Skip to content

Llafar - Argymhellion gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog - Dull newydd o ymdrin â Datblygu Economaidd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mae gan Lywodraeth Cymru’n Un weledigaeth glir ar gyfer economi gref a mentrus, ynghyd â chyflogaeth lawn yn seiliedig ar swyddi o ansawdd. Ein dyhead yw creu mwy o gyfoeth i’r genedl hon a’i phobl, newid cydbwysedd ein patrymau cyflogaeth, canolbwyntio’n fanylach ar gymorth busnes, a rhoi i’n gweithlu y gefnogaeth a’r sgiliau y mae arnynt hwy a’u diwydiannau eu hangen. Drwy wneud hyn, yr ydym yn cryfhau’r sector preifat.

Wrth reswm, bydd y diwydiannau traddodiadol yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y dyfodol. Serch hynny, bydd yn rhaid i’r rôl hon fod yn rhan o economi amrywiol, gan sicrhau twf cynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Bydd yn economi a all ymateb i anghenion a chyfleoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac wynebu amodau economaidd heriol.

Yr ydym am greu sefyllfa lle bydd Cymru yn ffynnu, yn hytrach na goroesi’n unig. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni ganolbwyntio mwy ar y sectorau a all sicrhau’r canlyniadau yr ydym am eu gweld a chreu’r cyfoeth mwyaf. Mae Cymru yn ddigon bach i allu ymateb yn gyflym ac ar frys i heriau o’r fath, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o sbarduno newid a thwf er mwyn gwireddu ein gweledigaeth. Rhaid i ni dderbyn bellach nad yw bod yn gystadleuol yn golygu bod yn rhaid i ni gystadlu â marchnadoedd yn Asia a dwyrain Ewrop o ran costau isel. Ein nod yw ychwanegu gwerth at ein heconomi a gosod sylfeini cadarn ar gyfer y tymor hir. Mae angen i ni fod yn fwy craff a gwneud mwy na dim ond creu a diogelu swyddi beth bynnag fo’u gwerth.

Rhaid i’n huchelgais hefyd fod ynghlwm wrth y broses o roi argymhellion yr adolygiad o fasnacheiddio ar waith, a hynny mewn partneriaeth â phrifysgolion ac â’r sector preifat. Rhaid i ni fuddsoddi mwy ym maes ymchwil a datblygu yn ein sefydliadau, cadw at yr ymrwymiadau a wnaethom yn 'Cymru’n Un’ i hybu gwaith ymchwil, a sicrhau’r fantais fasnachol fwyaf. Ar yr un pryd, yr ydym am sicrhau bod pobl sydd ar hyn o bryd yn anweithgar yn economaidd yn gallu ymuno â’r farchnad lafur. Er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau bod 80 y cant mewn cyflogaeth lawn, yr ydym wrthi’n datblygu dull integredig o weithio ar draws Llywodraeth y Cynulliad. Byddwn yn gweithio’n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn i weld ble a sut y gallwn ategu’r ddarpariaeth brif ffrwd.

Nid yw bod yn amrywiol yn golygu bod yn rhaid i ni ragori ym mhob dim. Heb strategaeth glir sy’n canolbwyntio ar yr economi, byddem mewn perygl o fethu â chyrraedd ein potensial a sicrhau’r gwerth gorau am arian wrth fuddsoddi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Ein bwriad yw deall ein cryfderau a gwybod lle mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion at y dyfodol. Dyna pam mae grŵp cynghori’r Gweinidog ar yr economi a thrafnidiaeth wedi cynnal dadansoddiad trylwyr o economi Cymru. Ein nod fel Llywodraeth yw sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn sgîl technolegau newydd a newidiadau byd-eang. Er mwyn cyflawni hyn, bu’r grŵp cynghori yn edrych ar berfformiad cyfredol, y rhagolygon hirdymor a thueddiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Er mwyn hybu twf hirdymor a chynaliadwy, argymhellodd y grŵp y dylai Llywodraeth y Cynulliad ganolbwyntio ar 14 sector allweddol.

Yr wyf wedi ystyried cyngor grŵp cynghori’r Gweinidog yn ofalus, ac wedi trafod y manylion yn fanwl gyda fy swyddogion a’m cyd-Weinidogion. Yng ngoleuni’r trafodaethau hynny, yr wyf wedi penderfynu derbyn yr argymhellion canlynol. Mae rhestr y sectorau y cytunwyd arnynt yn dechrau gyda thri sector craidd neu sector galluogi, sydd o bwys mawr i’r economi ac yr ydym, felly, am roi’r brif flaenoriaeth iddynt. Y sectorau hynny yw: ynni a cheisio cynhyrchu a chyflenwi ynni glân ac adnewyddadwy; rheoli’r amgylchedd ar sail yr angen i ddefnyddio llai o ynni a’i ddefnyddio mewn ffordd mor effeithlon â phosibl mewn diwydiant ac yn ein cartrefi; a thelathrebu a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, sef asgwrn cefn a phrif gyfrwng galluogi’r economi wybodaeth. Mae’r ddau yn sectorau twf uchel ynddynt eu hunain.

Yna daw chwe sector nad ydynt o anghenraid yn sectorau galluogi, ond sydd o bwys strategol i Gymru. Y sectorau hyn yw biowyddoniaeth, iechyd, gwasanaethau/ cynnyrch ariannol a gwasanaethau proffesiynol, diwydiannau creadigol, y sector modurol a’r sector awyrofod. Yn olaf, mae pum sector wedi’u nodi sydd o bwys economaidd i Gymru a’r byd ond sydd yn llai strategol o ran datblygu ein mantais gystadleuol. Y rhain yw adeiladu, bwyd, amddiffyn, manwerthu a hamdden a thwristiaeth. Nid yw’r ffaith ein bod yn rhoi sylw i’r sectorau hyn yn golygu bod Cymru ar gau i fusnesau mewn sectorau eraill pan fydd cyfleoedd yn codi o ran dechrau busnes, twf neu fuddsoddi mewnol. Yr ydym yn cydnabod bod cwmnïau llwyddiannus eisoes yn bodoli mewn sectorau eraill, ac yr ydym yn dal yn benderfynol o gefnogi mentergarwch ac arloesed. Gwyddom y bydd angen i ni fod yn hyblyg o fewn y prif sectorau a chadw golwg ar restr y sectorau yn rheolaidd.

Wedi dweud hynny, ni ddylem ddiystyru’r newid sy’n digwydd yn sgil y ffocws hwn. Mae’r prif sectorau wedi chwarae rhan ganolog yn y broses o ailstrwythuro fy adran i. Bellach, mae gennym dimau sector wedi’u neilltuo ar gyfer llunio polisi a gweithredu’r polisi hwnnw. Yn ein cynllun gweithredu, mae gennym gytundeb ar draws Llywodraeth y Cynulliad ar gydgysylltu’n dulliau o sbarduno’r economi. Fel yr oedd y grŵp cynghori yn cydnabod, mae cydweithio’n arbennig o bwysig, ac mae’n prysur ddod yn un o brif nodweddion Llywodraeth Cymru’n Un. Mae gwasanaeth cymorth hyblyg i fusnes yn cynnig ffyrdd newydd o fuddsoddi yn ein prif sectorau, o’r gronfa fuddsoddi sengl i fenter JEREMIE. Ond mae bod yn hyblyg yn gofyn am ehangder, a’r negeseuon yr wyf yn eu derbyn gan fusnesau ym mhob sector yw bod sgiliau yn fater allweddol. Dan arweiniad 'Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’, byddwn yn gwrando ar lais y cyflogwr ac yn gweithredu arno. Mae fy swyddogion i’n gweithio’n agos â swyddogion Jane Hutt i integreiddio sgiliau o fewn y gwasanaeth cymorth hyblyg i fusnes. Mae’r hyn y mae Cymru yn ei gynnig i fuddsoddwr yn fater o’r pwys mwyaf, ac mae’r cymysgedd cywir o sgiliau’n rhan o becyn sy’n cynnwys seilwaith, asedau naturiol a’r amgylchedd adeiledig.

Y ddau faes arall yr wyf am roi blaenoriaeth iddynt, ar wahân i gymorth busnes a masnacheiddio, yw adfywio a thrafnidiaeth. Mae angen i ni greu amgylchedd ar gyfer twf, a sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein prif sectorau.

Mae bod yn gynaliadwy nid yn unig yn hynod bwysig ynddo’i hun, ond hefyd o ran yr economi—gall olygu bod yn effeithlon ac yn fwy deniadol i gwsmeriaid a buddsoddwyr. Yr wyf yn gweithio’n agos â Jane Davidson ar ein strategaeth ar gyfer swyddi gwyrdd ac ar sicrhau y gall busnesau gael cyngor a chefnogaeth o ansawdd uchel ar faterion fel defnyddio adnoddau’n effeithlon. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant adeiladu ar gynaliadwyedd.

Mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae wrth ein helpu i roi safonau BREEAM ar waith ac i sicrhau bod gennym dai a safleoedd o safon ledled Cymru.

Mae’r ymagwedd sectoraidd hon yn berthnasol i bob un o’n portffolios: o amaethyddiaeth i adfywio, ac o dreftadaeth i dai. Mae’r dadansoddiad wedi’i gwblhau, mae gennym yr awydd ac mae gennym yr arfau. Mae hon yn agenda uchelgeisiol, ond drwy gydweithio ar draws Llywodraeth y Cynulliad a chyda busnesau, byddwn yn sicrhau mwy o swyddi a swyddi gwell, a dyfodol mwy llewyrchus i bobl Cymru.