Skip to content

Ysgrifenedig - Trefniadiau Rheoli a Gorfodi Pysgodfeydd Mor yn Nyfroedd Cymru yn y Dydfdol

Dolenni perthnasol

Ein nod yw rhoi mantais gystadleuol i’n busnesau bwyd a diod trwy gyfres o raglenni cymorth.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gweldig.

Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddais fy mod am ymgynghori ar gynnig y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd cyfrifoldeb llawn am reoli a gorfodi pysgodfeydd môr Cymru. Yn dilyn yr ymgynghoriad, rwyf wedi penderfynu mabwysiadu’r cynnig hwnnw fel polisi’r Llywodraeth, a’m bwriad yw sefydlu trefn rheoli a gorfodi newydd a fydd yn weithredol erbyn mis Ebrill 2010.

Ar hyn o bryd, mae’r dyletswyddau rheoli a gorfodi yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yr awdurdodau lleol, ac Asiantaeth yr Amgylchedd, oll yn gweithredu fel Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, a chanddynt, pob un ohonynt, eu fframweithiau deddfwriaethol eu hunain. Mae hyn wedi peri dryswch, yn arbennig ynghylch pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw, a daeth nifer o adroddiadau amlwg i’r casgliad bod angen rhaglen o newid. Ystyriais nifer o opsiynau, ond penderfynais ymgynghori ar yr opsiwn a ffefrir gennyf, sef dod o hyd i ateb oddi mewn i’r sefydliad.

Daeth nifer o faterion a oedd yn peri pryder i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad, ac rwy’n awyddus i dawelu’r pryderon a fynegwyd. Yn gyntaf, rwy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r profiad helaeth sydd gan y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr a’u swyddogion. Ni ddylid colli’r arbenigedd hwnnw, nac ychwaith y berthynas weithio agos gyda physgotwyr. Bydd y strwythur newydd yr wyf yn ei ragweld ar gyfer Uned Pysgodfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn sicrhau cysondeb o ran y ffordd o fynd i’r afael â materion, drwy integreiddio staff presennol y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr. Ar hyn o bryd, rydym yn trafod gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi pwerau deddfwriaethol newydd i Weinidogion Cymru drwy gyfrwng y Mesur Morol. Gan ddibynnu ar y trafodaethau hynny a phroses Seneddol y Mesur Morol, byddai’r Pwerau hynny yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy gyfrwng yr Uned Pysgodfeydd, i gynnal y math o weithgareddau/swyddogaethau sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr.

Rwyf hefyd yn ymwybodol fod pryderon wedi cael eu mynegi ynghylch y rôl y mae Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yn eu chwarae ar hyn o bryd yn y gwaith o warchod yr amgylchedd morol, a’r pryder na fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu ymgymryd â’r rôl hon i’r un safon. Nid oes sail i’r pryder hwnnw. Mae cyfrifoldeb amlwg ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydymffurfio â’i holl oblygiadau o dan Gyfraith y Gymuned, gan gynnwys y rheini sy’n perthyn i’r amgylchedd. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau trafod y mater â charfanau sydd â buddiannau amgylcheddol i sicrhau bod yr amgylchedd morol yn cael ei amddiffyn yn ddigonol.

Rwyf hefyd yn sensitif i’r pryderon na fyddai adborth lleol, yn debyg i’r adborth a ddarperir gan Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr, o bosibl yn cael ei fwydo i’r drefn newydd. Rwyf o’r farn fod ystyried buddiannau lleol, wrth lunio polisi a rheoliadau, yn hanfodol. Bydd y trefniadau rheoli a gorfodi newydd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion bod yn agored, yn dryloyw ac yn gynhwysol. Bydd angen inni weithio’n agos iawn gyda phob sector yn y diwydiant pysgota. Byddaf yn datblygu mecanweithiau i sicrhau bod y rhanddeiliaid perthnasol, ac eraill sydd â buddiannau lleol, yn gallu cyfrannu’n effeithiol i’r broses o ddatblygu a chyflawni’r polisi.

Yn fy marn i, drwy sefydlu’r drefn reoli a gorfodi newydd hon, byddwn yn cymryd cam pwysig tuag at sicrhau nod Strategaeth Pysgodfeydd Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef sefydlu diwydiant pysgota sy’n economaidd hyfyw, ac sy’n cael ei reoleiddio’n effeithiol yng Nghymru. Datblygwyd y Strategaeth honno mewn cydweithrediad â phob sector o’r diwydiant, ac rwyf i a’m swyddogion yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth honno wrth inni weithio tuag at sefydlu’r drefn newydd hon.