Skip to content

Ysgrifenedig - Y newyddion diweddaraf am ymchwil y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd ynghylch Cyflog Byw

Dolenni perthnasol

Mae’r dudalen hon yn disgrifio pwrpas ac aelodau’r Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd (y Panel) a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2002.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Hoffwn gyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ynghylch hynt ymchwil Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd Llywodraeth y Cynulliad ynghylch Cyflog Byw yng Nghymru.  

Dangosodd y derbyniad trawsbleidiol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a gynhaliwyd ar 7 Hydref ac a drefnwyd gan Drefnu Cymunedol Cymru fod cryn ddiddordeb yn y mater hwn. Roedd yn bleser gennyf gynnal y derbyniad hwnnw a chroesewais y drafodaeth ynghylch mater cymhleth iawn.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datgan yn gyson ei hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y pwysigrwydd a roddir i gyflogau isel, yr isafswm cyflog cenedlaethol a chyflawni a chynnal lefel uchel o gyflogaeth mewn perthynas â’r agenda bolisi ac ymchwil yng Nghymru. Mae’r cyfuniad o’r isafswm cyflog cenedlaethol a chredydau treth ar gyfer pobl mewn gwaith wedi profi’n effeithiol iawn wrth ddatblygu mentrau gwaith a chynorthwyo pobl i drosglwyddo o fudd-daliadau i gyflogaeth.  

Mae’n bwysig cydnabod y gallai newidiadau mewn patrymau cyflogau arwain at ganlyniadau anfwriadol. O’r herwydd, mae’n hollbwysig ein bod yn edrych mewn manylder ar y dystiolaeth ynghylch effaith debygol cyflwyno Cyflog Byw ar economi Cymru cyn mynd ati i’w hyrwyddo fel polisi priodol ar gyfer lleihau tlodi.  


Cefndir

Yn rhinwedd ei rôl fel y Gweinidog sy’n arwain gwaith Panel Cynghorol Cymru ar Ymchwil Economaidd gofynnodd Prif Weinidog Cymru i’w aelodau ystyried cynnig ymchwil a gyflwynwyd gan Drefnu Cymunedol Cymru ddechrau Mawrth 2007. Mewn ymdrech i bennu faint o wybodaeth sydd i’w chael ynghylch y mater hwn cyngor y Panel Cynghorol oedd y dylai Llywodraeth y Cynulliad, fel cam cyntaf, gynnal seminar economaidd yn canolbwyntio ar gyflogau isel. O ganlyniad, cynhaliwyd seminar ar Gyflogau Isel a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ddiwedd Mawrth 2007.

Bu i’r arbenigwyr a siaradodd yn y seminar bwysleisio y gallai cynnydd cymharol fawr yn yr isafswm cyflog achosi effaith negyddol, gan beri i gyflogwyr leihau nifer eu gweithwyr, ac yn arbennig weithwyr â lefel isel o sgiliau ac sy’n derbyn cyflogau isel. Bu i’r unigolion a gymerodd ran gyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys yr angen i ymchwilio i oblygiadau economaidd cyflwyno polisi ar Gyflog Byw ar gyfer Cymru. Yn sgil hyn, bu i Brif Weinidog Cymru gymeradwyo’r cam i gomisiynu astudiaeth er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau o ran gwybodaeth a bennwyd gan aelodau’r Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd.  

Y Sefyllfa Bresennol

Yn ystod cyfarfod diweddaraf y Panel a gynhaliwyd ar 6 a 7 Tachwedd bu i’r aelodau gytuno y gallai’r broses gaffael ffurfiol ddechrau yn unol â rheolau Llywodraeth y Cynulliad ynghylch caffael. Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod manyleb yr ymchwil bellach wedi’i chwblhau, ac y bydd contract yr ymchwil yn dechrau cyn gynted ag y cwblheir y gweithdrefnau caffael.