Skip to content

Ysgrifenedig - Tai mewn ardaloedd gwledig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

Rwy'n cyhoeddi ar ddydd Llun 7 Gorffennaf, ragor o fentrau polisïau cynllunio a fydd o gymorth inni gyflawni ein hymrwymiadau Cymru'n Un ar dai fforddiadwy. Bwriad y ddogfen fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun yn gwella cynaliadwyedd cymunedau gwledig. Bu'n bosibl inni gynnwys hefyd y materion cynllunio sy'n gysylltiedig â thai fforddiadwy a godwyd gan adroddiad diweddar Joseph Rowntree ac Adroddiad Essex.

Mae'r newidiadau allweddol i'r ddogfen ymgynghori yn cynnig:

Anheddau hanfodol:

Y gallai unrhyw fenter wledig gyfreithiol, nid y diwydiannau ffermio a choedwigaeth yn unig, wneud cais i adeiladu annedd yng nghefn gwlad at ddefnydd y perchennog, ar yr amod bod modd dangos yr angen amdano i’r busnes. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod gweithwyr gwledig yn cael anawsterau i ddod o hyd i lety, a bod angen inni ehangu'r cwmpas o'r hyn sy'n cael eu galw'n 'anheddau hanfodol' i bob mathau o fentrau gwledig. Hefyd, y gallai gweithiwr gwledig mewn menter wledig sefydliedig, wneud cais am annedd newydd pe byddai angen, o ran y busnes, i'r gweithiwr fyw yn eu gweithle, neu'n agos ato, yn hytrach na mewn setliad cyfagos. Byddai'r anheddau newydd yn cael eu ddosbarthu fel tai fforddiadwy.

Olyniaeth amaethyddol:

Cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid i ffermio trwy ganiatáu i ail annedd o fewn adeiladau'r fferm neu'n gyfagos i'r fynedfa i'r fferm, i hwyluso olyniaeth busnes y fferm. Mae hyn yn rhoi cartref i ffermwr sy'n raddol yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am reoli'r fferm. Bydd yr annedd newydd yn cael ei ddosbarthu fel tŷ fforddiadwy. Gallai diffyg llety addas amharu ar yr olyniaeth.

Daliad fferm sy’n bodoli eisoes - annedd ychwanegol

Gellid darparu ail annedd (sy'n cael ei ddosbarthu fel tŷ fforddiadwy) lle y mae meddiannydd presennol y tŷ fferm yn gweithio'n llawn-amser ar y fferm a bod angen i’r person sy'n gwneud cais am yr annedd newydd, o ran ei swyddogaeth, weithio'n rhan-amser ar y daliad - rydym yn awgrymu 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd dros y flwyddyn.

Tai’r farchnad gyffredinol – cyfraniadau at dai fforddiadwy

Dylai holl dai’r farchnad gyffredinol, gan gynnwys anheddau sengl ac addasiadau, gyfrannu tuag at dai fforddiadwy. Rydym yn cynnig bod y symiau gohiriedig fydd yn cael eu creu yn cael eu cadw gan yr awdurdod lleol a'u defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy yn uniongyrchol neu helpu i'w darparu trwy ddefnyddio swyddog galluogi tai gwledig er enghraifft neu gyfrannu at ymddiriedolaeth tir cymunedol.

Tai mewn grwpiau bach neu safleoedd clwstwr yng nghefn gwlad agored

Dylai plotiau tai sydd o fewn neu'n gyfagos i glystyrau tai bach sy'n dod ar gael eu cyfyngu i bobl sydd angen tai fforddiadwy ac sy'n gweithio yn y gymuned leol.

Safleoedd Eithriedig i Dai Fforddiadwy

Ar hyn o bryd mae gennym safleoedd eithriedig gwledig, o fewn neu'n gyfagos i setliadau gwledig, nad ydynt yn y cynllun datblygu i gael eu defnyddio ar gyfer tai fforddiadwy yn unig. Rydym yn datblygu argymhelliad Adroddiad Essex ac yn gofyn a ellid defnyddio'r polisi hwn ym mhob cymuned yng Nghymru, ac nid ardaloedd gwledig yn unig.

Datblygiad Bach ei Effaith

Datblygiad bach ei effaith yw datblygiad, oherwydd yr effaith negyddol bach a gaiff, sydd naill ai'n gwella neu sydd ddim yn lleihau ansawdd amgylcheddol yn sylweddol. Mae aelodau'r cynllun fel arfer yn byw ac yn gweithio ar yr un safle, ac maent yn anelu at fod yn hunangynhaliol o ran eu bywoliaeth, gydag ynni, y defnydd o ddŵr, draeniad, a chael gwared o garthion a gwastraff yn cael ei ddarparu ar y safle. Rydym yn awgrymu y gallai awdurdodau cynllunio lleol ystyried polisïau neu nodi safleoedd addas ar gyfer cynlluniau o'r fath.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau yn ystod wythnos y 7 Gorffennaf a daw i ben ar 10 Hydref 2008. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y polisïau diwygiedig yr ydym yn bwriadu eu datblygu yn cael eu cynnwys mewn Datganiad Polisi Cynllunio Interim Gweinidogol drafft er mwyn ymgynghori arno. Bydd newidiadau technegol i'r canllawiau cynllunio yn cael eu cynnwys mewn fersiynau diwygiedig drafft o Nodyn Cyngor Technegol 6 “Datblygiad Amaethyddol a Gwledig” a Nodyn Cyngor Technegol 2 “Cynllunio a Thai Fforddiadwy”.