Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Achub Morgais

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, Y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rwy’n falch o gael cyhoeddi mesur tai estynedig i ymdrin â chanlyniadau anffodus yr ‘argyfwng credyd’ presennol.

Mae nifer cynyddol o berchnogion cartrefi yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle gallai eu heiddo gael ei adfeddiannu gan na allan nhw dalu eu taliadau morgais. Mae hyn yn peri pryder mawr i mi. Mae yna ganlyniadau difrifol pan fydd teulu’n mynd yn ddigartref ar ôl colli’u cartref. Rhaid i’r plant symud i ysgolion eraill, ac yn aml, gall iechyd a lles holl aelodau’r teulu ddioddef. Rwy felly’n ymestyn y cynllun presennol er mwyn rhoi help sylweddol i ragor o deuluoedd sy’n cael eu hunain dan amgylchiadau o’r fath. Bydda’ i’n gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, er mwyn i deuluoedd sy’n wynebu bod yn ddigartref allu defnyddio ein cynllun achub morgeisi, lle mae cymdeithas tai yn cael prynu’r tŷ cyfan, gan sicrhau tenantiaeth i berchnogion y cartref, neu yn cael prynu rhan ecwiti os bydd y rhai sy’n talu’r morgais yn gallu fforddio benthyciad llai.

Wrth gwrs, y galw amdano fydd yn arwain y cynllun hwn, ac er y bu’n rhaid i gymdeithasau tai yn y gorffennol dynnu’r arian o arian a oedd wedi’i neilltuo eisoes, fy mwriad yw rhoi arian ychwanegol i’r rhaglen hon er mwyn sicrhau y bydd pob cymdeithas tai cofrestredig yn cael cymryd rhan.

Mae hyn yn dangos gallu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i newidiadau yn y farchnad. Mae’r agenda ar gyfer atal digartrefedd yn bwysig, a bydd ymyrryd fel hyn yn lleihau’r baich ar awdurdodau lleol ac yn rhoi diogelwch i’r rhai sy’n wynebu realiti caled bod yn ddigartref ar ôl cael eu troi allan o’u cartrefi.