Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Ar 15 Gorffennaf eleni gwnaethpwyd penderfyniad gan gabinet Cyngor Sir Ddinbych i gau cartref plant Hyfrydle. Bu’r cartref yn darparu gofal preswyl gydol y flwyddyn ac ef oedd rhan olaf prosiect i greu canolfan ranbarthol ar gyfer plant y mae arnynt anhwylderau sbectrwm awtistig yn Ysgol Plas Brondyffryn. Creodd penderfyniad yr awdurdod lleol gryn anniddigrwydd yn lleol, yn enwedig gan mai ym mis Tachwedd y llynedd yr agorwyd Hyfrydle.
Gofynnais i brif arolygwyr Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gynnal adolygiad ar y cyd o’r hyn a oedd wedi digwydd, gan ganolbwyntio ar bedair agwedd neilltuol. Y rhain oedd y broses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at agor Hyfrydle fis Tachwedd 2007, dadansoddiad olrhain critigol o’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2007 a mis Gorffennaf 2008, y cynllunio yr oedd yr awdurdod lleol wedi ei wneud i gyflawni anghenion y bobl ifanc a oedd eisoes yn preswylio yn Hyfrydle ac unrhyw bobl ifanc yr oedd yn fwriad eu derbyn yno, ac asesiad o effaith bosibl cau Hyfrydle ar wasanaethau eraill yn Ysgol Plas Brondyffryn. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolygwyr heddiw, ac yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle hwn i ddwyn y prif gasgliadau gerbron Aelodau’r Cynulliad.
Mae’n bwysig dweud yn glir na ofynnwyd i’r arolygwyr farnu ynghylch cywirdeb, nac anghywirdeb, penderfyniad yr awdurdod lleol i gau’r ganolfan. Mae’r adroddiad yn rhoi disgrifiad manwl o’r prosesau cyfredol a thymor hir a arweiniodd at y penderfyniad.
Mae’r adroddiad yn datgan yn glir, erbyn mis Tachwedd 2007, bod hyfywedd y ddarpariaeth breswyl 52 o wythnosau’r flwyddyn eisoes yn ansicr. Mae’r arolygwyr yn tynnu sylw at y cyd-destun ac yr oedd hwnnw’n un a oedd yn newid. Dros y saith mlynedd ers i’r prosiect gael ei gynnig yn y lle cyntaf, mae modelau eraill o ran gofal a chefnogaeth wedi codi ar gyfer plant y mae anhwylder yn y sbectrwm awtistig arnynt. Hefyd, sefydlwyd cyfleusterau yn y sector annibynnol yn yr ardal a fyddai’n cystadlu’n uniongyrchol gydag Ysgol Plas Brondyffryn a’i chyfleusterau preswyl.
Er bod yr awdurdod lleol yn gwybod ac yn derbyn bod Hyfrydle’n risg ariannol sylweddol, nid oedd y cyngor sir wedi deall, nac wedi dadansoddi na rhagweld ei faint a’i natur yn llawn. Mae’r adroddiad yn amlygu cyfres o gyfyngiadau yn natblygiad y prosiect, gan gynnwys rheolaeth wael dros y prosiect a chyfathrebu gwael, arfarniad ac ymchwil cyfyng o’r farchnad, diffyg dilyniant a throsiant uchel o ran staff allweddol, diffyg cydweithio effeithiol rhwng gwahanol adrannau’r awdurdod lleol, ac arbenigedd proffesiynol annigonol ym maes arbenigol datblygu a gweithredu cartref plant.
Yn wreiddiol cofrestrwyd Hyfrydle fel cartref ar gyfer chwech o blant, ond nid oedd ond dau blentyn yn preswylio yno. Fis Ionawr 2008, yr oedd swyddogion yr awdurdod lleol yn rhagweld diffyg uwch na £0.5 miliwn ar y costau cynnal erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol, y byddai’n rhaid i Gyngor Sir DDinbych ysgwyddo’r cyfan ohono. Fis Chwefror, hysbyswyd y cynghorwyr nad oedd rhagor o atgyfeiriadau yn yr arfaeth.
Ceisiwyd recriwtio preswylwyr o rannau eraill o Gymru ac o awdurdodau yn Lloegr. Fis Mawrth, oherwydd bod datganiadau o ddiddordeb wedi eu gwneud yr oedd rhywfaint o obaith o bosibl y gallai’r cartref adennill ei gostau. Fodd bynnag, sylweddolwyd nad oedd ond tri o ddarpar breswylwyr yn yr arfaeth, ac yr oedd niferoedd Hyfrydle’n dal yn is na’r isafswm ymarferol. Ar 15 Gorffennaf cafodd cabinet Sir Ddinbych adroddiad a oedd yn amlinellu pedwar opsiwn parthed Hyfrydle. Dywed yr arolygwyr fod yr opsiwn i gau Hyfrydle wedi ei seilio ar achos dilys yr oedd iddo ddadleuon cadarn.
Er bod yr arolygwyr wedi dod i’r casgliad nad yw’r cau wedi effeithio rhyw lawer ar gyfleusterau addysgol a gofal cymdeithasol lleol eraill ar safle Ysgol Plas Brondyffryn, dywedir yn glir yn yr adroddiad na roes y penderfyniad ryw lawer o amser i weithio gyda’r plant a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf, gan beri pryder i’r rhieni. Mae’n amlwg hefyd bod yr awdurdod lleol wedi bwrw amcan rhy isel o’r effaith ar ei enw da ac ar ei berthynas gyda phartneriaid allweddol. Mae’r adroddiad yn rhoi disgrifiad manwl o’r ymdrechion pur lwyddiannus a wnaethpwyd gan weithwyr unigol i wneud trefniadau eraill ar gyfer y plant hynod anghenus yr effeithiwyd arnynt. Yr wyf yn sicr yr hoffai’r Aelodau estyn ein gwerthfawrogiad i bawb a fu’n gweithio mor galed i ddelio gyda chanlyniadau cau Hyfrydle, gan gynnwys rhoi sylw i bryderon y rhieni.
Er ei bod yn gwbl amlwg yn hyn o beth mai ar yr awdurdod lleol y mae’r cyfrifoldeb pennaf, yr wyf yn awyddus i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddysgu pa wersi bynnag y gellir eu dysgu o’r adolygiad hwn. Felly yr wyf wedi gofyn i gyfarwyddwr newydd fy adran, David Hawker, roi disgrifiad manwl imi o’r camau y bydd am eu cymryd wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad.
Prin tair awr y mae’r adroddiad wedi bod yn gyhoeddus, ac o’r herwydd ni allaf roi disgrifiad manwl i’r Aelodau o’r camau a gymerir. Er hynny, gallaf ddweud, yn ogystal â chamau mewnol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ddydd Llun yr wythnos diwethaf, fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau adolygiad cynlluniedig o reolaeth gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r archwilydd cyffredinol eisoes wedi ei hysbysu ynghylch cyhoeddi’r adroddiad heddiw, ac mae fy nghyd-Aelod Brian Gibbons wedi ysgrifennu ato gyda chopi. Deallaf fod Swyddfa Archwilio Cymru’n disgwyl dod i gasgliadau amlinellol fis Tachwedd.
Y mis yma dechreuodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ei hadolygiad blynyddol cynlluniedig ar berfformiad gwasanaethau cymdeithasol Sir Ddinbych. Ar 9 Hydref, byddaf yn cwrdd ag arweinydd y cyngor sir, y Cynghorydd Hugh Evans, a Hyfrydle fydd yr unig eitem ar agenda’r cyfarfod hwnnw. Ar 23 Hydref bydd Bwrdd Adfer Addysg Annibynnol Sir Ddinbych yn cynnal ei gyfarfod nesaf. Bydd cyd adroddiad yr arolygwyr yn eitem ar agenda’r cyfarfod hwnnw.
Yn y cyfamser, yr wyf yn bwriadu atgyfnerthu cylch gorchwyl y bwrdd parthed y rhyngweithio rhwng addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol yn Sir Ddinbych, a oedd yn destun pryder a amlygwyd yn adolygiad gwreiddiol Estyn.
Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru’n cynnal ei harolygiad blynyddol ar Erddi Glasfryn yr hydref hwn, ac, ym mis Mawrth 2009, bydd Estyn yn cynnal ail arolygiad ar awdurdod addysg Sir Ddinbych, flwyddyn ar ôl y pryderon a arweiniodd at benodi’r bwrdd adfer addysg. Yr wyf eisoes wedi dechrau trafod gydag Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i sicrhau y bydd y tîm arolygu’n gwbl abl i ddelio gyda’r meysydd hynny lle mae addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol yn dod ynghyd.
Ddirprwy Lywydd, dyna derfyn y datganiad y gallaf ei wneud heddiw ynghylch y mater hwn.