Yr wyf wedi gwneud dau ddatganiad i’r Siambr yn ddiweddar ar ddyfodol y GIG yng Nghymru, y cyntaf ym mis Gorffennaf, ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, a’r ail ar ddechrau’r tymor hwn. Fy nod ar hyd yr adeg fu sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybodaeth lawn am y penderfyniadau sy’n datblygu, ac ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Heddiw, yr wyf am roi gwybodaeth ddiweddaru i’r Aelodau ar nifer o faterion y cytunais i’w hystyried ymhellach.
Yn gyntaf, yr wyf wedi rhoi cryn ystyriaeth i’r fformat cyfreithiol neu’r bersonoliaeth sy’n gweddu orau i’r cyrff GIG newydd yr ydym yn eu creu yng Nghymru. Ar ôl ystyriaeth ofalus, y model cyfreithiol y bwriadaf ei fabwysiadu yw model bwrdd iechyd lleol. Mae model y bwrdd iechyd lleol yn un a grëwyd yng Nghymru. Mae’n pwysleisio cydweithredu ac ymgysylltu. O’i gymharu â model ymddiriedolaeth y 1990au, mae’n cyd-fynd yn llawer gwell ag amcan polisi allweddol Llywodraeth y Cynulliad o ddileu’r farchnad fewnol yn y gwasanaeth iechyd. Mae pob Aelod yn y Siambr wedi cytuno ei bod yn rhaid inni gael system sy’n annog a hyrwyddo gweithio drwy bartneriaeth, fel bod y GIG yn gallu gweithio gyda llywodraeth leol a’r trydydd sector ac yn ymrwymo i wneud hynny. Bydd model y bwrdd iechyd lleol yn caniatáu ar gyfer hynny ac yn sicrhau y gallwn adeiladu ymhellach ar y gwaith drwy bartneriaeth a welwn, er enghraifft, wrth i’r strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles gael eu cynhyrchu.
Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i drafod mater amseru. Yr wyf wedi bod yn pwyso a mesur y farn a fynegwyd gan sawl Aelod yn y Siambr ei bod yn well cael hyn yn iawn, hyd yn oed os yw hynny’n golygu cymryd ychydig yn hwy dros y gweithredu. Cafodd y ddadl honno ei chyflwyno, er enghraifft, gan Jonathan Morgan ym mis Medi, pan anogodd fi hefyd i ystyried sefydlu trefniadau ar gyfer byrddau cysgodol, a oedd yn awgrym a wnaethpwyd yn wreiddiol gan Helen Mary Jones. Yr wyf yn ddiolchgar am y cyngor hwn, ac yr wyf wedi penderfynu, yn amodol ar ymgynghori, a gynhelir rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Chwefror 2009, ac ar wneud y Gorchmynion a’r rheoliadau cyfreithiol angenrheidiol, sefydlu’r cyrff GIG lleol newydd ar ffurf gysgodol o fis Mehefin 2009, gyda golwg ar iddynt ddod yn llwyr weithredol o fis Hydref 2009.
Bydd y bwrdd cynghori cenedlaethol wedi’i sefydlu erbyn mis Ebrill 2009, cyn sefydlu’r cyrff GIG lleol newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau y terfir cyn lleied â phosibl ar wasanaethau GIG a staff GIG. Mae Aelodau ar bob ochr i’r Siambr wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnal sefydlogrwydd yn y GIG. Byddaf yn cyflawni hynny drwy sefydlu’r bwrdd cynghori cenedlaethol ar yr adeg hon i oruchwylio gweithredu’r diwygiadau.
Mae nifer o faterion manwl yn weddill y byddaf bellach, fel y nodais yn gynharach, yn ymgynghori ymhellach yn eu cylch, gan gyhoeddi papur ymgynghori pellach ym mis Rhagfyr 2008. Edrychaf ymlaen at gymaint o ymgysylltu positif yn y rhan hon o’r broses ag a oedd yn amlwg yng ngham cyntaf yr ymgynghori yn y gwanwyn. Tra bydd y papur ymgynghori hwn yn cael ei ystyried, yr wyf o blaid dechrau’r broses penodiadau cyhoeddus i gael cadeiryddion ac is-gadeiryddion i’r saith corff GIG lleol newydd hyn, ddiwedd y flwyddyn hon efallai neu ddechrau’r flwyddyn nesaf, i sicrhau bod gennym bobl mewn swydd i arwain y cyrff newydd hyn cyn gynted â phosibl.
O ran byrddau’r cyrff newydd hyn, byddaf yn ymgynghori ynghylch model sy’n cyfuno’r gorau o brofiadau’r byrddau iechyd lleol a’r ymddiriedolaethau. Yr wyf am gael byrddau sy’n cynrychioli buddiannau allweddol ac a all wneud penderfyniadau. Yr wyf hefyd yn bwriadu sefydlu grŵp rhanddeiliaid anstatudol mwy ochr yn ochr â’r bwrdd, i ddarparu cyngor iddo. Hefyd, yr wyf wrthi’n ystyried creu fforymau proffesiynol ar gyfer pob un o’r cyrff newydd. Yr wyf am sicrhau bod llais ymarferwyr yn cael ei glywed cyn llawned â phosibl yn y system newydd, a bod cyngor o’r math hwn ar gael yn hwylus i’r byrddau newydd. Yr wyf am drafod y cynnig hwn ymhellach gyda’r mudiadau staff perthnasol ac eraill. Wrth wneud hynny, yr wyf hefyd yn benderfynol ein bod yn agor aelodaeth y byrddau i ystod ehangach o unigolion nag a wnaethpwyd cyn hyn. Mae cronfa o ddoniau yng Nghymru y mae angen inni eu meithrin, ac yna eu defnyddio. Gallwn ymestyn allan mewn nifer o ffyrdd gwahanol i wneud y swyddi pwysig hyn yn hygyrch yn fwy eang, megis sesiynau blasu i aelodau bwrdd posibl a sesiynau hyfforddi lle gall unigolion sydd â diddordeb baratoi eu hunain yn well i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, sef pwynt a wnaeth David Melding wrthyf yn ystod trafodaeth gynharach. Bwriadaf i’r dull gweithredu hwn gael ei wreiddio yn y ffordd yr ydym yn gweithredu yn y GIG newydd yng Nghymru.
Wrth sefydlu’r cyrff lleol hyn, mae hefyd yn sylfaenol bwysig i mi eu bod yn gallu gwella’r gofal i gleifion drwy leihau biwrocratiaeth a chael gwared ar derfynau artiffisial yn y GIG. Byddai hyn yn caniatáu i ragor o arian gael ei sianelu i wasanaethau rheng flaen, ac i gynllunio a datblygu gwasanaethau fel eu bod wedi’u cydgysylltu’n fwy effeithiol yng nghyd-destun cynlluniau cymunedol a chyfeiriad strategol y Llywodraeth ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru.
Ym mis Medi, dywedodd Jonathan Morgan ein bod am weld gwasanaeth iechyd gwladol sy’n symlach, yn llai biwrocrataidd ac yn llai drud i’w weinyddu. Yr wyf yn cytuno. Yr hyn sydd hefyd yn bwysig i mi yw sicrhau llinellau atebolrwydd syml ond cadarn â chyrff GIG a rhyngddynt hwy a chymunedau lleol, ynghyd â dull gweithredu yn y cyrff hyn sy’n dryloyw i’r cyhoedd. Bydd y bwrdd cynghori cenedlaethol a’r saith bwrdd iechyd lleol yn caniatáu imi wella gofal am gleifion drwy greu system gynllunio symlach sy’n sicrhau bod rhanddeiliaid a phartneriaid yn rhan o’r broses gynllunio a’u bod yn gallu dylanwadu ar gyfeiriad polisi yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn gallu gofyn am gyngor gan y rhanddeiliaid a’r partneriaid ar unrhyw feysydd yr wyf yn pryderu amdanynt.
Bydd hefyd yn sicrhau mwy o atebolrwydd i’r Llywodraeth ac i’r cyhoedd drwy greu strwythur llywodraethu ac atebolrwydd sy’n agored ac yn dryloyw; cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus, a bydd papurau ar gael i’r cyhoedd. Ym mis Medi, dywedodd William Graham ei bod yn rhaid i atebolrwydd cyhoeddus barhau’n brif ystyriaeth. Mae hynny’n hollol wir. Dyna ddiwedd y diweddariad y dymunaf ei roi i Aelodau am y cynnydd ar ailstrwythuro’r GIG yng Nghymru.