Crynodeb
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn disgrifio’r amrediad eang o gydweithio sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Heddlu yng Nghymru.
Cefndir
Er nad yw’r heddluoedd wedi’u datganoli, maent yn bartneriaid hanfodol i gyflawni agenda cymunedau mwy diogel ac agenda cymunedau cryfach Llywodraeth Cynulliad Cymru ar draws portffolios y Gweinidogion. Yn yr un modd, mae’r cyfrifoldeb polisi dros lawer o’r ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar lefelau troseddoldeb wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru, gan gynnwys tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwasanaeth eraill i blant, adfywio economaidd a chymunedol, camdriniaeth yn y cartref a chamddefnyddio sylweddau. O’r herwydd, ceir cyd-fanteision yn sgîl hybu a chynnal perthnasoedd gwaith agos rhwng yr heddlu a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae amrediad o strwythurau’n bodoli i gynnal perthnasoedd gwaith da. Yr ymgysylltiadau allweddol ar lefel y Gweinidogion yw’r cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a Chymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, ac Awdurdodau Heddlu Cymru. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynnig y cyfle i drafod ystod o faterion ar draws amrywiol gyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â materion plismona nad ydynt wedi’u datganoli a fyddai’n gallu effeithio ar amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ogystal, mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn cyfarfod yn flynyddol gyda Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, a Ffederasiwn yr Heddlu. Mae Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru hefyd wedi ymddangos gerbron y Cabinet i drafod cyfleoedd i gydweithio ar ddau achlysur, yn Nhachwedd 2006 ac ym Mawrth 2008. Yn dilyn y cyntaf o’r cyfarfodydd hyn, cytunwyd y byddai Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru yn enwebu swyddogion arweiniol i weithio gyda phortffolio pob Gweinidog; mae rhagor o fanylion i’w gweld isod. O ddydd i ddydd, mae Tîm Cyswllt yr Heddlu wedi’i leoli yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n ceisio sicrhau bod safbwynt Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru’n cael ei gynrychioli wrth lunio polisïau Llywodraeth y Cynulliad.
Cydweithrediad yr Heddlu
Mae angen i’r trefniadau ar gyfer cydweithio rhwng yr heddlu a Llywodraeth Cynulliad Cymru gael eu gweld yng nghyd-destun y gwaith sylweddol sy’n mynd rhagddo gan Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru i hybu cydweithredu rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru.
Yn dilyn y penderfyniad yn 2006 i beidio â gorfodi uniad yr Awdurdodau Heddlu a’r heddluoedd, dechreuwyd gweithio ar baratoi cynllun diwygiedig ar sut y gellid yng Nghymru lenwi’r bwlch yn y gwasanaethau Lefel 2 (sy’n cynnwys materion traws-ffiniol megis troseddoldeb cyfundrefnol, terfysgaeth a digwyddiadau mawr) a nodwyd yn adroddiad Arolygydd Cwnstabliaeth EM ‘Cau’r Bwlch’.
Cynhaliodd y Gwasanaethau Heddlu yng Nghymru Asesiad Strategol o’r Gwasanaethau Diogelu ac fe’i cyhoeddwyd ym Medi 2006. O’r asesiad, nodwyd nifer o feysydd fel blaenoriaethau allweddol ac fe’u cynhwyswyd mewn dogfen o’r enw “Agenda ar gyfer Newid”. Ym Mawrth 2007, cafodd Bwrdd Rhaglen Cadeiryddion a Phrif Swyddogion yng Nghymru y ddogfen “Agenda ar gyfer Newid” a oedd yn disgrifio dewislen o gyfleoedd i gydweithredu a oedd ar gael ar draws amrediad o wasanaethau diogelu, swyddogaethau plismona lleol a meysydd cymorth busnes yn seiliedig ar waith a wnaed gan Dîm Canolog Cymru a’r Asesiad Strategol. Ar y Tîm Canolog mae swyddogion o dde Cymru, Gwent a Dyfed Powys.
Cynhaliwyd asesiad strategol arall o’r gwasanaethau diogelu ym Medi 2007 ac o ganlyniad, ym Mawrth 2008 cymeradwyodd Awdurdodau Heddlu Cymru ei gynllun busnes cyntaf, Cynllun Plismona Cenedlaethol Cymru. Mae’r cydweithredu’n canolbwyntio ar dri phrif faes:
- Gwasanaethau diogelu (gan gynnwys Troseddu Difrifol, Cyfundrefnol a Thraws Ffiniol, cudd-wybodaeth a’r Gallu i ryngweithredu, a Gwrthderfysgaeth)
- Plismona Ffyrdd Strategol
- Cymorth Busnes
Roedd yn bleser mawr gennyf allu mynychu lansiad ffurfiol y Cynllun Plismona Cenedlaethol ar 18 Gorffennaf, a chredaf fod cyhoeddi’r cynllun hwn yn nodi cam pwysig ymlaen i hybu cydweithredu cynyddol gyda’r heddluoedd yng Nghymru. Mae’n amlwg bod y pedwar heddlu yng Nghymru yn arwain y ffordd o safbwynt cydweithrediad yr heddlu, ac ystyrir eu bod yn esiamplau ledled Cymru a Lloegr i’r perwyl hwn. Mae’r heddluoedd hefyd wedi dangos eu bod yn aelodau cadarnhaol ac ymrwymedig o Fyrddau Gwasanaethau Lleol.
Cydweithio
Ceir amrywiol esiamplau o gydweithio o fewn y Portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, ac ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru fel cyfangorff.
Ymgyrch Tarian
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n parhau i roi cymorth i Ymgyrch Tarian, sef cyd-ymateb heddluoedd De Cymru i fewnlifiad cyffuriau Dosbarth A i Gymru. Yn 2008-09 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu £642,000 o’r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau i gynorthwyo Tarian. Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr ymgyrch ar gyfer 2007-08 yn tynnu sylw at achosion sylweddol o atafaelu cyffuriau Dosbarth A, niferoedd sylweddol o arestiadau a chanlyniadau gweladwy o ran amharu ar grwpiau troseddu cyfundrefnol a’u chwalu yn rhanbarthau de Cymru. Mae Tarian hefyd yn elfen bwysig o’r agenda gydweithredol, a gwmpesir gan elfen troseddu difrifol a chyfundrefnol y Gwasanaethau Diogelu.
Bwrdd Contest Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu bwrdd bychan i lunio polisïau ac i gyfnewid gwybodaeth am y materion sy’n dod i’r amlwg o safbwynt strategaeth gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU - CONTEST. Yn cyd-gadeirio’r Bwrdd y mae Llywodraeth y Cynulliad ac arweinydd Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru dros Wrthderfysgaeth, ac mae arno gynrychiolwyr o Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (UEGC), y Swyddfa Gartref a CLlLC. Mae hwn yn profi i fod yn gyfrwng defnyddiol i rannu gwybodaeth a chyflawni agweddau ar CONTEST yng Nghymru. Unwaith eto, mae UEGC yn elfen bwysig o gydweithrediad yr heddlu o safbwynt Gwasanaethau Diogelu.
Rhaglen Graidd Cymru gyfan i Ysgolion
Cyflenwir y rhaglen hon mewn partneriaeth rhwng ysgolion a’r heddlu i ddisgyblion prif ffrwd mewn 97% o’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn rhoi i ddisgyblion gyfleoedd i wella’u gwybodaeth am effeithiau cyffuriau ac alcohol a’u dealltwriaeth ohonynt, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch personol. Mae’r rhaglen wedi cael ei hymestyn i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio a chan gynnal hefyd yr ymrwymiad i ddisgyblion prif ffrwd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu’r rhaglen hon yn ganolog o’i chyllideb Cyffuriau ac Alcohol mewn partneriaeth â’r heddlu ac mae’n dyrannu £1,640,000 i’r rhaglen graidd a £660,000 i’r elfen ymddieithrio yn 2008-09. Cynhelir gwerthusiad allanol o effaith y rhaglen graidd a chyflwynir yr adroddiad yn Rhagfyr 2010. Roedd gwerthusiad cynharach o’r rhaglen a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2007 yn ffafriol iawn.
Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf
Mae Diogelwch Cymunedol yn fater pwysig dan Raglen Cymunedau yn Gyntaf a chaiff ei amlygu fel un o’r themâu yn Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf. Mae Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio gyda’r heddlu ar amrywiol gynlluniau gan hybu ymddygiad cymdeithasol, cydlyniant cymunedol a’r drefn gyhoeddus. Yn benodol, mae’r heddlu wedi sefydlu timau heddlu un pwrpas mewn nifer o Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Un esiampl o gydweithio yw cynllun i fynd i’r afael â materion diogelwch cymunedol yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Glanymor a Thyisha. Fel rhan o’r cynllun, bu cydweithio helaeth rhwng yr awdurdod lleol a’r heddlu ar lefel strategol. O ganlyniad, mae ardal Tyisha wedi gweld cwymp o 15% mewn troseddau yr adroddir wrth yr heddlu amdanynt i ddechrau, gyda chwymp o 10% mewn blynyddoedd olynol, a bu twf sylweddol mewn gweithgareddau yn y gymuned a’r lefelau cydweithredu rhwng y trigolion a’r heddlu. Esiampl arall yw’r gefnogaeth a roddodd Heddlu Gogledd Cymru i ardal Cymunedau yn Gyntaf Plas Madog yn Wrecsam. Arweiniodd cysylltiad sylweddol gan Arolygydd yr Heddlu Tiriogaethol at leoli Rheolwr Rhawd Gymunedol ym Mhlas Madog.
Cydnerthu
Mae’r Heddlu’n chwarae rhan bwysig ar bob lefel yn y rhaglen Gydnerthu yng Nghymru. Mae’r Prif Gwnstabl Brunstrom yn eistedd ar Fforwm Cymru Gydnerth. Mae’r pedwar Prif Gwnstabl yn cadeirio’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a leolir yn ardal eu heddlu. Mae’r Prif Gwnstabl Brunstrom hefyd yn cadeirio’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys, grŵp y cynrychiolir Llywodraeth Cynulliad Cymru arno, ac sy’n cyfrannu’n helaeth at yr ymdrech gydnerthu yng Nghymru.
Mae’r swyddogion heddlu’n cadeirio’r Grŵp Hyfforddiant ac Ymarfer aml-asiantaeth Cymru-gyfan, y Grŵp Gwacáu mewn Argyfwng, y Grŵp Parodrwydd Logistaidd, y Grŵp Cymorth Dyngarol ac maent yn aelodau defnyddiol, gweithgar a brwdfrydig iawn o’r holl grwpiau eraill a ffurfiwyd i gyflawni’r dyletswyddau dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004).
Mae’r heddlu’n arweiniol yn y cais am gyllid i greu tair canolfan cydgysylltu strategol aml-asiantaeth yng ngogledd Cymru, y canolbarth a’r de, lle gall grwpiau cydgysylltu strategol, a gaiff eu cadeirio fel arfer gan Brif Gwnstabliaid, roi sylw i faterion argyfyngau sifil posibl yn eu hardal.
Secondeion yr Heddlu
Priodasau dan Orfod:
Yn Chwefror 2007 dechreuodd un secondai o Heddlu De Cymru gyflawni gwaith ar fynd i’r afael â phriodasau dan orfod yng Nghymru. Canolbwyntiai’r gwaith ar fapio maint y broblem, llunio canllawiau drafft ar gyfer Addysg, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gwneud cynllun gweithredu a ddisgrifiai sut y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddelio â phriodasau dan orfod a thrais er anrhydedd. Mae’r cynllun gweithredu wedi’i sefydlu a sefydlwyd gweithgor ar briodasau dan orfod sy’n cynnwys aelodau’r Gwasanaeth Heddlu a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r heddlu’n darparu cynrychiolaeth allweddol ar y Gweithgor Priodasau dan Orfod a’r Gweithgor Camdriniaeth yn y Cartref.
Mae un Ditectif Brif Arolygydd o Heddlu Dyfed Powys yn gweithio’n agos gyda swyddogion ar Grŵp Diogelu Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cydlyniant Cymdeithasol:
Gan ddilyn ymlaen o gyfarfodydd briffio ynghylch tensiynau yn y gymuned yn dilyn yr ymosodiadau a gynlluniwyd ar awyrennau oedd yn hedfan dros yr Iwerydd yn Awst 2006, gofynnodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ar y pryd am i ddull gweithredu Cymru gyfan gael ei ddatblygu o safbwynt cydlyniant cymdeithasol. I gefnogi’r gwaith hwn, gweithiodd un secondai o Heddlu De Cymru mewn partneriaeth ag aelodau Isadran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gwmpasu’r ffordd ymlaen i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ledled Cymru.
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth:
Mae tri secondai o’r heddlu’n gweithio yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth y Cynulliad.
Mae un yn gysylltiedig â llunio model yn seiliedig ar ymrannu cyfrifoldebau a rolau craidd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r gwasanaeth heddlu o safbwynt sut y bydd plismona ffyrdd strategol yn edrych ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru. Mae hefyd yn gweithio ar gynllun i gynorthwyo gyda lles defnyddwyr ffyrdd os ceir digwyddiad mawr.
Mae swyddog cyllid sydd wedi’i secondio o Heddlu Gogledd Cymru yn helpu i lunio ffurf newydd ar “gontract cymdeithasol” gyda busnesau yng Nghymru er mwyn eu hannog i feithrin arferion busnes da. Mae hefyd yn helpu gyda phroject lle bydd pobl ifanc yn cyflenwi gwasanaeth cymunedol, mae hwn yn cynnwys datblygu amrywiol gefnogaeth oddi wrth y gwasanaethau mewn lifrau yng Nghymru gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Trydydd secondai’r heddlu yw Rheolwr Tîm yr Heddlu e-drosedd Cymru yn adran yr Economi a Thrafnidiaeth y Cynulliad.
Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau:
bu i un secondai o Heddlu Gogledd Cymru ddarparu mewnbwn gwerthfawr ar bob agwedd ar y Strategaeth ond yn enwedig o safbwynt mynd i’r afael ag argaeledd. Cafodd y Strategaeth ei lansio ar 1 Hydref 2008.
Tîm Cyswllt yr Heddlu a leolir yn Llywodraeth Cynulliad Cymru: Mae’r Tîm Cyswllt yn cynnwys tri swyddog heddlu sydd wedi’u secondio i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Maent yn darparu ymatebion cynhwysfawr cydgysylltiedig oddi wrth Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru i’r nifer fawr o ymgynghoriadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cynnal. Mae’r Tîm Cyswllt wedi cyfrannu at lunio rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda Chymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r pwyllgorau.
Iechyd
Mae Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru a Thîm Cyswllt yr Heddlu wedi chwarae rhan lawn gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y Codau Ymarfer ar gyfer Deddf Iechyd Meddwl 2006 ac yn eu llunio. Mae Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru a’r Tîm Cyswllt wedi gweithio’n agos ar nifer o gynlluniau megis gwaith yng nghyswllt atal trais ac ymddygiad ymosodol mewn gofal iechyd; atal hunan-niweidio a hunanladdiad ymysg pobl ifanc yng Nghymru a lleihau’r posibilrwydd i swyddogion heddlu gael eu heintio gan firysau a gludir yn y gwaed.
Creu’r Cysylltiadau
Mae Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru a Swyddogion Cyswllt yr Heddlu’n gweithio’n agos gyda thîm Creu’r Cysylltiadau Llywodraeth y Cynulliad ar brosiectau trawsbynciol megis ariannu’r Prosiect Rheolaeth Frys a’r Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymraeg.
Cynllun Heddlu Aelodau’r Cynulliad
Mae pymtheg Aelod Cynulliad yn awr wedi bod yn gysylltiedig â Chynllun Heddlu’r Cynulliad, cynllun sy’n caniatáu iddynt weld plismona o’r ‘tu mewn’. Caiff Aelodau’r Cynulliad hefyd fynychu cyflwyniadau gan wasanaethau arbenigol am Gynllunio at Argyfwng/Cynllunio Wrth Gefn ac am Rôl Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, trefnir y rhain i ‘gyd-fynd’ â busnes y Cynulliad.
Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi mynegi diddordeb mawr yn y Cynllun ac mae wedi gofyn i Swyddfa Cyswllt yr Heddlu ei ddatblygu’n rhaglen wedi’i theilwrio’n arbennig i uwch weision sifil.
Portffolios y Prif Gwnstabliaid
Yn dilyn ymddangosiad y pedwar Prif Gwnstabl yn y Cabinet yn Nhachwedd 2006, cytunwyd y dylai pob Prif Gwnstabl gymryd yr arweiniad dros lifau gwaith penodol, gan gyd-fynd â phortffolios Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae pob Prif Gwnstabl yn cymryd y cyfle i gwrdd â’i Weinidog priodol i sicrhau dialog rhydd ac agored. Dan y prif benawdau hyn mae’r Prif Gwnstabliaid a/neu Brif Swyddogion eraill yn arwain ar lifau gwaith penodol e.e. Plismona’r Ffyrdd, Diogelu’r Cyhoedd, Cynllunio, Lles Anifeiliaid ac E-Droseddu. Dyma feysydd cyfrifoldebau’r Prif Gwnstabliaid ar hyn o bryd:
Prif Gwnstabl Gianassi
Arweinydd Dynodedig ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Leol
Addysg, Plant a Phobl Ifanc
Prif Gwnstabl Wilding Cadeirydd Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyllid a Gwasanaethau Cyhoeddus
Prif Gwnstabl Brunstrom
Yr Economi a Thrafnidiaeth
Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Plismona’r Ffyrdd
E-Droseddu
Treftadaeth a’r Gymraeg
Prif Gwnstabl Arundale
Materion Gwledig
Yn olaf, roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn falch iawn o sylwi bod gwaith cydweithredol Awdurdodau Heddlu Cymru wedi cael ei gydnabod. Cafodd Awdurdod Heddlu Cymru Wobr Cydnabod Rhagoriaeth Cymdeithas Awdurdodau’r Heddlu am “Gydweithredu neu Waith Partneriaeth” yng Nghynhadledd Cymdeithas Awdurdodau’r Heddlu eleni; dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau hyn gael eu rhoi.