Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Deng Mlynedd Cymru ar Ddigartrefedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, Y Dirprwy Weinidog dros Dai
Mae’r Cynllun Deng Mlynedd drafft ar Ddigartrefedd yn cael ei ryddhau i’w ymgynghori yn ei gylch ar 13 Tachwedd 2008. Byddaf yn cyhoeddi lansiad yr ymgynghoriad yn y Gynhadledd Ewropeaidd ar Ddigartrefedd a drefnir gan FEANTSA mewn partneriaeth â Shelter Cymru, sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Mae’r ymgynghoriad yn datblygu ein hymrwymiad yn nogfen ‘Cymru’n Un’ i gyflwyno cynllun deng mlynedd i fynd i’r afael â digartrefedd, ac mae wedi’i baratoi gyda chymorth ein partneriaid allanol.

Prif amcan y Cynllun yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl yn ddigartref, a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar fesurau i atal digartrefedd lle bynnag y bo’n bosibl. Bydd rhaglen weithredu fanwl yn cael ei pharatoi i gefnogi’r Cynllun terfynol mewn pryd i’w lansio yng ngwanwyn 2009.

Fy mwriad yw sicrhau bod y Cynllun hwn yn pennu cyfeiriad strategol hirdymor ar ein cyfer ni ac ar gyfer ein partneriaid o ran mynd i’r afael â digartrefedd. Mae’n cynrychioli ein dull o fynd ati i atal problemau cymdeithasol ac anghyfiawnder ar draws y Llywodraeth. Byddaf yn disgwyl gweld yr ymrwymiad a’r dull hwn o weithio yn cael ei adlewyrchu ar lefel genedlaethol a lleol, a’i amlygu yn y broses o gynllunio, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau.

Mae’r Cynllun drafft yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth y Cynulliad y bydd yn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd y fframwaith statudol presennol er mwyn diwallu anghenion pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Rwyf yn cydnabod y pwysau sy’n cael eu rhoi ar yr Awdurdodau Lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â digartrefedd, a bydd unrhyw welliannau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth yn cael eu hystyried ar ôl i’r adolygiad hwn gael ei gwblhau. Ni wneir unrhyw newidiadau heb ddadansoddi eu heffaith, heb ymgynghori nac ystyried sut y gall yr Awdurdodau Lleol sicrhau’r adnoddau i gyflawni unrhyw ddyletswyddau newydd a osodir arnynt.

Bydd yr ymgynghoriad ar y Cynllun yn para am 14 wythnos er mwyn ystyried cyfnod y gwyliau Nadolig. Caiff ei ddosbarthu’n eang i’r holl randdeiliaid perthnasol ac eir ati i ymgynghori drwy’r rhwydwaith dai a’r rhwydweithiau polisi cysylltiedig. Gofynnir i gyrff sy’n gweithio gyda phobl ddigartref eu cynnwys yn y broses o lunio ymatebion i’r Cynllun. Yn dilyn hynny, bydd adroddiad cryno o’r adborth yn cael ei baratoi.

Fy ngobaith yw y bydd pob corff sy’n gweithio gyda phobl ddigartref yn ymateb i’n hymgynghoriad, ac edrychaf ymlaen at gael amrywiaeth o gyfraniadau fydd yn ysgogi trafodaeth er mwyn ein helpu i baratoi ein dogfen derfynol.

Bydd dadl yng Nghyfarfod Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei chynnal ar 10 Mawrth 2009 i drafod sut y gellid datblygu’r Cynllun hwn ymhellach.