Skip to content

Ysgrifenedig - Priodasau Dan Orfod a Throseddau Er Anrhydedd – Cynllun Gweithredu Tair Blynedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cynllun gweithredu tair blynedd yn ddiweddar er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith yng Nghymru o fynd i’r afael â phriodasau dan orfod a throseddau er anrhydedd.

Ar 26 Gorffennaf 2007 cafodd Deddf Priodi dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007 Gydsyniad Brenhinol. Pan ddaw’r Ddeddf i rym bydd yn darparu rhwymedïau sifil i’r rheini sy’n wynebu priodas dan orfod a’r rheini sydd wedi dioddef priodas dan orfod. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod mai dim ond un ffordd o fynd i’r afael â phroblem priodi dan orfod yw amddiffyn drwy ddeddfwriaeth ac er 2007 mae wedi bod yn datblygu mesurau i ymdrin â’r materion hyn. Ym mis Chwefror 2007, dechreuodd yr Arolygydd Lian Penhale, a oedd ar secondiad o Heddlu De Cymru, weithio ar faterion fel llunio cynllun gweithredu ar gyfer Cymru a datblygu canllawiau ar y cyd ag Uned Priodi dan Orfod Whitehall. Roedd gwaith yr Arolygydd Penhale yn canolbwyntio ar dri phwnc penodol:

  • Cael amcan o nifer yr achosion o briodasau dan orfod a throseddau er anrhydedd ar hyd a lled Cymru.
  • Llunio dogfennau canllaw drafft ar gyfer y gwasanaeth Addysg, y gwasanaeth Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol o ran mynd i’r afael â phriodi dan orfod a thrais er anrhydedd.
  • Llunio cynllun gweithredu i’w ystyried gan y Gweinidog a fyddai’n amlinellu sut y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru fwrw ymlaen â’r gwaith ynghylch priodi dan orfod a thrais er anrhydedd.

Daeth yr Arolygydd Penhale i’r casgliad nad oes unrhyw ddata ar gael ar faint y broblem yng Nghymru. Mae’r Uned Priodasau dan Orfod yn ymdrin ag oddeutu 300 o achosion y flwyddyn, ond nid oes modd dweud faint o’r rhain sy’n achosion sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae Gwasanaethau Heddlu Cymru wedi dechrau casglu data yn ddiweddar a bydd angen adeiladu ar hyn. Ymhlith y prif asiantaethau anllywodraethol sy’n gweithio yn y maes hwn mae Black Association of Women Step Out, Henna, Women Connect First, Mewn Cymru, Cymorth Menywod Cymru ac Uned Diogelwch Menywod Caerdydd. Rhoddodd y sefydliadau hyn lawer o gymorth i’r Arolygydd Penhale yn ystod cyfnod ei secondiad. Er bod enghreifftiau gwasgaredig o arferion da yng Nghymru, prif gasgliad gwaith yr Arolygydd Penhale oedd bod rhaid mynd ati i weithio mewn modd mwy cydgysylltiedig, gan ganolbwyntio ar atal, codi ymwybyddiaeth, hyfforddi a pharatoi canllawiau a monitro’n gywir.

Bydd y cynllun gweithredu tair blynedd yn sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datblygu. Bydd is-grŵp o Weithgor Cam-drin Domestig Cymru Gyfan yn cael ei sefydlu i ystyried priodi dan orfod, ac ef fydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor ar y ffordd orau o gydgysylltu’r gwaith.