Skip to content

Ysgrifenedig - Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol 2009-10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru ar gyfer 2009-10.

Y Setliad Cyffredinol

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar y setliad dros dro.  Rwyf hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr yr awdurdodau hynny a oedd yn dymuno cyflwyno'u sylwadau'n bersonol.

Y flwyddyn nesaf, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 2.9% ar gyfartaledd ar setliad refeniw y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn gyson â'r cyhoeddiad a wnaed ynglŷn â'r setliad dros dro.

Mae'r setliad terfynol yn cadarnhau y bydd mecanwaith gwaelodol yn cael ei gynnwys i sicrhau bod pob awdurdod yn derbyn cynnydd o 1.5 y cant o leiaf.

Grantiau Refeniw Penodol

Fel ag yn achos y setliad dros dro, rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y grantiau penodol y gallant ddisgwyl eu derbyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi darlun ehangach i'r awdurdodau o'r cyllid y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2009-10, er mwyn iddynt allu paratoi'u cyllidebau'n effeithiol. Mae'r wybodaeth yr wyf yn ei rhyddhau yn dangos y bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £3.9 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn tua £678 miliwn mewn grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys grantiau sylweddol ar gyfer meysydd fel tocynnau teithio rhatach ac addysg ôl-16.  Yn benodol, bydd awdurdodau lleol yn cael £20 miliwn ychwanegol, o’i gymharu â 2008-09, i roi'r Cyfnod Sylfaen ar waith.

Dyrannu rhwng Awdurdodau

Mae Tabl 1, sy'n amgaeedig, yn cynnwys manylion dyrannu'r setliad refeniw. Mae cyflwyno ffigurau gwirioneddol y sylfaen drethi, a ddarparwyd gan awdurdodau, wedi arwain at rai newidiadau i'r dyraniadau i awdurdodau unigol o'i gymharu â'r setliad dros dro.  Mae dyraniadau'r setliad terfynol hefyd yn adlewyrchu rhai mân ddiweddariadau a newidiadau i'r data.

Setliad Cyfalaf

Mewn perthynas â'r setliad cyfalaf, y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2009-10, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, fydd £640 miliwn.  Dyma gynnydd o £4 miliwn ar y ffigur a gyhoeddwyd adeg y setliad dros dro.

Daw'r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol i gyfanswm o tua £217.4 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn. Caiff £54 miliwn ohono ei dalu fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £162 miliwn, fel cymorth i fenthyca.

Yn ogystal, ar 2 Rhagfyr gwnaeth y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddiad ar brosiectau cyfalaf strategol a phenodol i'w datblygu o dan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth y Cynulliad.

Bydd tablau manwl pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gloi, er fy mod yn cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol i lywodraeth leol, mae hefyd yn gyfnod anodd i aelwydydd sydd dan bwysau ariannol.  Wrth bennu'r dreth gyngor ar gyfer 2009-10, rwy'n llawn ddisgwyl i awdurdodau lleol arfer y ddisgyblaeth a fu'n amlwg wrth bennu'r dreth gyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Byddaf yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa, ac yn gweithredu'n briodol er mwyn cadw codiadau treth gyngor yn rhesymol, os bydd angen.

Bydd y cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo adroddiad cyllid llywodraeth leol 2009-10 yn cael ei drafod ar 13 Ionawr.