Skip to content

Ysgrifenedig - Y Mesur Mynediad i’r Môr a’r Arfordir

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cyflwynwyd y Mesur Mynediad i’r Môr a’r Arfordir gerbron Tŷ’r Arglwyddi ddydd Iau 4 Rhagfyr.        

Bydd y Mesur yn rhoi pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru o ran trwyddedu morol, cadwraeth forol a physgodfeydd. Bydd y Mesur hefyd yn rhoi swyddogaethau newydd i Weinidogion Cymru o ran cynllunio morol. Bydd y swyddogaethau hyn yn eu galluogi i lunio a mabwysiadu cynlluniau morol statudol ar gyfer rhanbarthau mewndirol ac arfordirol Cymru. Mae’r swyddogaethau hyn yn ychwanegiad gwerthfawr i’r rheini sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru fabwysiadu polisïau er mwyn llywio datblygu morol ger arfordir Cymru ar hyn o bryd a bydd yn rhoi’r cyfle a’r modd i ni gynllunio’n fwy holistig ac yn fwy effeithiol o safbwynt statudol er mwyn rheoli a llywio’r gwaith o ddatblygu dyfroedd Cymru mewn modd cynaliadwy. Gyda’i gilydd, bydd y pwerau y mae’r Mesur yn bwriadu eu rhoi yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau sy’n strategol ddeallus ac yn gydlynol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd cynaliadwyedd o ran y modd yr ydym yn defnyddio’n moroedd.  

Bydd Datganiad ar Bolisi Morol ar gyfer dyfroedd y DU yn nodi’r amcanion lefel uchaf ar gyfer y môr. Y nod yw cytuno ar Ddatganiad ar Bolisi Morol a’i roi yn ei le ymhen 2 flynedd o sicrhau Cydsyniad Brenhinol i’r Mesur - hwn wedyn fydd yn pennu’r cyd-destun ar gyfer Cynlluniau Morol.

Gweinidogion Cymru fydd yr unig awdurdod cynllunio ar gyfer y rhanbarthau mewndirol a’r rhanbarthau oddi ar yr arfordir yng Nghymru. O ystyried y plethwaith cymhleth o gyfrifoldebau datganoledig ac o gyfrifoldebau nad ydynt wedi'u datganoli ym maes y môr, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i ddatblygu system holistig o gynllunio gofodol ar gyfer y môr.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â’r gwaith o reoli’r môr yng Nghymru. Nid creu sefydliad newydd yw’r trywydd cywir ar gyfer Cymru.

Bydd y darpariaethau ar gyfer trwyddedu yn y Mesur yn symleiddio’r gweithdrefnau presennol. Bydd yn cynnig system reoleiddio glir, gymesur er mwyn diogelu’r amgylchedd a chaniatáu gweithgareddau lle bo’n briodol. Mae’n bosibl y bydd amodau yn cael eu nodi pan fydd gweithgaredd yn cael ei drwyddedu. Gallai torri unrhyw un o’r amodau hyn olygu cosbau sifil neu arwain at erlyniad.

Yn y Mesur mae cadwraeth forol yn canolbwyntio ar gyflwyno system newydd o rannau o’r môr sydd wedi’u diogelu, sef y Parthau Cadwraeth Morol, a gall y rhain gael eu dynodi er mwyn diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi achub ar y cyfle y mae’r Mesur hwn yn ei gynnig i geisio pwerau gwneud mesurau i Gymru ar fynediad i’r arfordir. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Mesur yn rhoi pwerau gwneud mesurau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i gyflwyno cynigion a fydd yn ategu ac yn ychwanegu gwerth at amcanion ein Rhaglen bresennol i Wella Mynediad i’r arfordir.

Mae Memorandwm Esboniadol sy’n nodi cefndir a chyd-destun y pwerau gwneud mesurau yr ydym yn eu ceisio wedi’i roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae modd gweld y Mesur a’r nodiadau esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef trwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://services.parliament.uk/bills/2008-09/marineandcoastalaccess.html