Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Mae’n siŵr y bydd gan aelodau ddiddordeb gwybod bod Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 yn cael ei osod heddiw, 7 Gorffennaf 2008. Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, 8 Gorffennaf 2008, i gyflwyno’r Mesur.

Bydd y Mesur arfaethedig yn darparu sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer un o raglenni mwyaf blaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llwybrau Dysgu 14-19, ac yn ceisio annog datblygiad ein pobl ifanc drwy greu hawl i ddysgwyr rhwng 14 a 19 mlwydd oed allu manteisio ar ystod ehangach, a mwy arloesol, o ddewis yn y cwricwlwm. Drwy gynnig mwy o amrywiaeth o gyfleoedd, a fydd yn ymrwymo ac yn ysgogi dysgwyr, ein bwriad yw annog mwy i gymryd rhan, yn ogystal â’u hannog i gyflawni’n well ac i wella’u cyrhaeddiad, gan helpu ein pobl ifanc i wireddu’u potensial.


Mae’r Mesur yn:

  • gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol Cymru i lunio cwricwla lleol ar gyfer dysgwyr rhwng 14-16 oed, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau ar draws y meysydd dysgu penodedig;
  • galluogi Gweinidogion Cymru i bennu isafswm y cyrsiau astudio i’w cynnwys mewn cwricwlwm lleol, i bennu i ba faes dysgu penodol y mae cwrs astudio yn perthyn iddo, ac i bennu isafswm y cyrsiau astudio galwedigaethol a fydd yn cael eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol;
  • creu hawl i ddisgyblion Ysgolion a Gynhelir ddewis dilyn cyrsiau astudio o gwricwlwm ardal leol. Bydd hefyd yn hwyluso rheoliadau ar gyfer pennu’r mwyafswm o gyrsiau astudio y mae gan ddisgybl yr hawl i ddewis eu dilyn;
  • pennu ar ba sail y caiff Prifathro/Pennaeth benderfynu nad oes gan ddisgybl hawl i ddilyn cwrs y mae wedi’i ddewis, a hwyluso rheoliadau ar gyfer gwneud y penderfyniadau hynny;
  • gosod dyletswydd ar Gyrff Llywodraethu a Phrifathrawon Ysgolion a Gynhelir, a Phenaethiaid y Sector Addysg Bellach, i helpu Awdurdodau Lleol i gynllunio cwricwla ardal leol, gan ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd, a chan gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru;
  • darparu ar gyfer cynyddu i’r eithaf y cydweithio sy’n digwydd rhwng Cyrff Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach, yn ogystal ag Awdurdodau Addysg Lleol i gyflwyno ystod eang o gyfleoedd i astudio o fewn eu cwricwla ardal leol;
  • galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau a chyfarwyddiadau ar gyfer cydweithio a chydweithredu;
  • rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru ddiwygio meysydd dysgu;
  • galluogi Gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau wrth bennu prif leoliad dysgu disgyblion.