Skip to content

Ysgrifenedig - Ddechrau’r Adolygiad Cyntaf o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Lansiwyd ‘Gweithio gyda’n gilydd i Leihau Niwed’, sef strategaeth 10 mlynedd newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac i leihau’r niwed hwnnw, ar 1 Hydref 2008. Nod y strategaeth yw ymdrin ag holl ystod y sylweddau a gamddefnyddir a’r dulliau o’u camddefnyddio, sy’n newid o hyd. Mae am geisio gwella ansawdd y gwasanaethau triniaeth a’r cymorth cysylltiedig sydd ar gael, ac yn ei gwneud yn haws penderfynu ar sail tystiolaeth.

Un o amcanion y Strategaeth yw sicrhau rhagor o welliannau o ran ansawdd a chysondeb y gwasanaethau triniaeth ar draws Cymru. Rydym wedi cyflwyno rhaglen o adolygiadau thematig allanol a fydd yn cael eu cynnal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae’r rhaglen adolygiadau thematig allanol yn rhan hanfodol o’r fframwaith Rheoli Perfformiad ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae’n ceisio mesur a sicrhau gwelliannau yn ansawdd ac argaeledd gwasanaethau triniaeth ar draws Cymru a’i gwneud yn haws i bobl fanteisio arnynt. Hwn fydd y tro cyntaf i wasanaethau camddefnyddio sylweddau Cymru fod yn destun adolygiad thematig mor gynhwysfawr.

Yn sgil treialu’r fethodoleg a rhoi prawf arni, dechreuodd yr adolygiad cyntaf yn ddiweddar ac mae’n canolbwyntio ar y gwaith o gynllunio a darparu triniaeth roi pesgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth gyfnewid a fydd yn gwerthuso sut yr eir ati i gomisiynu ac i ddarparu triniaeth sy’n cynnwys rhoi presgripsiynau ar gyfer cyffuriau yn gyfnewid am opiadau mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cael eu comisiynu a’u darparu.

Mae gan AGIC ffordd holistig o fynd ati sy’n ystyried tri pheth sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau ansawdd:

  • Profiad Defnyddwyr y Gwasanaethau;
  • Canlyniadau Clinigol;
  • Trefniadau Llywodraethu.

Bydd y dull hwn yn cynnwys mesur amseroedd aros, gwerthusiad o’r llwybrau cyfeirio ar gyfer rhagnodi triniaethau a gwerthusiad o brofiadau defnyddwyr y gwasanaeth. Bydd yr adolygiad yn ddigon trylwyr i bwyso a mesur a chymharu mewn modd cynhwysfawr ac ansoddol, ansoddol a chymharol rhwng sefydliadau, gan nodi’r meysydd lle mae’r arferion gorau yn amlwg a’r agweddau y mae angen eu gwella a/neu y mae angen ganllawiau canolog pellach ar eu cyfer.

Bydd pob sefydliad yn cael adborth unigol gan AGIC a chaiff adroddiad cenedlaethol ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2009.

Caiff rhaglen yr adolygiadau eu llywio yn y dyfodol gan ganfyddiadau’r adolygiad cyntaf a’u cwblhau mewn partneriaeth â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru er mwyn nodi a blaenoriaethu’r materion risg uchel sy’n gysylltiedig â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Bydd systemau llywodraethu, prosesau comisiynu integredig a chynnwys defnyddwyr y gwasanaeth yn rhan hanfodol o holl raglen yr adolygiad a bydd pob adolygiad yn cwmpasu’r materion canlynol o leiaf:

  • Comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau yn y sectorau statudol ac anstatudol er mwyn ystyried effeithiolrwydd gwaith aml-asiantaeth/ amlddisgyblaethol;
  • Profiadau defnyddwyr y gwasanaeth;
  • Mesur ansawdd y gwasanaeth a’r gwaith o’i ddarparu o’u cymharu â’r safonau a’r canllawiau.