Skip to content

Ysgrifenedig - Symleiddio’r Broses o Wneud Cais am Ganiatâd Cynllunio yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rwyf am sicrhau bod y systemau rheoleiddio hynny yr wyf yn gyfrifol amdanynt, yn cyfrannu’n gadarnhaol i adferiad economaidd Cymru. Un o’r systemau hynny yw Cynllunio Defnydd Tir. Nid atal datblygu yw diben caniatâd cynllunio, ond ei alluogi.

Mae caniatâd cynllunio’n cydbwyso ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn i ni wneud penderfyniadau cynaliadwy o ran datblygu a defnyddio tir, a’r rheini’n benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pawb. Mae caniatâd cynllunio’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol i reoli effeithiau newid amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd byd-eang mewn modd cynaliadwy. Mae wedi parhau i addasu er mwyn darparu mannau lle gall cymunedau fyw a gweithio, ac mae’n arf pwysig y mae modd ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod Cymru yn gallu cadw a denu buddsoddiad a swyddi.

Rydym eisoes wedi sefydlu’r fframwaith polisïau cenedlaethol a rhanbarthol sy’n hanfodol er mwyn galluogi awdurdodau cynllunio lleol i wneud penderfyniadau cynllunio effeithiol a chynaliadwy. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol Newydd ar y gweill ar draws Cymru er mwyn darparu arweiniad cadarnhaol a hyblyg ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.

Dyma roi gwybod heddiw fy mod yn bwriadu symleiddio’r system ar gyfer gwneud cais am ganiatâd cynllunio, sy’n cael ei darparu gan y 25 o awdurdodau cynllunio lleol.

Rwy’n sylweddoli bod mwy i’w wneud er mwyn sicrhau system sy’n bodloni ein disgwyliadau yn well. Rhaid i’r system hon fod yn gymesur ac yn effeithlon, gan roi penderfyniadau sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw. Mae’n hanfodol bod gan y cyhoedd a busnesau ffydd yn y system, a’i bod yn esgor ar ddatblygiadau a mannau o ansawdd, yn enwedig o gofio’r amgylchiadau economaidd byd-eang a chenedlaethol heriol.

Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Bydd yn tynnu ar dystiolaeth o bob cwr o Gymru ac o weddill y DU, gan gynnwys adolygiad Killian Pretty yn Lloegr a gwblhawyd yn ddiweddar. Byddaf yn nodi enghreifftiau o arferion da ac yn cynnig meysydd y gellid gwella arnynt yn y dyfodol. Gan ddefnyddio darpariaethau Deddfau Cynllunio 2004 a 2008, byddwn yn pennu trywydd i’r gwaith ac yn nodi rhaglen waith er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion. Yn benodol, o ganlyniad i Ddeddf 2008, rydym wedi sicrhau pwerau gwneud Mesurau pwysig ar gyfer y rhannau hynny o’r drefn flaengynllunio sy’n benodol i Gymru, sef Cynllun Gofodol Cymru, a’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Bydd y pwerau hyn yn darparu’r trefniadau y mae eu hangen ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiweddaru ac addasu’r system flaengynllunio yng Nghymru.

Rwyf yn awyddus iawn i sicrhau bod ein partneriaid allweddol, gan gynnwys y rheini sydd mewn llywodraeth leol, y sector busnes a’r sector gwirfoddol,  yn bwrw ymlaen â’r agenda gyffredin hon. Rwyf hefyd yn disgwyl i ymgyngoreion statudol chwarae rhan lawn ac effeithiol yn y broses adolygu.                                                                                                                

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen adolygu ddechrau’r flwyddyn newydd.