Skip to content

Llafar - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – y Trefniadau Cyllido

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Yr wyf wedi dod gerbron Aelodau’r Cynulliad heddiw i amlinellu newidiadau i’r trefniadau cyllido rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Sefydlwyd yr ardd fotaneg genedlaethol ym mis Mai 2000, ac yr oedd yn un o nifer o brosiectau yng Nghymru a ariannwyd gan Gomisiwn y Mileniwm. Profodd yr ardd drafferthion yn fuan ar ôl iddi agor, a gofynnodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru am gefnogaeth am y tro cyntaf yn 2002. Yr ydym wedi bod yn un o’i phartneriaid allweddol fyth ers hynny. Mae’r Llywodraeth yn ystyried bod yr ardd yn sefydliad cenedlaethol sy’n gynyddol ennill parch rhyngwladol, ac yn enghraifft flaenllaw o’r nod o ddod â datblygiad economaidd a bri cenedlaethol i bob rhan o’r genedl.

Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Mawrth 2004, trefnodd y Llywodraeth gytundeb cyllido pum mlynedd gyda’r ardd, ac yr oedd y cytundeb hwnnw wedi ei sylfaenu ar weithredu strategaeth adfer yr oedd yr ardd a’r tri phartner cyllido, sef y Llywodraeth, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chomisiwn y Mileniwm, wedi cytuno arni.

Mae’n bleser gennyf hysbysu’r Aelodau bod yr ardd wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu’r strategaeth honno. Mae’r tîm rheoli newydd wedi cyflwyno ymdeimlad cliriach o bwrpas ac o gyfeiriad, ac mae’n rheoli’r busnes yn fwy effeithiol. Mae’r hyn a gyflawnwyd gan yr ardd yn cynnwys sicrhau mwy na 15,000 o ymweliadau addysgol yn 2006-07, cynnydd o 20 y cant yn nifer yr ymwelwyr ers 2003, a chynnydd o 40 y cant yn yr incwm a geir o ganlyniad i letygarwch corfforaethol. Yn ychwanegol at hynny, mae’r cyfleuster biotechnium ar y safle wedi’i brydlesu i Morvus, sef cwmni ymchwil a datblygu sy’n gweithio yn y maes fferyllol, sy’n golygu bod 70 o swyddi ymchwil o ansawdd uchel ym maes biowyddoniaeth wedi symud i sir Gaerfyrddin.

Mae’r ardd ar y trywydd iawn i gwrdd â’r targedau a bennwyd o ran nifer yr ymwelwyr ar gyfer 2007-08, ac mae’r rheolwyr yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ennill cymaint o incwm ychwanegol ag sy’n bosibl. Mae’r ardd wedi dangos hefyd fod ei gweithgareddau o fudd gwyddonol, addysgol, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.

Er hynny, yn ogystal â chynnal y gweithgareddau presennol, yr ydym ni a’r ardd yn deall yn glir bod angen gwneud mwy o waith i ddenu cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid sy’n dychwelyd fwy nag unwaith. Mae angen gwneud mwy na chynnal arddangosfeydd ac arddangosiadau newydd yn unig. Mae angen i ni dalu mwy o sylw i swyddogaeth wyddonol ac addysgol yr ardd er mwyn ei galluogi i ddatblygu ac, wrth wneud hynny, mae’n rhaid i ni gofio bod hysbysu, addysgu a diddanu yn mynd law yn llaw.

Gyda’r nod hwn mewn golwg, mae’r ardd yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Cymru, Bangor er mwyn datblygu canolfan a fydd yn darparu rhaglenni addysgol ledled y gogledd. Bydd Gardd Fotaneg Treborth, sy’n eiddo i’r brifysgol, yn cael ei defnyddio at y diben hwn, ac yn dod â swyddogaeth yr ardd fotaneg genedlaethol at stepen drws y cyhoedd.

Ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, mae’r ardd yn bwriadu dynodi 400 erw o dir o fewn ystâd yr ardd yn warchodfa natur genedlaethol. Byddai hyn yn golygu y byddai fferm organig weithredol yn rhan o’r portffolio o warchodfeydd natur cenedlaethol. Y ffarm hon fyddai’r enghraifft gyntaf o’i bath a fyddai gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a bydd hefyd yn batrwm ar gyfer cyfuno arferion ffermio organig da a rheoli cynefinoedd.

Bydd y cynlluniau sydd gan yr ardd i barhau i ddatblygu rhaglenni addysg a gwyddoniaeth cadarn yn hyrwyddo’r enw da sydd ganddi fel gardd fotaneg o’r radd flaenaf. Er hynny, mae’n amlwg nad yw’r ardd eto mewn sefyllfa i gynnal ei hun yn ariannol; yn wir, nid oes yr un o’n sefydliadau cenedlaethol mewn sefyllfa i wneud hynny eto. Mae ganddi orddrafft sy’n agos i £1.9 miliwn. Nid yw’r adnoddau sydd ganddi ar hyn o bryd yn ddigon i reoli’r ystâd a’r gerddi yn iawn, ac mae angen mwy o gymorth ariannol arni er mwyn talu’r costau hyn. Yn ystod y cam hwn o ddatblygiad yr ardd, nid yw’r incwm oddi wrth ymwelwyr yn ddigon i dalu’r costau hyn.

Er bod costau cynnal y gweithgareddau presennol yn cynyddu, mae rhaglen dreigl o fuddsoddiad cyfalaf yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella ansawdd yr atyniad ymwelwyr. Mae’r ardd yn bwriadu rhoi cyfres o ddatblygiadau cyfalaf ar waith, ac er nad yw’n disgwyl i’r Llywodraeth gyllido’r datblygiadau hynny, mae cael cyllid ychwanegol ar eu cyfer oddi wrth drydydd parti yn ddibynnol ar fedru dangos bod ei sefyllfa ariannol yn un gadarn. Byddai hynny’n amhosibl pe nai bai’n cael gwared ar y gorddrafft.

Yn ystod y misoedd diwethaf, yr ydym wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r ardd a Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch y trefniadau cyllido i’r dyfodol. Yr wyf yn falch o ddweud, ar ôl y trafodaethau hyn, fy mod mewn sefyllfa i gyhoeddi pecyn ariannol newydd ar gyfer yr ardd.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant untro o hyd at £1.9 miliwn i’r ardd er mwyn i’r rheolwyr fedru clirio’r gorddrafft. Bydd yr arian hwn, sy’n dod o’r portffolio treftadaeth ac o gyllid a gronnwyd o danwariant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi’r ardd mewn sefyllfa ariannol fwy cadarn ac yn ei galluogi i ddatgloi’r cyllid cyfalaf sydd ei angen arni ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Yr wyf hefyd wedi cytuno i gynyddu lefel y cymorth refeniw o’r swm o £150,000 a roddir ar hyn o bryd i hyd at £550,000 y flwyddyn. Bydd y cymorth hwn yn galluogi’r ardd i gynnal a gwella’r ystâd a’r gerddi a, thrwy wneud hynny, bydd yn gallu gwella ymhellach yr atyniadau sy’n cael eu cynnig i ymwelwyr. Bydd hefyd yn rhoi cyfle iddi fynd ar drywydd datblygiadau pellach, gan gynnwys rhaglenni gwyddoniaeth ac addysg cryf. Bydd y lefel uwch hwn o gymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer y cyfnod o dair blynedd a fydd yn dod i ben yn 2010-11, a bydd angen mynd ati bryd hynny i adolygu’r patrwm cyllido hwn.

Yn ogystal â’r cymorth ychwanegol hwn oddi wrth y Llywodraeth, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi nodi ei fod yn barod i droi’r benthyciad o £1.35 miliwn a roddodd i’r ardd yn y gorffennol yn grant, gan osgoi’r angen iddi ad-dalu’r swm hwn. Mae’r cyngor sir wedi nodi hefyd ei fod yn barod i roi pecyn arall o gymorth ariannol i’r ardd, fel rhan o bartneriaeth sy’n cael ei chyllido ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin wrth ystyried dyfodol yr ardd. Nid yw’r cyllid hwn yn cael ei ddarparu ar draul cyllidebau eraill yn y portffolio treftadaeth. Nid ar chwarae bach yr aed ati i ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn, a bydd y pecyn cymorth hwn yn seiliedig ar delerau ac amodau grant llym ac ar fonitro perfformiad mewn ffordd effeithiol.

Bydd y pecyn cyllido yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi sylfaen ariannol gadarn i’r ardd er mwyn iddi fedru cryfhau a thyfu a hawlio ei lle haeddiannol fel sefydliad cenedlaethol o fri sy’n cryfhau enw da Cymru ym maes gwyddoniaeth yn rhyngwladol. Efallai bod yr ardd yn un o’r rhai ifancaf ar lwyfan y byd, ond mae’r cynnydd y mae wedi’i wneud yn ddiweddar yn dangos yn glir iawn fod ganddi’r potensial i wneud cyfraniad fydd hyn yn oed yn fwy gwerthfawr yn y blynyddoedd sydd i ddod.