Yr oedd y cytundeb 'Cymru’n Un’ yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i ddull gweithredu newydd ar gyfer cyflwyno newid yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Mae’n werth ailadrodd y termau a ddefnyddiwyd i drafod y mater hwn:
'Os bydd y cynigion yn ddadleuol, byddwn yn bwrw ymlaen ar sail tystiolaeth y cytunwyd arni...Lle gwelir diffygion neu fylchau yn y dystiolaeth bresennol, byddwn yn ceisio tystiolaeth newydd ac yn trefnu rhagor o ymgynghori cyhoeddus.’
Bu’n bolisi gennyf i adrodd mor rheolaidd â phosibl gerbron Aelodau ar gynnydd yr adolygiadau gwahanol a roddwyd ar waith i ddiwallu’r rhwymedigaeth hwnnw yn 'Cymru’n Un’. Heddiw, mae arnaf eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am amrywiaeth o’r mentrau hyn yng nghyswllt y ffordd y maent yn effeithio ar y gogledd, gan ddatgan cyhoeddi adroddiadau terfynol un adolygiad a’r ffordd yr wyf yn bwriadu ymateb.
Gan droi at yr adolygiad o wasanaethau cymunedol, bydd Aelodau’n cofio imi ofyn i Dr Christopher Jones CBE, cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf a meddyg teulu, adolygu’r cynlluniau cyfredol ar gyfer gwasanaethau cymunedol yn y gogledd, a rhoi adroddiad imi ynghylch eu priodoldeb, Yr wyf yn cwrdd â Dr Jones prynhawn yma i drafod ei ganfyddiadau, a byddaf yn gwneud datganiad arall i Aelodau ar ôl imi gael ei adroddiad terfynol.
Mae’r adolygiad o lywodraethau clinigol yn Abergele yn fater arall. Yr wyf yn dymuno adrodd ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethu clinigol yn Ysbyty Abergele, lle yr wyf wedi comisiynu adroddiad annibynnol gan Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru. Mae’r broses wedi amlygu rhai materion yng nghyswllt y berthynas rhwng yr academi yng Nghymru a’r academi yn Llundain. Gobeithiaf mai un o sgil gynhyrchion y comisiwn fydd rhoi’r academi yng Nghymru ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol. Yn y cyfamser, cytunwyd ar ffordd ymlaen yn fras, a threfnwyd cyfarfod ar gyfer yr wythnos nesaf rhwng fy uwch swyddogion a’r Fonesig Carol Black, llywydd yr academi, lle gellir datrys unrhyw faterion sydd ar ôl a gall y gwaith gwirioneddol ddechrau. Mewn datblygiad cysylltiedig, gallaf adrodd imi gael cyngor yn gynharach heddiw ar yr achos busnes a gyflwynwyd yng nghyswllt canolfan gofal sylfaenol newydd Abergele, ac yr wyf yn falch o gyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo’r achos y bore yma.
Bydd Aelodau’n cofio imi ofyn i fy swyddogion gomisiynu adolygiad o’r materion strwythurol yng nghyd-destun y newidiadau a gynigir ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r adolygiad hwn yn cael ei derfynu a byddaf yn cynnwys y canlyniad mewn datganiad arall i Aelodau, a gobeithio y caiff hwnnw ei wneud cyn y toriad.
Ym mis Medi 2007, comisiynwyd Michael Williams, cadeirydd dros dro Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, i gynnal adolygiad o’r prosesau ymgynghori a fabwysiadwyd yng nghyswllt ailgyflunio gwasanaethau yn ysbytai Prestatyn a Blaenau Ffestiniog. Mae’r adolygiad hwn nawr yn ei gamau terfynol ac yr wyf yn ffyddiog y bydd yr adroddiad terfynol gennym cyn diwedd yr wythnos hon ac y byddaf mewn sefyllfa i’w gyhoeddi a gwneud datganiad llafar arall gerbron y Cynulliad wythnos nesaf, os bydd y busnes yn caniatáu imi wneud hynny.
Trof yn awr at yr adolygiad o wasanaethau yn Ysbyty Llandudno. Yr wyf wedi cael fersiwn terfynol adolygiad Frank Burns o’r materion hyn y bore yma ac yr wyf wedi awdurdodi ei gyhoeddi. Darparwyd copïau ar gyfer Aelodau. Cynhaliodd Mr Burns, cyn brif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Cilgwri sydd bellach wedi ymddeol, ei adolygiad rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2007. Goruchwyliwyd y gwaith gan grŵp llywio a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ymddiriedolaethau a Bwrdd Iechyd Lleol Conwy, cynrychiolwyr o ochr y staff ac aelodau cynghrair cyfeillion Ysbyty Llandudno a Chyngor Iechyd Cymuned Conwy.
Cynhaliwyd yr adolygiad yn ystod cyfnod o bryder cyffredinol ledled y gogledd gan fod gweithwyr proffesiynol a phobl leyg o’r farn nad oedd y ddogfen 'Cynllun Gogledd Cymru’ wreiddiol yn cynrychioli nac yn datblygu dyfodol Llandudno yn ddigonol.
Mae’r adroddiad a gefais heddiw yn gosod allan nifer o gynigion cadarnhaol ar gyfer dyfodol Llandudno. Mae’n disgrifio set o wasanaethau sy’n gwarantu’r boblogaeth leol y bydd yr ysbyty’n parhau i wasanaethu eu hanghenion ymhell i’r dyfodol. Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys: cadw cyfleuster mân anafiadau Ysbyty Llandudno; datblygu gwasanaeth rhiwmatoleg ac uwchraddio’r gwasanaeth radioleg; ymestyn y gwasanaeth gastroenteroleg cyfredol i gynnwys ystafell endosgop benodol yn yr ysbyty; ymestyn y gallu achosion dydd llawfeddygol ac amrywiaeth y gwaith y gall ei gyflawni; gwella’r ystod o waith cleifion allanol a’r cyfleusterau i gefnogi’r gwaith hwnnw; a darparu uned wyth gwely, cleifion mewnol, anafiadau a gafwyd i’r ymennydd a fyddai, ochr yn ochr â’r gwasanaeth adsefydlu strôc, yn gallu adeiladu enw da’r ysbyty fel canolfan adsefydlu niwrolegol.
Daw’r adroddiad hefyd i’r casgliad y dylid ystyried lleoli canolfan cataract ar gyfer y pedair sir yn Ysbyty Llandudno, cynyddu gwaith achos cleifion allanol a chleifion dydd orthopedig, a darparu gwasanaeth strôc wedi’i ganoli ar gyfer y pedair sir, canolfan geni dan arweiniad bydwragedd a sganiwr MRI ar y safle i gefnogi mynediad dewisol.
Yr wyf yn meddwl y bydd Aelodau’n cytuno bod hon yn rhestr drawiadol o ddarpar ddatblygiadau sydd, a’u hystyried gyda’i gilydd, yn cynrychioli agenda gref ar gyfer Llandudno fel ysbyty acíwt dros flynyddoedd lawer i ddod. A dweud y gwir, yr oedd yn demtasiwn gennyf ddod o’ch blaenau’r prynhawn yma a chyhoeddi fy mod yn derbyn yr adolygiad ac yn cymeradwyo’r casgliadau. Ni fyddai cam o’r fath wrth gwrs wedi diwallu un arall o ymrwymiadau 'Cymru’n Un’, y cyfeiriais ato yn y dechrau:
'Byddwn yn sicrhau bod cynnal cysylltiadau democrataidd yn cael lle canolog yn y GIG’.
Er fy mod yn benderfynol o adrodd gerbron Aelodau’r Cynulliad mor rheolaidd â phosibl, yr wyf wedi bod yr un mor benderfynol o sicrhau fy mod, fel Gweinidog, yn ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau a mudiadau lleol mor aml â phosibl ac mor eang â phosibl. Yr oeddwn yn Llandudno’r wythnos diwethaf yn cwrdd â’r rheini sydd â gwir ddiddordeb yn y materion hyn, fel yr wyf wedi’i wneud dros fisoedd lawer. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i’r rheini sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser a’u hymdrech i gynrychioli cleifion a phobl leol.
Yn sgil y trafodaethau hyn yr wyf yn gwybod bod llawer yn yr adroddiad a groesewir yn helaeth. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn gwybod y bydd pryderon parhaus ynghylch dyfodol y gwasanaethau strôc, coronaidd a gofal y fron yn Llandudno. Mae adolygiad Burns yn cymeradwyo’r cynigion yn y ddogfen 'Cynllun Gogledd Cymru’ wreiddiol y dylid adleoli gwaith gofal coronaidd a strôc acíwt i Ysbyty Glan Clwyd. Daw hefyd i’r casgliad er y dylid ymestyn gwasanaethau gofal y fron ar gyfer sgrinio symptomatig ac ymchwilio, dylid hefyd adleoli gwasanaethu llawfeddygol gofal y fron i Glan Clwyd.
Yn y cyswllt hwn, mae’r adolygiad o wasanaethau henoed bregus eu meddwl yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Conwy hefyd yn berthnasol oherwydd ei bod yn bosibl y byddai safle Bodnant yr uned, sydd hefyd yn gartref i Bron Brawf Cymru, wrth ymyl Ysbyty Llandudno, yn rhydd gan agor y ffordd ar gyfer ailddefnyddio’r safle i wella gwasanaethau gofal y fron o bosibl.
Fel yr amlinellais i Aelodau’n flaenorol, y mater i mi fel Gweinidog yw bod Glan Clwyd ei hun yn wynebu problemau strwythurol y mae’n rhaid eu hystyried yn llawn cyn y gellid gwneud penderfyniadau gwybodus iawn ar yr argymhellion hyn. Oherwydd hyn ac oherwydd yr ymrwymiadau yr wyf wedi’u rhoi i bobl leol yn Llandudno, yr wyf wedi penderfynu dechrau ar rownd arall o drafodaethau wyneb yn wyneb gyda grwpiau a mudiadau perthnasol. Cyn gynted ag sy’n ymarferol, byddaf yn mynd i Landudno i gwrdd â chynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd lleol, yr ymddiriedolaeth leol, y cyngor iechyd cymuned a’r grwpiau ymgyrchu lleol i drafod cynnwys adolygiad Burns ac i wrando ar eu sylwadau. Nid wyf yn bwriadu oedi mwy na sy’n gwbl angenrheidiol cyn rhoi fy mhenderfyniadau terfynol, ond gwn ei bod yn well o lawer cymryd y cam ychwanegol hwnnw o ymgysylltu â phobl leol yn hytrach na brysio i wneud penderfyniad.
Fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen mewn Cyfarfodydd Llawn, yr wyf yn llawn sylweddoli na fydd hi’n bosibl bodloni pob grŵp na phob gwrthwynebiad unigol i fy nghasgliad terfynol, ond yr wyf yn benderfynol ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud i ganfod ffyrdd ymlaen sy’n ennyn hyder a hygrededd ymysg cleifion, staff a’r cyhoedd.