Skip to content

Ysgrifenedig - Papur Gwyrdd “O’r gymdogaeth i’r wlad gyfan: plismona ein cymunedau gyda’n gilydd”

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Cefndir

Cyhoeddwyd y Papur Gwyrdd Plismona, “O’r gymdogaeth i’r wlad gyfan: plismona ein cymunedau gyda’n gilydd” gan y Swyddfa Gartref ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r Papur yn amlinellu cynigion Llywodraeth y DU i adeiladu ar y newidiadau ym maes plismona yn y blynyddoedd diwethaf a cheisio gwella plismona ymhellach ynghyd â’r ffyrdd y gall gyflawni er budd y cyhoedd. Dyma sail i ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad annibynnol Adolygiad o Blismona a arweiniwyd gan Syr Ronnie Flanagan, a’r Adolygiad Engaging Communities in Fighting Crime a arweiniwyd gan Louise Casey. Mae’r ddogfen hefyd yn seiliedig ar gyflwyniadau a wnaed gan Gymdeithas Awdurdodau’r Heddlu a chan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 10 Hydref ac ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref gyda sylwadau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Papur Gwyrdd ar 8 Hydref.

Mae llawer o gynnwys y papur yn ymwneud â materion plismona craidd sydd heb eu datganoli ond o ystyried swyddogaeth Llywodraeth y Cynulliad yn y gwaith o ariannu pedwar heddlu Cymru rydym yn ystyried bod costio holl gynigion y papur yn llawn ac yn gywir yn gwbl angenrheidiol. Rydym hefyd wedi gofyn i’r Swyddfa Gartref fod yn gyfrifol am ysgwyddo unrhyw ofynion ariannu ychwanegol a nodwyd yn llawn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnig cefnogaeth i nifer o’r cynigion, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â lleihau biwrocratiaeth a datblygu TG, a datblygiadau pellach mewn perthynas â Swyddogion Cymorth Diogelwch Cymunedol yr Heddlu. Mae’r argymhellion sy’n ymwneud â sicrhau cysylltiad agosach rhwng plismona cymdogaeth a rheoli cymdogaeth hefyd yn cyd-fynd â’n polisïau ar wella’r sector cyhoeddus. Hefyd, rydym yn cefnogi’r cynnig i ganolbwyntio ar gynyddu’r hyder sydd gan y cyhoedd yn yr heddlu yn sylweddol, ac i bennu targedau gwella ar gyfer yr holl heddluoedd yn y maes hwn.

Atebolrwydd Lleol – aelodau sydd wedi’u hethol yn uniongyrchol i Awdurdodau’r Heddlu

Mae’r Papur Gwyrdd Plismona yn cynnwys cynigion ar gyfer ethol unigolion yn uniongyrchol i fod yn aelodau o Awdurdodau’r Heddlu (sef Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona). Bydd yna aelodau annibynnol o hyd, ac fel ar hyn o bryd bydd o leiaf un aelod yn ynad neu’n ‘ynad lleyg’. Bydd o leiaf un cynghorydd etholedig hefyd yn parhau i fod yn aelod o Awdurdod yr Heddlu ond nid cynghorwyr lleol bellach fydd mwyafrif yr aelodau. Yn hytrach, Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona fydd y mwyafrif yn y dyfodol.

Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r cynigion i ethol aelodau yn uniongyrchol i Awdurdodau’r Heddlu. Rydym yn ystyried y bydd hyn heb os nac oni bai yn gwanhau’r cysylltiadau pwysig rhwng awdurdodau’r heddlu a’r awdurdodau lleol. Hefyd, nid yw’n glir pam nad yw’r cynghorwyr etholedig, sy’n ffurfio’r mwyafrif ar Awdurdodau’r Heddlu ar hyn o bryd, yn cael eu hystyried yn ddigonol i gynrychioli pryderon eu cymunedau lleol ynghylch materion troseddu a diogelwch cymunedol. O safbwynt ariannol, mae gan gynghorwyr lleol brofiad sylweddol mewn perthynas â chyllid lleol, y dreth gyngor a pholisi Llywodraeth y Cynulliad ar gapio. Maent hefyd yn gallu gweld y darlun mwy ac yn enwedig y cysylltiadau rhwng praeseptau a phrif lefelau’r dreth gyngor.

Mae’r papur yn cynnig y dylid ethol Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona ar sail ffiniau presennol Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ond efallai y bydd yn rhaid cyfuno neu rannu rhai ardaloedd oherwydd eu maint. Nid yw’n glir o gwbl sut y gellir cymodi cynnig o’r fath gyda’r bwriad i gael Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona yn fwyafrif ar Awdurdod yr Heddlu ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cael gwybod am ein pryderon.

Atebolrwydd Lleol - Cadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Mae’r Papur Gwyrdd hefyd yn cynnig mai’r Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona ddylai gadeirio’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn eu hardal. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi hyn. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn cydnabod ein cyfrifoldebau mewn perthynas â gwaith y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ac rydym yn gyfrifol am bennu unrhyw drefniadau ar gyfer cadeirio grwpiau strategaeth y Partneriaethau Diogelu Cymunedol yng Nghymru. Er nad yw aelodaeth, swyddogaethau a chyfrifoldebau Awdurdod yr Heddlu wedi’u datganoli, mae’r mwyafrif o’r Awdurdodau Cyfrifol sy’n ffurfio’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gyrff datganoledig. Hefyd, mae gan y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol amrywiaeth o gyfrifoldebau yng Nghymru nad ydynt yn hollol yr un fath â chyfrifoldebau’r Partneriaethau Lleihau Troseddau ac Anhrefn yn Lloegr. Un enghraifft yw gwaith i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, sydd wedi’i datganoli, ond hefyd i gyflawni strategaethau Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â throseddau ieuenctid a cham-drin domestig. Bellach, Llywodraeth y Cynulliad sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid uniongyrchol i’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae partneriaethau Cymru yn derbyn y cyllid hwn i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Mae’r gofyniad sy’n nodi bod rhaid i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol gael eu cadeirio gan Gynrychiolwyr Troseddau a Phlismona yn rhy gaeth yn ôl Llywodraeth y Cynulliad a byddai’n dileu maes pwysig sef penderfynu ar lefel leol. Hefyd, byddai’n debygol iawn o amharu’n sylweddol ar allu’r Partneriaethau Diogelwch cymunedol i weithredu’n effeithiol. Pe cyflwynir Cynrychiolwyr Troseddau a Phlismona rydym yn derbyn y gall fod yna achos i fynnu eu bod yn aelod o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yn enwedig gan fod rheoliadau eisoes yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r aelod etholedig gyda phortffolio ar gyfer diogelwch cymunedol fod yn aelod. Byddai hyn yn golygu y gellid ethol Cynrychiolydd Troseddau a Phlismona yn gadeirydd ond dim ond pe byddai gweddill aelodau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cytuno ar hynny.

Partneriaethau Diogelwch Cymunedol - Newidiadau i Aelodau a Swyddogaethau Statudol

Cynigir bod y Gwasanaeth Prawf yn dod yn aelodau statudol o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol trwy eu hychwanegu at y rhestr o Awdurdodau Cyfrifol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Hefyd, mae’n cynnig ychwanegu ‘gostwng ail-droseddu’ at restr dyletswyddau statudol pob Awdurdod Cyfrifol o dan y Ddeddf. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r cynigion hyn ond byddem y disgwyl bod unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth yn cydnabod swyddogaeth Gweinidogion Cymru fel yw’r achos ar hyn o bryd mewn perthynas â throsedd ac anhrefn.


Gweithio Mewn Partneriaeth Ehangach

Mae gwasanaethau cyhoeddus sy’n cydweithio i integreiddio a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion yn nodwedd allweddol o agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth y Cynulliad. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnig cymorth ar gyfer integreiddio gwasanaethau lleol ond disgwyliwn y bydd unrhyw newidiadau yn ystyried cyd-destun Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Rheoli a Gwella Perfformiad

Yn y bôn, mater i’r Swyddfa Gartref yw’r ffordd y mesurir perfformiad gwasanaeth yr heddlu. Fodd bynnag, o ystyried y pwyslais cynyddol ar fonitro partneriaeth a gweithio aml-asiantaeth, mae’n bwysig cydnabod bod gan Lywodraeth y Cynulliad fuddiant cyfreithlon yn narpariaeth ehangach y sector cyhoeddus. Yn arbennig, mae cyd-destun darpariaeth ehangach y gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol iawn yng Nghymru o gymharu â Lloegr ac nid yw hyn yn cael sylw yn y Papur. Yn ein barn ni, dylai’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth y Cynulliad gydweithio er mwyn edrych ar ba mor ymarferol yw hi i Lywodraeth y Cynulliad gael swyddogaeth ffurfiol i bennu blaenoriaethau ar gyfer plismona.

Ariannu’r Heddlu

Mae’r Papur Gwyrdd yn cadarnhau bwriad y Swyddfa Gartref i newid i weithredu’r fformiwla ariannu’n llawn cyn gynted â phosibl sy’n cyd-fynd â sicrhau sefydlogrwydd ariannol holl awdurdodau’r heddlu. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i adolygu holl ffynonellau ariannu’r Llywodraeth ar gyfer yr heddlu, gan gynnwys grant cyffredinol, y grantiau penodol sy’n weddill a gwariant canolog, yn ogystal â’r fformiwla ariannu ei hun, i weld a yw’r gymysgedd rhyngddynt yn iawn, yn deg ac yn fforddiadwy ac a ellir canfod ffordd well o gyfateb adnoddau i angen, sy’n dal i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yr holl heddluoedd.

Mae’r mecanwaith ariannu gwaelodol sy’n sicrhau bod heddluoedd Cymru a Lloegr yn cael y lleiafswm codiad blynyddol i’w cyllid yn golygu bod tri o’r pedwar heddlu yng Nghymru yn elwa ar hyn o bryd. Heddlu De Cymru yw’r unig Awdurdod nad yw wedi bod yn elwa ar y mecanwaith gwaelodol ar hyn o bryd. Hefyd, mae’r cyllid sy’n cefnogi’r mecanwaith gwaelodol yn gweithredu’n wahanol yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr mae’n gweithredu fel mecanwaith i ailgylchu Grant Cymorth Refeniw ond yng Nghymru mae’n gweithredu fel cronfa ariannu ar wahân. O ystyried y ffactorau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn pryderu sut y gall newid yn gyflym i weithredu’r fformiwla ariannu’n llawn beryglu sefydlogrwydd ein pedwar heddlu.

Felly, mae Llywodraeth y Cynullid yn cefnogi’r gwaith o adolygu holl ffynonellau ariannu’r llywodraeth sy’n cydnabod bod yn rhaid taro cydbwysedd rhwng anghenion ychwanegol plismona mewn ardaloedd trefol gyda lefelau trosedd uchel a chostau ychwanegol darparu gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu a chefnogi sawl un o’r cynigion ond yn bryderus iawn ynglŷn ag elfennau penodol megis aelodau yn cael eu hethol yn uniongyrchol i Awdurdodau’r Heddlu a Chynrychiolwyr Troseddau a Phlismona i Gadeirio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae llawer o’n rhanddeiliaid yng Nghymru megis Awdurdodau Heddlu Cymru yn rhannu’n pryderon a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried y safbwyntiau hyn.