Skip to content

Llafar - Adroddiad Gwasanethau lechyd Meddwl Michael Williams

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofiwch, yn gynharach eleni, yng ngoleuni pryderon cynyddol am gysondeb, ansawdd ac argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, imi hysbysu’r Aelodau y byddwn yn edrych eto ar y ffordd yr oedd gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a’u rheoli. Yn dilyn trafodaethau gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, gofynnais i’r Athro Michael Williams, sydd bellach yn ddirprwy gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, i roi barn gyntaf imi, fel arsylwr annibynnol ond hyddysg, am y ffordd orau o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Yr wyf bellach wedi derbyn ei adroddiad.

Croesawaf y ddogfen hon fel cyfraniad pwysig i’r daith yr ydym wedi dechrau arni mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Yr wyf yn benderfynol ein bod yn arwain trafodaeth genedlaethol o sylwedd am y gwasanaethau hollbwysig hyn. Un rheswm pam y cyfeiriwyd mor aml at y gwasanaeth iechyd meddwl fel gwasanaeth sinderela yw’r methiant i sicrhau trafodaeth agored, gyhoeddus am y pwnc. Fel y gŵyr yr Aelodau, buan iawn yr anghofir am wasanaethau sydd o’r golwg. Bydd adroddiad yr Athro Williams yn helpu i sicrhau ein bod yn rhoi gwedd newydd o ddiddordeb a sylw cyhoeddus i ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl, ac yr wyf yn ddiolchgar iawn iddo am hynny.

Noda’r Athro Williams yn ei adroddiad yr ymagwedd y mae wedi’i mabwysiadu a’r dystiolaeth a ystyriwyd ganddo. Yn benodol, mae wedi gweithio gyda Hafal a MIND Cymru i ddatblygu ei argymhellion. Mae ei adroddiad yn pwyso’n drwm ar yr adolygiad diweddar o wasanaethau iechyd meddwl Cymru gyfan, a gadeiriwyd ar y cyd gan Mary Burrows, prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, a Stewart Greenwell, prif swyddog gofal cymdeithasol a thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Edrychodd adolygiad Burrows/Greenwell yn ehangach ar y materion sy’n effeithio ar effeithiolrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, a gwnaeth argymhellion ynghylch cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, fe’i cynhaliwyd cyn fy mhenderfyniad i ymgynghori’n ehangach ar strwythur y GIG yng Nghymru, ac mae’r Athro Williams wedi gallu llunio ei gasgliadau gan wybod am y cynigion i ymgynghori.

Yr ydym oll yn deall bod iechyd a lles meddwl da yn hanfodol i ansawdd bywydau unigolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach. Cymryd camau i wella a diogelu iechyd a lles meddwl holl bobl Cymru yw un o’m prif flaenoriaethau, a chydnabyddaf ran hollbwysig iechyd a lles meddwl yn natblygiad gwlad sy’n gydlynol yn gymdeithasol ac sy’n fywiog yn economaidd. Drwy gymryd y camau cywir, gallwn osgoi’r costau personol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl y gellir eu hosgoi.

Wrth ddatblygu ei argymhellion, mae’r Athro Williams wedi talu sylw penodol i waith Sefydliad Iechyd y Byd. Negeseuon allweddol y sefydliad yw bod cysylltiad agos rhwng iechyd ac iechyd meddwl; bod iechyd meddwl yn sail i les a’i fod yn hanfodol i gymdeithas, i deuluoedd ac i unigolion; y caiff ei ddylanwadu gan ffactorau cymdeithasol-economaidd a ffactorau amgylcheddol; y caiff ei gysylltu ag ymddygiad; y gellir ei wella drwy ymyriadau iechyd cyhoeddus effeithiol; ac y gallai ddibynnu ar werthoedd cyffredin yn gymaint ag ar ansawdd tystiolaeth wyddonol. Mae hinsawdd sy’n parchu ac yn diogelu hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylfaenol yn hanfodol i hybu iechyd meddwl, a chysylltiadau rhwng sectorau yw’r allwedd i hybu iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl yn fusnes pawb. Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny.

Er mwyn cryfhau ein gallu i wella iechyd a lles meddwl ein cymunedau, argymhella’r Athro Williams y dylid sefydlu un corff statudol cyfrifol i gynllunio a darparu gwasanaeth iechyd meddwl cwbl integredig. Mae’n cydnabod hefyd y gofyniad y byddai’n rhaid i unrhyw gorff o’r fath ddatblygu dulliau sy’n fwy lleol er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd gydgysylltiedig ar lawr gwlad. Cred yr Athro Williams y bydd corff o’r fath yn pwysleisio manteision cadarnhaol mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â lles drwy gydol bywyd. Byddai angen i’r corff uno gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau aciwt i ddarparu gofal di-dor i ddefnyddwyr. Yn anad dim, ni ddylai ffiniau sefydliadol, oedran na chyllideb gael effaith andwyol ar ofal. Mae’r Athro Williams yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac arbenigol yn gweithio mewn partneriaeth agos â gwasanaethau iechyd cyffredinol i bobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl, beth bynnag y lleoliad y cynigir y cymorth ynddo. Mae ei adroddiad yn amlygu’r angen i wasanaethau cyswllt cryf ac effeithiol gael eu datblygu ymhellach.

Mae’r Athro Williams yn rhagweld corff a fyddai’n darparu gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cyfuno arbenigedd ymddiriedolaethau’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol, gydag ymrwymiad pendant i weithio gyda gofal sylfaenol, mudiadau gwirfoddol, darparwyr preifat a darparwyr di-elw, a chyrff mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd, cyfiawnder, tai, addysg, hamdden a’r celfyddydau, wedi’u llywio gan anghenion defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, gydag arweinyddiaeth glinigol, arbenigedd ac ymrwymiad cadarn. Mae hefyd yn argymell ffocws cryfach ar ymchwil, datblygu ac addysgu mewn gwasanaethau iechyd meddwl i sicrhau y caiff anghenion y dyfodol, yn ogystal ag anghenion presennol, eu diwallu.

Dosberthais adroddiad yr Athro Williams i bob Aelod yn gynharach heddiw er mwyn ychwanegu at y ddadl ehangach ar wasanaethau iechyd meddwl. Bydd angen i’r ddadl honno ystyried yr ymgynghoriad ar ddiwygio strwythurol y GIG a lansiais ddechrau mis Mai. Byddaf yn gofyn barn pob rhanddeiliad, gan gynnwys cleifion a’u gofalwyr, am yr adroddiad hwn heddiw a fydd yn sail i’m hystyriaethau ar y materion pwysig hyn. Yr wyf yn benderfynol o sicrhau, wrth ddod i unrhyw gasgliadau, fy mod yn creu model ar gyfer rheoli gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru sy’n diwallu ein hanghenion yn awr ac yn y dyfodol, a bod y trefniadau hyn yn gyson â’r model cyffredinol ar gyfer trefnu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed barn pawb a chanddo ddiddordeb yn y maes hollbwysig hwn.