Skip to content

Ysgrifenedig - Y Newyddion Diweddaraf am Fanciau Gwlad yr Iâ

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons , y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Addewais y byddwn yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am y datblygiadau diweddaraf yn dilyn cwymp banciau Gwlad yr Iâ.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i ganolbwyntio’n bennaf ar gefnogi Llywodraeth y DU yn ei hymdrech i ryddhau’r buddsoddiadau sydd wedi eu rhewi ym manciau Gwlad yr Iâ, a hynny yn eu crynswth cyn gynted ag y bo modd. Mae’r trafodaethau â llywodraeth Gwlad yr Iâ yn parhau.

Ar 19 Tachwedd rhoddodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol sêl bendith i fenthyciad gwerth $2.1 biliwn i Wlad yr Iâ. Un o brif amcanion y benthyciad y cytunwyd arno yw diogelu cysylltiadau ariannol rhyngwladol trwy roi strategaeth gadarn ar waith ar gyfer y system fancio, a fydd yn sicrhau chwarae teg i adneuwyr a chredydwyr ym manciau Gwlad yr Iâ.

Mae Ernst and Young (gweinyddwyr Kaupthing Singer and Friedlander a Heritable, sef is-gwmnïau, yn eu tro, Kaupthing a Landsbanki, yn y DU) wedi cyhoeddi Datganiad o’r Cynigion i Gredydwyr y naill fanc a’r llall. Cyhoeddwyd y datganiad ar ran KSF ar 14 Tachwedd. Cyhoeddwyd y datganiad ar ran Heritable ar 20 Tachwedd.

Cynhaliodd Ernst & Young gyfarfod â chredydwyr KSF ar 1 Rhagfyr. Yn ôl yr adroddiadau o’r cyfarfod, dywedodd y gweinyddwyr wrth y credydwyr eu bod yn disgwyl gallu talu arian i gredydwyr o ganlyniad i’r broses weinyddu, ond ei bod yn rhy gynnar i roi amcan, hyd yn oed amcan bras, o faint o arian a fyddai ar gael. Dywedont hefyd y byddent yn gweithio tuag at y nod o ryddhau arian wrth iddo ymddangos yn hytrach na disgwyl er mwyn rhyddhau un swm o arian ar ddiwedd y broses weinyddu. Nid oeddent am roi amserlen ar gyfer hyn o beth ond roedd yn debygol y byddai angen misoedd yn hytrach nag wythnosau.

Cynhelir cyfarfod ar gyfer credydwyr Heritable ar 9 Rhagfyr

Blaenoriaeth allweddol i’r awdurdodau hynny sydd wedi cael eu heffeithio fydd ystyried effaith bosibl unrhyw golledion yn y tymor canolig, a phenderfynu sut y byddant yn mynd i’r afael â hyn wrth lunio eu cyllideb ar gyfer 2009-10 a’i strategaethau ariannol yn y tymor canolig. Mewn ymateb i’r ansicrwydd parhaol ynghylch yr arian a oedd yn cael ei gadw yng Ngwlad yr Iâ, mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu paratoi ac ymgynghori ar reoliadau a fyddai’n galluogi awdurdodau a fydd o bosibl ar eu colled yn sgil buddsoddiadau sydd wedi’u rhewi o hyd ym manciau Gwlad yr Iâ, i ohirio’r effaith ar eu cyfrifon tan flwyddyn ariannol 2010-11. Maent hefyd yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn. Mae’r camau hyn yn gyson â dull Llywodraeth y DU o fynd ati, a bydd yn helpu awdurdodau lleol yn eu penderfyniadau cyllidebu ar gyfer 2009-10.

Bwriadaf ymgynghori ag awdurdodau lleol ar y rheoliadau drafft cyn gynted ag y bo modd, gan anelu at eu rhoi ar waith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
             
Mae Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn cynnig cyngor i awdurdodau lleol ynghylch cyfrifo ar gyfer colledion posibl.

Y farn gyffredinol yw bod yr egwyddorion sy’n sail i’r canllawiau buddsoddi presennol a roddwyd i awdurdodau lleol, yn gadarn. Mae’r Canllawiau’n tynnu sylw at y flaenoriaeth o sicrhau hylifedd a diogelwch buddsoddiadau cyn meddwl am wneud elw. Yn fy marn i, fodd bynnag, mae’n iawn i ni graffu eto ar fanylion y canllawiau yng ngoleuni’r sefyllfa mewn perthynas â Gwlad yr Iâ, a bwriadaf ofyn i Banel Cyfrifo Technegol Awdurdodau Lleol Cymru wneud hyn. Mae gan y Panel gynrychiolwyr o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, awdurdodau lleol, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.

Yr un yw’r sefyllfa yn y bôn o ran buddsoddi yn achos awdurdodau Cymru a Lloegr fel ei gilydd, a chredaf mai dull cyson, trawsffiniol yw’r ffordd orau o symud ymlaen. Bydd barn y Panel yn werthfawr iawn wrth wneud unrhyw newidiadau a fydd eu hangen o bosibl er mwyn bwrw ymlaen â’r canllawiau. Mae Pwyllgor Dethol Senedd y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol hefyd yn ystyried materion sy’n ymwneud â buddsoddiadau awdurdodau lleol a bydd angen cymryd ei argymhellion i ystyriaeth.