gefndiroedd amrywiol ac i eraill â buddiant. Y bwriad yw cyflwyno’r Fframwaith diwygiedig drwy Orchymyn yn haf 2008.

Gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb yn ein gwasanaeth tân ac achub yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu i'r ymgynghoriad pwysig hwn.