Skip to content

Ysgrifenedig - Y bwriad i ddyfarnu’r Contract ar gyfer adeiladu swyddfa Cyffordd Llandudno

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Ym mis Medi y llynedd cyhoeddais fod angen cynnal ymarfer ailgaffael parthed y contract adeiladu, yn dilyn penderfyniad i oedi ac adolygu prosiect swyddfa Cyffordd Llandudno er mwyn profi’r farchnad ymhellach a sicrhau gwerth am arian.

Gallaf bellach eich hysbysu ynghylch canlyniad bwriadedig yr ymarfer ailgaffael. Yn unol â gweithdrefnau caffael yr Undeb Ewropeaidd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach yn rhan o gyfnod o oedi gorfodol am 10 diwrnod cyn bwrw ymlaen â chontract. Y bwriad ar hyn o bryd, yn amodol ar ganlyniad y cyfnod hwn, yw y bydd y contract â Pochin PLC yn dechrau ar 20 Hydref 2008.

Dyma newyddion positif iawn a bydd cyfiawnhad llwyr dros ailgaffael y contract yn sgil y gwelliannau a welir a’r gwerth amlwg am arian a gyflawnwyd.

Yn amodol ar ganlyniad y cyfnod o 10 diwrnod bydd y gwaith adeiladu yn dechrau cyn gynted â phosibl a’r bwriad yw ei gwblhau erbyn gwanwyn 2010. Yn dilyn hyn bydd cyfnod o osod dodrefn a TGCh cyn y bydd staff yn dechrau gweithio yn y swyddfa yn haf 2010.

Dyma newyddion positif iawn ac mae’n cadarnhau’r ffaith ein bod yn gwbl ymrwymedig i’r prosiect. Bydd y swyddfa hon yn gryn ased i Lywodraeth Cynulliad Cymru a phobl Gogledd Cymru.