Skip to content

Ysgrifenedig - Data ar Berfformiad Llywodraeth Leol ar draws Cymru Gyfan ar gyfer 2007-08

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Heddiw, am 9.30am, 2 Hydref 2008, bydd Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru yn cyhoeddi data cynhwysfawr, sydd wedi’i ddilysu, am berfformiad yr awdurdodau lleol yn 2007-08. Bydd yr Uned hefyd yn cyhoeddi Bwletin Ystadegol a fydd yn dadansoddi’r data mewn modd clir a hygyrch ac a fydd yn galluogi dinasyddion i bwyso a mesur perfformiad eu hawdurdod hwy a, lle y bo angen, i’w alw i gyfrif.

Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sydd bellach yn cael ei gyhoeddi am y drydedd flwyddyn, ac rwyf yn croesawu hefyd y ffaith ei fod yn ein galluogi i gymharu perfformiad o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae’r awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer holl ddinasyddion a chymunedau Cymru, gan gynnwys llawer o’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed, ac mae’n bwysig bod y gwasanaethau a ddarperir o safon uchel, a’u bod yn gwella hefyd lle y bo modd. Rwyf yn falch iawn bod y bwletin a gyhoeddir heddiw yn cyfleu negeseuon cadarnhaol iawn am safon y gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol. Hoffwn longyfarch yr awdurdodau lleol a’u gweithwyr am eu harweiniad, eu hymrwymiad a’u parodrwydd i arloesi er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd mor uchel i’n dinasyddion. Mae’r awdurdodau lleol wedi gwneud yn arbennig o dda mewn sawl maes. Mae’r awdurdodau lleol yn dal i anfon llai o sbwriel i safleoedd tirlenwi ac maent yn ailgylchu mwy. Rydym bellach yn ailgylchu neu’n compostio bron trydedd ran o dair o’n holl wastraff. Mae awdurdodau lleol megis Ceredigion a Phowys yn dal i fod ar flaen y gad yn hyn o beth ac mae awdurdodau eraill megis Ynys Môn, Conwy a Thor-faen wedi gwella’n sylweddol. Bu gwelliant hefyd ym mhob awdurdod ond un o ran mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac yn Sir y Fflint, Casnewydd a Bro Morgannwg, cafodd yr holl sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon ac y cafwyd gwybod amdano ei symud ymhen 5 diwrnod.

Mae’r awdurdodau lleol yn llwyddo i sicrhau gostyngiad yng nghyfran y plant sy’n gadael yr ysgol heb gymwysterau. Aeth y gyfran hon i lawr i 1.7% yn 2007-08. Mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd. Gwelwyd gwelliant mewn dau ar bymtheg o awdurdodau a bu gwelliant sylweddol yn hyn o beth yn Sir Benfro, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent. Mae’r awdurdodau hefyd yn helpu mwy o oedolion agored i niwed i fyw bywydau annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Gwelwyd gostyngiad o 31% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol yn nifer yr aelwydydd digartref yr oedd yn rhaid dod o hyd i lety iddynt mewn llety Gwely a Brecwast, a gwelwyd gostyngiad o 44% yn nifer y teuluoedd digartref â phlant a roddwyd mewn llety o’r fath. Bu gostyngiad pellach hefyd yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, sy’n dangos bod y momentwm yn parhau yn y maes hwn, ac erbyn hyn, mae’r bwlch yn llai rhwng y rheini sy’n perfformio orau a’r rheini sydd wannaf o ran eu perfformiad. Mae Conwy, Sir Benfro, Blaenau Gwent ac Ynys Môn ymhlith y rheini sydd wedi perfformio orau ond mae llawer gormod o wahaniaeth o hyd rhwng perfformiad y goreuon a’r gwannaf. Gwelwyd gwelliant sylweddol yn Nhor-faen a Sir Gaerfyrddin y llynedd ac mae angen iddynt barhau i wella.

Er hynny, mae’r darlun yn un cymhleth yn aml. Er enghraifft, gwelwyd gostyngiad o oddeutu 17% yn yr amser a gymerir ar gyfartaledd i roi grant cyfleusterau i’r anabl ond mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran perfformiad yn hyn o beth, o 263 o ddiwrnodau yn Sir Fynwy i 868 o ddiwrnodau ym Mro Morgannwg. Os nad ydym y cynnwys yr achosion hynny lle’r oedd amgylchiadau eithriadol penodol, roedd canran y datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a roddwyd ymhen 26 o wythnosau yn amrywio o 100% yn Sir Ddinbych i 23% yng Nghonwy. Ac mae meysydd o hyd lle mae’r awdurdodau lleol yn gwybod bod angen iddynt wneud llawer mwy er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau. Gwelwyd cynnydd sylweddol, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol, yn nifer y dyddiau a gymerodd yr awdurdodau lleol i gyflawni’u dyletswydd i aelwydydd statudol ddigartref. Cymerwyd 149 o ddiwrnodau i wneud hynny o’u cymharu â 113 o ddiwrnodau yn 2006-07 a 79 o ddiwrnodau yn 2005-06.

Rwyf yn sylweddoli bod ystod eang o ddylanwadau yn effeithio ar ansawdd gwasanaethau ac mai dim ond rhai o’r dylanwadau hyn sydd o dan reolaeth yr awdurdodau lleol. Er hynny, nid oes lle i laesu dwylo. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r awdurdodau lleol, ac yn eu hannog i ddefnyddio’r data hwn am berfformiad, gyda’r holl ddylanwadau sydd ymhlyg ynddo, er mwyn deall ac ymateb yn effeithiol i’r heriau sy’n eu hwynebu, er mwyn rhannu gwybodaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd a gweithio mewn partneriaeth i wella safonau a darparu gwell gwasanaethau i’w dinasyddion.

Nodyn: Bydd yr adroddiad am Berfformiad Awdurdodau Lleol 2007-08 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am heddiw gan Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru a bydd ef, ynghyd â’r set lawn o ddata y mae’n seiliedig arno, i’w gweld ar ei gwefan www.dataunitwales.gov.uk. Yr Uned Ddata sy’n gyfrifol am gasglu a dosbarthu gwybodaeth ystadegol am bob agwedd ar lywodraeth leol Cymru ac am y gwasanaethau y mae’n eu darparu. Mae’n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru.