Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad Syr Michael Pitt o lifogydd haf 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Heddiw cyhoeddodd Syr Michael Pitt ei adolygiad o lifogydd haf diwethaf. Croesawaf yr adroddiad hwn ac yn arbennig y gwersi a ddysgwyd ynghylch ein hymateb i un o’r achosion mwyaf eithafol o lifogydd i effeithio ar y DU ers cyn cof.

Mae digwyddiadau o’r fath yn debygol o ddod yn fwy cyffredin o ystyried y rhagolygon presennol ynghylch effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Er y bu Cymru yn ddigon ffodus i ddianc rhag y gwaethaf o dywydd eithafol yr haf diwethaf, sy’n golygu bod adolygiad ac argymhellion Syr Michael Pitt yn berthnasol i Loegr yn bennaf, mae Cymru yr un mor agored i niwed â’r ardaloedd hynny yn Lloegr yr effeithiwyd arnynt. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o ddysgu’r gwersi a gaiff eu hamlinellu yn adroddiad Syr Michael Pitt ac o wneud cymaint â phosibl er mwyn sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol petai Cymru yn wynebu sefyllfa o’r fath.

Am y rheswm hwn, pan gyhoeddwyd adroddiad interim Syr Michael Pitt ym mis Rhagfyr 2007 gofynnais i’m swyddogion ystyried pa mor berthnasol ydoedd i Gymru ac i baratoi cynllun gweithredu er mwyn ceisio gwella ein trefniadau presennol.

Yn fy Natganiad Llafar i’r Cyfarfod Llawn ar 21 Mai gwnes ddisgrifio pa gamau oedd yn cael eu cymryd o’r herwydd er mwyn sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer digwyddiadau o’r fath.

Mae’n bleser gennyf nodi bod y gwaith da yn parhau i fynd rhagddo, ac yn arbennig o ran mapio ardaloedd allweddol ledled Cymru ar gyfer draenio dŵr wyneb. Byddwn yn mynd i’r afael â’n gwaith cynllunio strategol a byddwn yn rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid proffesiynol, yn cynnwys cynllunwyr a gwasanaethau brys.

Byddaf yn ystyried adroddiad terfynol Syr Michael Pitt dros yr haf a byddaf yn datblygu camau gweithredu ychwanegol yn yr ardaloedd hynny lle gall gwelliannau pellach gael eu gwneud.

Un o’r argymhellion mwyaf arwyddocaol yw’r angen i ddiweddaru a symleiddio’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch risg llifogydd a’r risg i’r arfordir a’r gwaith o’i reoli.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn dyddio yn ôl i’r 1930au ac yn sicr mae angen ei moderneiddio er mwyn adlewyrchu pob ffynhonell llifogydd, er mwyn egluro rolau a chyfrifoldebau ac er mwyn ei gwneud yn haws i reoli risg o ran llifogydd a’r arfordir.

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyhoeddi Mesur Llifogydd a Dŵr drafft. Byddaf yn cydweithio’n agos â’m cydweithwyr yn Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth y Cynulliad, drwy’r Mesur hwn, y pwerau angenrheidiol ar gyfer sicrhau y caiff y risgiau hyn eu rheoli’n effeithiol ac er mwyn helpu Cymru i addasu’n llwyddiannus i’r heriau sydd ynghlwm â’r newid yn yr hinsawdd.