Skip to content

Ysgrifenedig - Arian Ychwanegol ar gyfer y Cynllun Achub Morgeisi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mae dwy ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Ddinbych – adrannau etholiadol Gorllewin y Rhyl a De-orllewin y Rhyl a osodwyd yn safleoedd 1 a 49, yn y drefn honno, ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2000. Mae’r ddwy ardal yn ymddangos ar frig y Mynegai ar gyfer 2008 a gyhoeddwyd yn ddiweddar neu’n agos at y brig.

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cael problemau yn y Rhyl o ran trefniadaeth ers dechrau’r Rhaglen. Roedd trefniadau cychwynnol y Bartneriaeth yn cwmpasu Gorllewin a De-orllewin y Rhyl ond ni welwyd llawer o gynnydd yn y blynyddoedd cynnar. Roedd ansefydlogrwydd amlwg yn y Bartneriaeth a phartneriaid lleol allweddol wedi’u hymddieithrio. Cynhaliodd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad adolygiad cynhwysfawr a chynigiwyd cyfres o fesurau ganddynt i adfer y sefyllfa, gan gynnwys sefydlu Partneriaethau ar wahân ar gyfer Gorllewin y Rhyl a De-orllewin y Rhyl.

Sefydlwyd trefniadau newydd ar gyfer Derbynwyr Grant a Chyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro ym mis Ebrill 2006. Ymgymerodd y Grŵp Cydweithredol â rolau Derbynwyr Grant a Chyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro ar gyfer y Rhaglen yn Ne-orllewin y Rhyl a chymerodd Heddlu Gogledd Cymru y rolau ar gyfer Gorllewin y Rhyl.

Mae De-orllewin y Rhyl wedi gwneud cynnydd rhesymol ers i’r trefniadau newydd gael eu sefydlu, ac mae Bwrdd Partneriaeth sefydlog yn goruchwylio amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau a awgrymwyd gan y gymuned leol. Mae’r trefniadau o ran Derbynwyr Grant/Cyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro gyda’r Grŵp Cydweithredol hefyd yn gweithio’n dda, ac mae’r ddau grŵp yn awyddus i hyn barhau yng nghymal nesaf y Rhaglen. Rydym yn cynnig y dylai’r Rhaglen barhau ar ei ffurf bresennol yn Ne-orllewin y Rhyl.

Er gwaethaf ymdrechion gorau sefydliadau fel Heddlu Gogledd Cymru, fodd bynnag, nid yw Gorllewin y Rhyl wedi gweld llawer o gynnydd ers i’r trefniadau newydd gael eu sefydlu. Nid yw’r gymuned leol wedi ymgysylltu’n fwy â’r broses Cymunedau yn Gyntaf na chyn yr adolygiad ac mae darparwyr gwasanaethau lleol allweddol yn parhau i fod wedi’u hymddieithrio. Nid yw’r sefyllfa sydd wedi bodoli yng Ngorllewin y Rhyl ers tro yn debyg o gwbl i’r hyn sy’n digwydd mewn unrhyw fan arall lle gweithredir y Rhaglen, ac nid yw’n cydymffurfio â’r egwyddorion yng Nghanllawiau Cymunedau yn Gyntaf nac yn y ddogfen ymgynghori ar ddyfodol y Rhaglen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym mis Ionawr eleni.

Rwyf wedi penderfynu felly y dylid dod â’r trefniadau cyfredol yng Ngorllewin y Rhyl i ben ar 31 Mawrth 2009. Bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, felly, yn stopio gweithredu yng Ngorllewin y Rhyl. Yn hytrach, byddwn yn sefydlu trefniadau eraill i gefnogi gwaith adfywio cymunedol yn yr ardal hon o 1 Ebrill 2009. Mae trafodaethau wedi dechrau ar draws Llywodraeth y Cynulliad i ystyried sut gellir ymgorffori gwaith adfywio cymunedol yn yr ardal mewn rhaglen ehangach o adfywio economaidd a chymdeithasol yn y Rhyl. Rwy’n disgwyl gallu gwneud cyhoeddiad pellach am hyn yn yr Hydref.
Mae’n bleser gennyf gydnabod a chefnogi y diwrnod i nodi 60 mlynedd ers y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol heddiw.  Dyma ddigwyddiad o bwys, ac un y dylem ymfalchïo ynddo.  Mae llawer o waith wedi ei wneud ledled y byd ac yn lleol yng Nghymru i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol pob dinesydd.  

Caiff y Diwrnod Hawliau Dynol ei ddathlu i hyrwyddo’r hawl dynol cyffredinol i fyw, ac i wneud hynny mewn heddwch.  Dewiswyd y dyddiad i anrhydeddu penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i fabwysiadwyd a chyhoeddi y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ar 10 Rhagfyr 1948, y cyhoeddiad cyntaf o hawliau dynol yn fyd-eang.  

Mae’r 10fed o Ragfyr yn cael ei ddathlu’n flynyddol ledled y byd i godi ymwybyddiaeth pobl o hawliau dynol, ac i ddangos cefnogaeth i’r rhai hynny sy’n cael eu hamddifadu o’r hawliau hyn.  

Mae hawliau dynol yn fater byd-eang, ac mae’n rhaid cydweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.  

Rydym yn cydweithio mewn nifer o feysydd gyda Llywodraeth y DU i fynd i’r afael ag achosion o ddiystyru hawliau dynol.  Un broblem o’r fath yw y fasnach mewn pobl, sy’n cael effaith arnom yn lleol ac yn fyd-eang.  Yn 2007, lansiodd heddluoedd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon ymgyrch i geisio dileu’r broblem o fasnach mewn pobl, gyda’r nod o achub menywod a phlant a oedd yn cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant rhyw, ac erlyn gangiau sy’n elwa o’r troseddu.  Arweiniodd hyn at greu Canolfan Masnach mewn Pobl y DU, sy’n galluogi dioddefwyr a dinasyddion i roi gwybod am achosion o’r math hwn o droseddu.

Dim ond wythnos yn ôl, bu’r heddlu yng Nghymru, Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon a’r Gardai yn cynnal cyrchoedd i dorri cylch masnachu mewn pobl.  

Mae Amnesty, fu’n gwneud gwaith ymchwil i’r fasnach mewn pobl yng Nghymru, wedi nodi ei bod yn drosedd sy’n cael ei gweithredu gan gangiau soffistigedig ar draws ffiniau rhyngwladol.  Maent wedi canmol heddluoedd Cymru am wella eu cudd-wybodaeth, ac am weithio ar draws ffiniau i fynd i’r afael â’r drosedd greulon hon.  

Er mwyn nodi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod, bu Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru yn cynnal eu pedwerydd gwasanaeth aml-ffydd blynyddol ‘Goleuo Cannwyll’, ar 26 Tachwedd 2008 yng Nghadeirlan Llandaf, ble y cynheuodd y Prif Weinidog gannwyll symbolaidd i gofio dioddefwyr trais.  

Mae angen inni gynnal digwyddiadau o’r fath i ddangos ein cefnogaeth i’r dioddefwyr, a gwaith caled y sefydliadau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r problemau.  

Yng Nghymru, rydym wedi gweld llawer o weithgaredd ar y polisi hawliau dynol.  Roeddem yn falch o gyfrannu tuag at yr Ymchwiliad diweddar o Gydraddoldeb a Hawliau Dynol.  Roedd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i hysbysu pobl o’r hyn sydd wedi ei gyflawni i godi proffil hawliau dynol ar draws y llywodraeth.  Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys digwyddiadau i nodi Blwyddyn Ewropeaidd Cyfle Cyfartal, datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl a’r broses o Lunio Polisïau Cynhwysol.  

Er ein bod yn cydnabod nad yw maes hawliau dynol wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym yn cydnabod bod gennym swyddogaeth i’w chyflawni fel arweinwyr ar ran pobl Cymru.  Dyna paham ein bod am lunio ein polisïau a’n strategaethau gydag egwyddorion hawliau dynol megis tegwch, parch, cydraddoldeb ac urddas yn ganolog iddynt.  

Rydym yn edrych ymlaen at astudio canfyddiadau’r ymchwiliad pan gânt eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf.  

Hoffwn hefyd gydnabod a chroesawu cais y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddod yn sefydliad hawliau dynol sydd wedi’i achredu.  Bydd hwn yn gam mawr tuag at gydnabod pwysigrwydd y Comisiwn a sicrhau bod yr agenda gydraddoldeb yn cael y proffil uchel y mae’n ei haeddu.  

Mae’r 10fed o Ragfyr yn ddiwrnod pwysig, sy’n uno sefydliadau sy’n bartneriaid – wrth iddynt gydweithio i hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru ac ar draws y byd.  Mae angen i bob un ohonom barhau yn ein hymdrechion i atal gwahaniaethu i bawb ac i hyrwyddo cydraddoldeb.