Skip to content

Llafar - Bryderon Diweddar ynghylch Gwasanaethau Mamolaeth Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mis Mawrth eleni, yr oeddwn yn falch o agor yr ystafelloedd mamolaeth newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Yn y digwyddiad hwnnw, fodd bynnag, dygwyd pryderon i’m sylw am y gwasanaethau mamolaeth yng Ngwent ac, yn arbennig, am nifer y bydwragedd sy’n cael eu cyflogi yn yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd. Adleisiwyd y pryderon hyn mewn pryderon a godwyd gyda mi hefyd gan rai Aelodau Cynulliad lleol. O ganlyniad, cytunais i gwrdd â dirprwyaeth o fydwragedd o Went, ynghyd â’u cynrychiolydd Undeb a chyda’r Dirprwy Lywydd. Cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw ar 18 Mawrth.

Mae ymchwiliadau ers hynny wedi ei gwneud yn glir fod sawl llinyn unigol, ond nid digyswllt, i’r sefyllfa ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth yng Ngwent. Gyda’i gilydd, mae’r materion hyn yn peri lefel o bryder sydd wedi arwain at y datganiad llafar hwn.

Yr oedd a wnelo’r sylw cychwynnol gan grŵp o fydwragedd o Went â’r ailstrwythuro ar y gwasanaethau mamolaeth yn yr ymddiriedolaeth. Yr oedd hynny’n cynnwys y broses ymgynghori a’r canlyniad o ran ailraddio swyddi unigol, sydd wedi bod yn destun cwyn ffurfiol. Tynnodd y bydwragedd sylw hefyd at wahaniaeth yn eu tyb hwy rhwng yr amgylchedd clinigol yn Ysbyty Nevill Hall a’r amgylchedd clinigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Pryder cyffredinol oedd nad oedd digon o fydwragedd ar draws yr ymddiriedolaeth i ddarparu gwasanaeth diogel a digonol i famau a babanod.

Gofynnais i’r prif swyddog nyrsio ymchwilio, ar fy rhan, i’r materion a godwyd ac adrodd yn ôl. Yr oedd ymchwiliadau’r prif swyddog nyrsio yn cynnwys ymweliadau dirybudd ag Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, cyfarfod rhwng rheolwyr y nyrsys gweithredol a’r gwasanaeth mamolaeth a’r prif swyddog nyrsio, ymchwiliad i’r prosesau adnoddau dynol a’r ffordd yr ymdriniwyd â’r ymarferiad ailstrwythuro, a chyfarfod rhwng Arolygiaeth Iechyd Cymru a’r prif swyddog nyrsio ynglŷn â phryderon diogelwch yng nghyswllt mamau a babanod.

Er nad oedd modd profi llawer o’r materion, amlygwyd dau faes yn arbennig yr oedd angen sylw arnynt mor fuan â phosibl, sef prinder staff cydnabyddedig, fel yr oedd y pecyn mesur llwyth gwaith, Birthrate Plus, yn ei ddangos, a’r diffyg arweinyddiaeth a rheolaeth a oedd ar waith i gynnal y staff ac i symud y gwasanaeth ymlaen.

Yn y cyfamser, y llynedd, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adolygiad o’r gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Yn dilyn y pryderon y tynnwyd sylw atynt yn y gwaith hwn, penderfynodd AGIC gynnal adolygiad arbennig yng Ngwent, gan ganolbwyntio ar y systemau a oedd wedi cael eu sefydlu i sicrhau diogelwch mamau a babanod. Ar ôl trafod y canfyddiadau cynnar gyda phrif weithredwr AGIC, credaf fod y sefyllfa a ddisgrifiwyd yn annerbyniol. Mae AGIC hefyd yn credu bod y diffygion o ran rheolaeth ac arweinyddiaeth a’r trefniadau staffio sydd ymhell o fod yn foddhaol yn effeithio’n andwyol ar sefyllfa’r gwasanaethau mamolaeth yng Ngwent. Fodd bynnag, yn ôl y cyngor yr wyf wedi’i gael gan y prif swyddog nyrsio ac AGIC, credaf fod modd unioni’r sefyllfa hon yn gymharol gyflym os yw pobl yn benderfynol ac y ceir arweinyddiaeth dda.
Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd ei farn yn hysbys nad oes modd i fydwragedd, heb y lefel briodol o staff, ddarparu cymorth i elfennau allweddol o ofal mamolaeth, megis trefnu apwyntiadau cyn geni a chymorth bwydo o’r fron. Mae’r coleg yn galw ar yr ymddiriedolaeth i gynyddu’r staffio i’r lefel a nodir gan Birthrate Plus, sef 15 aelod staff ychwanegol ar ben y nifer sy’n cael eu recriwtio gan yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd.

O ganlyniad i’r uchod i gyd, yr wyf wedi gweithredu fel a ganlyn. Yn gyntaf, yr wyf wedi derbyn cyngor AGIC y dylai sefydlu ei phrotocol mesurau arbennig ar gyfer y gwasanaethau mamolaeth yng Ngwent. I’r perwyl hwnnw, cyfarfu AGIC â’r ymddiriedolaeth ddydd Iau diwethaf, 15 Mai, i drafod cynnwys cynllun gweithredu y mae rhaid iddo ymdrin â’r holl ddiffygion sydd wedi cael eu nodi mewn modd amserol a thrylwyr. Mae’r arolygiaeth yn fodlon, cyhyd â bod y camau a amlinellwyd gan yr ymddiriedolaeth yr wythnos diwethaf yn cael eu gweithredu mewn modd amserol, y crëir y newid angenrheidiol. Bydd y cynnydd yn cael ei fonitro gan yr arolygiaeth yn wythnosol, nes bydd o’r farn fod lefel dderbyniol o welliant wedi cael ei sicrhau. Yn fy nhro, byddaf finnau’n gofyn am adroddiadau diweddaru rheolaidd gan AGIC fel y gallaf fod yn siŵr fod cynnydd cyflym a thrylwyr yn cael ei wneud.

Yn fwy cyffredinol, yr wyf wedi bod yn ddigon pryderus ynglŷn â chanfyddiadau’r arolygiaeth yn yr ardal hon i ofyn iddi ddod ag arolygiadau o’r gwasanaethau iechyd cymuned ac iechyd meddwl ymlaen yn yr ymddiriedolaeth, fel bod modd rhoi’r materion y mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio arnynt mewn cyd-destun ehangach.

Yn ail, yr wyf wedi gofyn i Ann Lloyd fel prif weithredwr y GIG yng Nghymru ymyrryd ym modd y rheolir y gwasanaethau hyn. Mae hithau wedi gofyn i Denise Llewellyn, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin gynt, adolygu effeithiolrwydd arweinyddiaeth y gwasanaethau hyn, ac i weithio gyda’r rheolwyr dros y tri mis nesaf i roi gwelliannau ar waith yn y gwasanaethau.

Yn olaf, cyfarfûm â chadeirydd yr ymddiriedolaeth yn gynharach heddiw i sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’m pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r gwasanaethau hyn. Yr oedd yn gyfarfod cadarnhaol, a chytunodd y cadeirydd fod angen inni weithio gyda’n gilydd a chefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn yr ymddiriedolaeth. Ceir hefyd faterion ynglŷn â chysylltiadau diwydiannol yn y sefydliad, ac yr wyf wedi gofyn i David Jenkins ymchwilio i’r rheini ar fy rhan.
Mae diogelwch cleifion ac ansawdd a thegwch y gwasanaethau y maent yn eu cael o’r pwys pennaf i bawb ohonom, ac yr wyf yn benderfynol o weithredu ar y pryderon y gallai’r gofal i gleifion gael ei beryglu. Byddaf yn adrodd yn ôl i’r Aelodau ymhellach ar y materion a amlinellir yma fel y bydd datblygiadau’n digwydd.