Skip to content

Ysgrifenedig - Fframwaith Gwasanaeth Newydd ar gyfer Darparu Gwasanaeth Eirioli i blant yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Bwriad y datganiad hwn yw dangos ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r camau positif sy'n cael eu cymryd o ran gwasanaethau strôc.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Ers tro byd, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i ddarparu mynediad i holl blant a phobl ifanc Cymru at wasanaethau eirioli effeithiol. Mae hawl plant a phobl ifanc i gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt yn ystyriaeth allweddol wrth inni ddatblygu polisïau sydd wedi eu seilio’n gadarn ar Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae’n arbennig o bwysig bod gan blant a phobl ifanc bob cyfle i geisio sicrhau bod pethau’n cael eu hunioni os ydynt yn mynd o’u lle, a bod darparwyr yn dysgu o brofiad defnyddwyr eu gwasanaethau er mwyn rhoi’r dinesydd yn wirioneddol flaenaf.

Felly, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi heddiw fesurau newydd i roi mwy o lais i blant a phobl ifanc yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu datblygu Fframwaith Gwasanaeth Newydd ar gyfer Darparu Gwasanaeth Eirioli yng Nghymru yn y Dyfodol. Bydd y fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Wrth graidd y fframwaith newydd, bydd:

  • Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol. Bydd y Bwrdd yn cadw golwg annibynnol, strategol ar y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau eirioli yng Nghymru, a bydd yn cyflwyno argymhellion i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd gan y Bwrdd rôl allweddol yn cynghori ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau eirioli, yn ogystal â hyrwyddo arfer gorau a nodi a datblygu’r sylfaen dystiolaeth. Yn allweddol, bydd y Bwrdd hefyd yn cynghori Gweinidogion Cymru ar y trefniadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau eirioli lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a bydd yn rhoi barn ar drefniadau’r Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc statudol i gomisiynu a sicrhau darpariaeth o wasanaethau eirioli arbenigol integredig. Bydd y Bwrdd hefyd yn ystyried y fframwaith statudol presennol ac yn cynghori a ddylid ei ddiwygio er mwyn ein galluogi i barhau i ddatblygu gwasanaethau eirioli.
  • Bydd gwaith y Bwrdd yn cael ei ategu gan yr Uned Datblygu a Pherfformiad Gwasanaethau Eirioli a fydd yn cael ei sefydlu yn Llywodraeth y Cynulliad. Prif swyddogaeth yr Uned fydd comisiynu, rheoli a monitro Gwasanaeth Eirioli a Chynghori i Gymru Gyfan ac, ar y cyd â’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol, datblygu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer y gwasanaeth, a’r safonau galwedigaethol a’r ddarpariaeth hyfforddiant i staff y gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth eirioli ei hun yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol newydd er mwyn bod yn bwynt cyswllt cynhwysfawr 7 diwrnod yr wythnos, drwy ffôn neu neges destun, i holl blant a phobl ifanc Cymru. Bydd hyn yn sicrhau mynediad i bawb at wasanaethau eirioli a chymorth cam cyntaf ynghylch yr holl bryderon sydd gan blant a phobl ifanc Cymru. Bydd y gwasanaeth cenedlaethol hwn yn meithrin y cysylltiadau angenrheidiol â gwasanaethau cymorth eraill megis Childline Cymru a’r NSPCC. Lle bo’n briodol, bydd hefyd yn atgyfeirio at y gwasanaethau eirioli arbenigol integredig sydd ar gael yn lleol/rhanbarthol, yn ogystal â’r gwasanaethau cwnsela sydd ar gael mewn ysgolion. Bydd y gwasanaeth newydd ar gael o 2009/10 ymlaen.
  • Gwasanaeth Eirioli Arbenigol Integredig fydd yn cael ei gomisiynu’n lleol/rhanbarthol ac a fydd yn cwmpasu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan roi sylw arbennig i ddarparu eiriolaeth statudol a chymorth ehangach i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Bydd y gwasanaethau arbenigol integredig yn cael eu comisiynu’n lleol neu’n rhanbarthol drwy’r Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, gan ddechrau yn nes ymlaen eleni.

Wrth lunio’r fframwaith hwn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ystyried yn benodol yr argymhellion sydd yn adroddiad diweddar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr astudiaeth ofalus, ddifrifol a myfyrgar a gynhaliodd y Pwyllgor o’r pwnc hwn. Rydym yn cytuno â llawer o’r hyn y mae’r Pwyllgor yn ei argymell, yn enwedig o ran datblygu gweithlu eiriolaeth medrus. Hoffem dalu teyrnged i waith y Pwyllgor a’u hymroddiad i roi mwy o lais i bob plentyn a pherson ifanc drwy ddatblygu trefniadau eirioli cadarn ar gyfer y rheini sydd fwyaf dan anfantais ac yn fwyaf agored i niwed. Bydd y Llywodraeth yn llunio ymateb manwl i’r Pwyllgor maes o law.

Yn ogystal ag adroddiad y Pwyllgor, rydym hefyd wedi ystyried tystiolaeth a sylwadau amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y rheini a ymatebodd i’n ymgynghoriad y llynedd ac, yn bennaf oll, gyfraniadau plant a phobl ifanc eu hunain.

Yn ganolog i bryderon y rhan fwyaf o’r rhandeiliaid a’r Pwyllgor oedd annibyniaeth gwasanaethau eirioli arbenigol, a’r ddelwedd o annibyniaeth fydd ganddynt. Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r egwyddorion sy’n sail i argymhelliad y Pwyllgor am gorff comisiynu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau o’r fath. Serch hynny, mae hefyd yn nodi’r her sydd ynghlwm wrth y gwahanol ganfyddiadau o annibyniaeth. Ceir gwahaniaeth barn o hyd ynghylch yr hyn yw gwasanaeth gwirioneddol annibynnol.

Cryfder allweddol y fframwaith gwasanaeth yr ydym yn bwriadu ei sefydlu yw’r ddolen y bydd yn ei chreu rhwng llais y plentyn neu’r person ifanc a gwasanaethau prif lif ar gyfer plant a phobl ifanc. Barn Llywodraeth y Cynulliad yw bod darparu gwasanaethau eirioli yn gyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau plant ymysg darparwyr gwasanaethau, i herio’r diwylliannau galwedigaethol a lleol hynny sy’n golygu nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn effeithiol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, ac i sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, bod anawsterau’n cael eu datrys yn sydyn. Drwy weithredu yn y modd hwn, ni chaiff y cyfrifoldeb lleol am ddatrys cwynion neu unioni gwendidau mewn gwasanaethau ei danseilio.

Serch hynny, bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn ennyn hyder plant a phobl ifanc. Bydd ganddynt rôl bwysig ar y Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol, a fydd yn goruchwylio’r trefniadau yr ydym yn bwriadu eu sefydlu. Ein bwriad yw y bydd y Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol yn gallu rhoi adroddiad unigryw, doeth a chwbl annibynnol ar ansawdd gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc i raddau mwy helaeth nag a geir yn unrhyw le arall yn y DU neu Ewrop. Rydym hefyd yn bwriadu, drwy’r prosesau rheoleiddio, ei gwneud yn ofynnol i’r trefniadau lleol/rhanbarthol gael eu comisiynu am gyfnodau o dair blynedd, man lleiaf.

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn parchu’r angen am raglen barhaus i wella annibyniaeth gwasanaethau er mwyn rhoi mwy o lais i blant a phobl ifanc, yn ogystal â’r angen i sicrhau bod y gyfraith yn ddigon eang a hyblyg i ganiatáu i Lywodraeth bresennol y Cynulliad, a’r llywodraethau a fydd yn ei dilyn, i ymateb i hinsawdd a disgwyliadau cyfnewidiol.

Eisoes, mae gan Gymru enw da yn rhyngwladol am arloesi, am weithio mewn partneriaeth ac am roi llais canolog i blant yn ei pholisïau a’i rhaglenni. Mae’r Fframwaith Gwasanaeth Newydd ar gyfer Darparu Gwasanaeth Eirioli yng Nghymru yn y Dyfodol yn gam mawr ymlaen yng Nghymru i hyrwyddo Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn er mwyn sicrhau hawliau plant a phobl ifanc i gael dweud eu dweud am yr hyn ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau yn eu cylch, ac er mwyn i’w barn gael ei hystyried.