Skip to content

Llafar - Ofal Lliniarol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ym mis Hydref 2007, sefydlais gr?p cynllunio arbennig ar gyfer gofal lliniarol, dan arweiniad Viv Sugar, cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru, i'm cynghori yngl?n ag ystod o faterion. Cyfarfu'r gr?p bum gwaith o fis Tachwedd 2007 ymlaen. Mae ei waith wedi'i gwblhau yn awr, ac, yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y gr?p ei adroddiad a'i gyflwyno. Dymunaf ddiolch i'r gr?p hwn am ei waith ac am iddo gwblhau tasg gymhleth  gyda chymaint o egni o fewn cyfnod byr. Darparwyd yr adroddiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn gynharach heddiw.

Y dasg allweddol yr ymgymerwyd â hi gan y gr?p oedd pennu elfennau craidd gwasanaeth gofal lliniarol, gan gynnwys gofal diwedd oes i oedolion a phlant. Ar ôl ei sefydlu, defnyddir y gwasanaeth craidd yn sail ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r byrddau iechyd lleol yn y maes hwn.

Yn ddiweddar, am fod pobl wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd gwasanaethau lliniarol a hefyd oherwydd bod y ddarpariaeth ar lawr gwlad yn dal yn fratiog ledled Cymru, daeth llunio manyleb graidd yn rhywbeth yr oedd angen ei wneud ar fwy o frys. Fel Gweinidog, mae wedi bod yn bwysig imi sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r hyn y mae gwasanaethau gofal lliniarol craidd yn ei gynnwys ac i ddod o hyd i ffordd o fesur ansawdd y gwasanaethau hynny.

Drwy gyfrwng gwaith y gr?p cynllunio, ymgynghorwyd â chyrff ac ag unigolion o'r gwasanaeth iechyd gwladol a'r sector preifat a'r sector gwirfoddol, ac mae'r adroddiad a gafwyd yn sgil hynny'n rhoi sylfaen ragorol imi allu bwrw ymlaen â phethau. Mae'r adroddiad yn ymwneud â gofal lliniarol i oedolion ac i blant. Mae'n manylu yngl?n ag argymhellion tymor byr a thymor canol, mae'n codi pryderon yngl?n â'r broses comisiynu presennol ac yn argymell symud tuag at gomisiynu gofal i oedolion yn rhanbarthol, a chomisiynu gofal lliniarol i blant ar lefel Cymru-gyfan.

Mae'r gr?p yn ei gwneud yn glir bod rhai o'r materion a godwyd gydag ef y tu hwnt i'w gylch gorchwyl, neu fod angen eu dadansoddi'n ddyfnach nag yr oedd modd iddo'i wneud o fewn yr amser a oedd ar gael. Yn sgil argymhellion yr adroddiad, yn awr rhaid ystyried sut i'w rhoi ar waith, a bydd angen rhoi sylw gofalus i hynny. Felly, yr wyf wedi gofyn i'r Farwnes Finlay arwain gwaith rhoi'r argymhellion ar waith, ac mae wedi cytuno i wneud hynny. Mae cyfoeth ei phrofiad, nid dim ond ym maes gwasanaethau gofal lliniarol, yn golygu ei bod yn gwybod sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu ar hyn o bryd a pha fylchau a rhwystrau sy'n llesteirio darparu gofal lliniarol da.

Ymhlith aelodau'r prif gr?p bydd Dafydd Wigley'n cyfrannu o safbwynt y claf a'r gofalwr, Vivienne Cooper yn cyfrannu o safbwynt nyrsys, Helen Herbert yn cyfrannu o safbwynt meddygon teulu, Paul Williams, prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cynnig profiad rheoli, a daw arbenigedd ar gynllunio gwasanaethau gan un o'r swyddogion rhanbarthol, Marion Andrews-Evans. Bydd y bobl hyn yn cynnig yr arbenigedd er mwyn rhoi ystod eang argymhellion yr adroddiad ar waith.

Mae'r Farwnes Finlay'n bwriadu sefydlu is-grwpiau i fwrw ymlaen â materion penodol. Y Dr Andy Fowell, cadeirydd y gr?p ymgynghorol clinigol ar ofal lliniarol a fydd yn arwain o ran gofynion data clinigol a bydd John Savage, cyfarwyddwr T?'r Eos, yn bwrw ymlaen â datblygu cytundeb lefel gwasanaeth. Ar lefel ehangach,  sefydlu cytundebau lefel gwasanaeth fydd un o'r blaenoriaethau cyntaf. Yr wyf eisoes wedi trafod hyn gyda fforwm yr hosbisau gwirfoddol. Bydd cytundebau lefel gwasanaeth yn cynnig eglurder, gan gadarnhau'r gwasanaethau gofal lliniarol hynny y dylai'r GIG eu cyllido a'r rheini y byddai'n fwy priodol eu cyllido drwy'r arian a godir yn wirfoddol gan hosbisau. Mae angen sefydlu'r cytundebau lefel gwasanaeth hyn yn ffurfiol o 1 Ebrill 2009 ymlaen, gan sicrhau sefydlogrwydd ariannol i'r hosbisau a bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n briodol.

Bydd y broses hon yn anodd i rai hosbisau ond gwneir pob ymdrech i'w cefnogi i sicrhau eu bod yn datblygu cytundebau lefel gwasanaeth ac yn cael cyllid priodol ar gyfer gwasanaethau gofal lliniarol sy'n cydymffurfio â diffiniad y gwasanaeth craidd, fel y'i ceir yn adroddiad Viv Sugar.

Mae gofal lliniarol o safon a sicrhau ei fod ar gael yn deg i bawb yn rhywbeth nad wyf yn barod i gyfaddawdu yn ei gylch. Oni all y sector gwirfoddol gyflawni gofynion cytundeb lefel gwasanaeth, ni fydd yn cael cyllid o'r canol.

Mae hynny'n dod â mi at yr arian sydd ar gael eleni a'r tu hwnt. Mae £2 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer hosbisau gwirfoddol. Bydd gr?p gweithredu'r Farwnes Finlay'n rhoi argymhellion imi yngl?n â'r ffordd fwyaf priodol o ddefnyddio'r arian canolog hwn ar gyfer 2008-09 erbyn canol mis Medi. Lle bo modd a lle bydd yr amserlen yn ymarferol, byddaf yn hapus i sefydlu cytundebau lefel gwasanaeth tymor hir gyda'r hosbisau cyn 1 Ebrill 2009. Nid dyna'n union y bydd yr hosbisau gwirfoddol am ei glywed. Maent am gael penderfyniad yn awr yngl?n â dyrannu'r £2 miliwn ac, fel Aelodau'r Cynulliad, bydd yr hosbisau gwirfoddol yn dod atoch yngl?n â hyn.

Fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os wyf am fynd i'r afael â'r diffyg cydraddoldeb yn y ddarpariaeth gwasanaeth gofal lliniarol, rhaid imi fod yn si?r bod arian cyhoeddus yn cael ei gyfeirio i'r lle y mae ei angen fwyaf, gan ddiwallu angen cleifion yn unol â chanllawiau a chyngor clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol. Bydd hynny'n golygu y caiff cleifion a'u gofalwyr lefel y gofal lliniarol a gofal diwedd oes y maent yn disgwyl ei gael, ar yr adeg ac yn y fan lle maent yn disgwyl ei gael.

Yn unol ag ymrwymiad 'Cymru'n Un' i ddarparu mwy o arian ar gyfer gofal lliniarol, mae £1 miliwn yn ychwanegol ar gael yn 2008-09, a bydd hwnnw'n cynyddu i £2 miliwn yn 2009-10 ac i £5 miliwn erbyn 2010-11. Fy mwriad yw buddsoddi hynny yn y GIG ac yn y sawl sy'n darparu gofal lliniarol yn y sector gwirfoddol, gan ddibynnu ar ymhle y mae bylchau yn y gwasanaeth. Unwaith eto, daw argymhellion ar gyfer gwario gan gr?p gweithredu'r Farwnes Finlay. Bydd y ffora cynllunio rhanbarthol yn gallu ategu cyfanswm ei hargymhellion cyllido. Fy mhrif fwriad yw helpu i lenwi'r bylchau yn y gwasanaeth. Yr wyf yn benderfynol y caiff yr arian ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r diffiniad o wasanaeth gofal lliniarol craidd, fel y'i nodir yn adroddiad Viv. Drwy lynu wrth y ddwy egwyddor sylfaenol hyn, credaf y gallwn symud tuag at sicrhau ein bod yn darparu gofal lliniarol o safon i bawb y mae ei angen arno.