Skip to content

Ysgrifenedig - Gweledigaeth Leol - Canllawiau Statudol ar ddatblygu a gweithredu Strategaethau Cymunedol

Dolenni perthnasol

Bwriad y strategaeth gymunedol yw dwyn ynghyd bawb a all gyfrannu at ddyfodol y cymunedau sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Y Cefndir

Mae'n ddyletswydd statudol ar yr awdurdodau lleol i baratoi 'strategaethau cymunedol' er hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd a chyfrannu at y gwaith o sicrhau datblygu cynaliadwy yn y DU. Gelwir y broses o baratoi strategaethau o'r fath yn gynllunio cymunedol.

Mae angen i gynllunio cymunedol ddatblygu gweledigaeth strategol hirdymor ar gyfer ardaloedd yr awdurdodau lleol a'u poblogaethau. Dylid ei seilio ar ddadansoddiad trylwyr o anghenion, blaenoriaethau a chyfleoedd ar gyfer ymdrin â hwy ar ôl cydweithio'n helaeth â chyrff sy'n bartneriaid ac ymgysylltu â phobl leol. Dylai'r strategaeth sy'n deillio o hyn gynnig gweledigaeth 10-15 mlynedd, ar sail y blaenoriaethau strategol a amlinellir yng 'nghynlluniau plant a phobl ifanc', 'strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles', 'cynlluniau datblygu lleol' a chynlluniau a strategaethau eraill o bwys.

Mae cynllunio cymunedol felly yn ganolog i'n hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n un o'r prif ddulliau o sicrhau mwy o gydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau lleol yn ogystal â chynnwys dinasyddion a chymunedau yn y broses o lunio dyfodol eu hardaloedd.

Canllawiau Diwygiedig

Yn erbyn y cefndir hwnnw, rydym wedi paratoi canllawiau statudol diwygiedig ar gynllunio cymunedol. Mae'r canllawiau hyn, ynghyd â mwy o wybodaeth am gynllunio cymunedol, i'w gweld ar ein gwefan.

Mae'r canllawiau'n adeiladu ar y profiad o gynllunio cymunedol yng Nghymru ers 2001. Mae hyn wedi amlygu rhai cryfderau o ran ymrwymo i'r broses ac ymgysylltu â hi. Mae angen cael ffocws cliriach a mwy o ymdeimlad y gellir cyflawni'r gwaith os yw cynllunio cymunedol i wneud y mwyaf o'i botensial. Dyna nod y canllawiau diwygiedig. Yn hytrach na bod yn rhai haearnaidd, maent yn rhoi cryn ryddid i bartneriaid lleol allu diffinio blaenoriaethau'r strategaethau cymunedol, cytuno arnynt ac yna eu cyflawni o fewn fframwaith cenedlaethol eang.

Mae'n naturiol fod partneriaid lleol yn y sefyllfa orau i benderfynu ar flaenoriaethau lleol yn y modd hwn. Er hynny, mae'n hanfodol eu bod yn eu rhoi ar waith wedi hynny. Nid oes diben rhoi rhyddid ar lefel leol os nad yw'r rhyddid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n llawn er budd cymunedau a phobl leol. Mae'r canllawiau newydd felly yn rhoi pwyslais cryf ar gydweithio er mwyn gwella lles, yn hytrach na disgrifio sut y byddai'n ymddangos.

Datblygwyd y canllawiau mewn cydweithrediad agos â llawer o bartneriaid ac ar ôl ymgynghori'n eang, a oedd yn dangos bod cefnogaeth gyffredinol i'n dull ni o weithio. Bellach, mae angen troi'r gefnogaeth honno'n realiti. Yn dilyn yr etholiadau lleol, dylai pob awdurdod lleol a'i bartneriaid roi blaenoriaeth uchel i'r broses o ddiwygio ac edrych o'r newydd ar eu strategaethau cymunedol yn unol â'r canllawiau newydd. Yna, mae angen iddynt fynd ati i gyflawni'r ymrwymiadau sydd ynddynt, er mwyn gwella lles holl ddinasyddion a chymunedau Cymru.