Skip to content

Llafar - Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Hoffwn wneud datganiad yn nodi ymateb y Llywodraeth i adroddiad cam cyntaf yr Athro Merfyn Jones, cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen sy’n adolygu addysg uwch yng Nghymru. Yr wyf hefyd yn awr yn cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i roi ffocws newydd i’r system cyllid myfyrwyr yng Nghymru.

Ar 25 Mehefin, cyhoeddais fod y grŵp hwnnw’n cael ei sefydlu, ynghyd â’i gylch gorchwyl. Yr oedd y cam cyntaf yn ystyried mater cyllid myfyrwyr, a chafodd adroddiad y cadeirydd ar y mater hwnnw ei gyhoeddi ddoe. Yr wyf yn ddiolchgar i Merfyn ac aelodau’r grŵp am gwblhau eu trafodaethau yn gyflym ac am rym eu dadleuon. Ac ystyried bod cyfansoddiad y grŵp mor eang, yn cynrychioli gwahanol fuddiannau yn y sector AU, gan gynnwys y myfyrwyr, mae cael cyfres o argymhellion a gefnogir gan bawb a fu â rhan ynddo yn hynod o beth.

Mae’r adroddiad yn dechrau drwy ddadansoddi’r system bresennol o gyllid myfyrwyr i israddedigion amser llawn. Er gwaethaf ei rhinweddau, daw’r adroddiad i’r casgliad nad y system hon yw’r opsiwn mwyaf effeithiol na mwyaf cynaliadwy mwyach. Ar ben hynny, daw’r adroddiad i’r casgliad hefyd fod y system bresennol yn annhebygol o wireddu polisïau allweddol cytundeb 'Cymru’n Un’, gan gynnwys ehangu mynediad, mynd i’r afael â dyledion myfyrwyr, a chryfhau’r sector addysg uwch. Yn ei lle, mae’r adroddiad yn awgrymu ffordd newydd o ymdrin â chyllid myfyrwyr, a fyddai’n ein helpu’n well i wireddu ein blaenoriaethau polisi.

Af ati yn awr i amlinellu’n fyr y drefn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu ymgynghori yn eich chylch ym mhob un o’r tri mae polisi canlynol: cymorth i fyfyrwyr, mynd i’r afael â dyledion myfyrwyr, a buddsoddi mewn addysg uwch. Pwysleisiaf fod y broses ymgynghori yn real a phwysig. Bydd yr egwyddorion a amlinellwyd heddiw yn sylfaen i’r broses honno. Mae manylion y cynigion, fodd bynnag, yn dyngedfennol, a bydd y farn a fynegir yn ystod yr ymgynghori yn cyfrannu’n wirioneddol tuag at lywio’r canlyniad terfynol

Man cychwyn unrhyw system ddiwygiedig o reidrwydd, yn fy marn yw, yw’r help y bydd yn ei gynnig i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n mynd i addysg uwch. Daw’r grŵp gorchwyl a gorffen i’r casgliad y gallai’r system cyllid myfyrwyr wneud mwy i ehangu mynediad. Yr wyf yn cynnig felly fod cyfran sylweddol o’r adnoddau a neilltuir ar hyn o bryd i’r grant ffioedd dysgu yn cael ei ailgyfeirio drwy well system o grantiau dysgu gan y Cynulliad. Bydd grantiau dysgu newydd y Cynulliad yn llawer mwy hael i fyfyrwyr o aelwydydd sydd ar incwm is, a byddant yn dal ar gael, ar sail prawf modd, i’r rhai o aelwydydd sydd ar incwm canolig. Bydd sut y caiff yr adnoddau hyn eu dyrannu rhwng gwahanol grwpiau incwm yn rhan o’r ymgynghoriad. Mae tua thraean y myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel arfer yn cael grant dysgu llawn gan y Cynulliad ar hyn o bryd.

Bydd effaith gyfun grantiau dysgu mwy hael gan y Cynulliad a mwy o fynediad at fenthyciadau i fyfyrwyr yn golygu y bydd cyfanswm yr help sydd ar gael i fyfyrwyr incwm isel yn cynyddu. Mae modelu a wnaethpwyd gan y grŵp adolygu yn awgrymu, er enghraifft, y gallai’r cymorth i fyfyrwyr incwm isel ar ffurf grantiau a benthyciadau gyda’i gilydd godi mwy na 10 y cant, i ychydig o dan £11,000. Gadewch imi fod yn glir na fydd y gofynion cymhwyso yn newid i unrhyw fyfyriwr y mae ganddo hawl i’r grant ffioedd dysgu am ei gwrs astudio cyfredol ar ei hyd, ac na fydd y system ar ei newydd wedd yn effeithio ar hawl myfyrwyr sy’n dechrau ar addysg uwch mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2009-10. Câi newid ei gyflwyno’n radd a bwriadwn iddo ddechrau gyda myfyrwyr newydd o ddechrau blwyddyn academaidd 2010-11. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn targedu ein help at y rhai y mae’r mwyaf o’i angen arnynt ac inni wneud popeth a allwn i ehangu mynediad i addysg uwch a chyfranogiad ynddi. Dyna a wnaiff y system ddiwygiedig a gynigir yn adroddiad yr Athro Jones ac a gymeradwyir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Yr wyf yn benderfynol hefyd ein bod yn gweithredu i fynd i’r afael â dyledion myfyrwyr. Mae adroddiad yr Athro Jones yn ystyried nifer o ffyrdd eraill posibl o symud yr ymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ i ddarparu cymorth ychwanegol gyda dyledion myfyrwyr ymlaen. Fel y mae’r adroddiad yn ei argymell, yr wyf wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i indecs gysylltu’r trothwy cymhorthdal ad-dalu benthyciadau, sydd wedi’i bennu ar hyn o bryd ar lefel incwm o £15,000 y flwyddyn. Bwriadaf wneud mwy. Y drefn yr wyf fi’n ei ffafrio yw chwilio am ffyrdd o ostwng dyledion graddedigion. Byddaf yn gweithio ar y manylion deddfwriaethol ac ariannol dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mae’n un ffordd y bydd ymgynghori yn ein helpu i lunio manylion dull newydd, a saernïwyd yng Nghymru, i fynd i’r afael â dyledion myfyrwyr. Er mwyn gostwng dyledion, bydd angen canfod adnoddau newydd, yn cynnwys adnoddau ar wahân i arian parod sydd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a’i swyddogion am eu cymorth yn archwilio ffordd newydd a llawn dychymyg o gynyddu’r buddsoddiad mewn addysg uwch drwyddo draw ac o helpu myfyrwyr.

Yn olaf, trof at y drydedd flaenoriaeth polisi a amlinellwyd yn gynharach: mwy o gymorth i sector addysg uwch Cymru. Wrth inni symud i system newydd o gyllid myfyrwyr, awgrymodd y tîm adolygu y dylai cyfran o’r adnoddau a ryddheir gael ei hail-fuddsoddi yn y sector ei hun. Mewn cyfnod pan fydd hi’n anodd iawn denu adnoddau newydd ar gyfer unrhyw rai o’n gwasanaethau cyhoeddus, credaf y bydd hyn yn help pellach i sicrhau bod sefydliadau addysg uwch yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod yn arweinwyr yng nghyd-destun y DU ac mewn cyd-destun rhyngwladol.

Mae’r tîm adolygu eisoes wedi troi at gam 2 ei waith, i ddarparu cyngor ynglŷn â chenhadaeth, pwrpas, rôl a chyllid addysg uwch yng Nghymru. Mae i fod i adrodd erbyn mis Mawrth 2009. Byddaf yn ystyried yr argymhellion a gaf wrth benderfynu ar y mathau o fuddsoddi a fydd yn darparu’r gwerth gorau. Gadewch imi ei gwneud yn glir, fodd bynnag, y byddai gofyn i’r buddsoddi hwn ddigwydd ar sail rhywbeth-am-rywbeth, a gwn fod y sector yn cydnabod hynny. Câi’r adnodd hwn ei ddefnyddio i dargedu blaenoriaethau yn y sector addysg uwch, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth 'Cymru’n Un’ yn y Cynulliad, megis yr astudiaeth o bynciau y rhoddir blaenoriaeth iddynt ac addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Yn unol ag argymhellion y grŵp yng ngham 1, bydd hyn hefyd yn cynnwys gwneud mwy o ddarpariaeth ar gyfer bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ychwanegol a dargedir.

Mae’r datganiad heddiw yn cynrychioli cam pwysig ymlaen o ran gwireddu’r ymrwymiadau a gyflwynwyd yn 'Cymru’n Un’. Bydd y system newydd yr wyf wedi’i chyflwyno yn ehangu mynediad, yn helpu i fynd i’r afael â dyledion myfyrwyr, ac yn darparu hwb buddsoddi sylweddol i’n sector addysg uwch. Edrychaf ymlaen at y cyfnod ymgynghori a fydd yn dilyn yn awr.