Skip to content

Ysgrifenedig - Hyfrydle

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Mae aelodau’n gwybod mae’n siŵr am benderfyniad diweddar Cyngor Sir Ddinbych i gau Hyfrydle (y ddarpariaeth breswyl ranbarthol sy’n agored 52 wythnos ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig). Ddoe, bûm mewn cyfarfod â Hugh Evans, arweinydd yr Awdurdod a Dr Mohammed Mehmet, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dysgu Gydol Oes dros dro yr awdurdod i drafod y mater. Mae gwell arweiniad bellach yn dechrau gwneud gwahaniaeth i ansawdd yr addysg a ddarperir yn Sir Ddinbych. Serch hynny, mae cau Hyfrydle yn fater sy’n peri consyrn ac sy’n gofyn cwestiynau am y broses o wneud penderfyniadau corfforaethol o fewn yr awdurdod.

Yr wyf felly wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn i gydweithio a chynnal adolygiad a chynnwys Swyddfa Archwilio Cymru fel y bo’n briodol. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion sy’n codi, gan gynnwys unrhyw faterion o ran trefn neu faterion ehangach, yn cael eu bwydo i’r adolygiad sydd eisoes wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi gan Swyddfa Archwilio Cymru o lywodraethu corfforaethol Sir Ddinbych.

  • ystyried y broses o wneud penderfyniadau a ddefnyddiwyd ar gyfer penderfynu agor uned breswyl 52 wythnos y flwyddyn ym mis Tachwedd y llynedd
  • darparu dadansoddiad llwybr critigol o’r cyfnod rhwng dechrau Tachwedd 2007 a mis Gorffennaf 2008, pan wnaethpwyd y penderfyniad i gau Hyfrydle
  • darparu adroddiad am y gwaith cynllunio a wnaed gan yr awdurdod lleol ar yr adeg pan benderfynwyd cau Hyfrydle, er mwyn bodloni anghenion y bobl ifanc hynny sydd eisoes yn preswylio yn Hyfrydle, neu a oedd yn bwriadu preswylio yno maes o law
  • asesu’r effaith bosibl o gau Hyfrydle ar y gwasanaethau addysgol a gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill a ddarperir ar safle Ysgol Plas Brondyffryn.

Rwy’n rhagweld y bydd yr adolygiad hwn wedi ei gwblhau erbyn i’r Cynulliad ddychwelyd o’r toriad ac fe wnaf ddatganiad pellach ar yr adeg honno.