Skip to content

Ysgrifenedig - Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Mesur Cynllunio

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

Cyflwyniad

Pwrpas y datganiad hwn yw rhoi gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am hynt y Mesur Cynllunio, sydd bellach wedi cyrraedd T?'r Arglwyddi i'w ystyried. Mae hefyd yn diweddaru'r datganiad gen i, dyddiedig 14 Rhagfyr 2007. Cwblhawyd y gwaith o ystyried y Mesur yn Nh?'r Cyffredin ar 25 Mehefin 2008. Cyrhaeddodd y Mesur D?'r Arglwyddi ar 26 Mehefin a chafodd ail ddarlleniad ar 15 Gorffennaf. Ar yr adegau priodol, rhoddais gyfle i aelodau o Gymru yn y ddau D? gael eu briffio'n llawn ar yr agweddau ar y Mesur sy'n berthnasol i Gymru.

Y Comisiwn Cynllunio Seilwaith/Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd

Prif ffocws y Mesur yw dymuniad Llywodraeth y DU i symleiddio'r drefn ganiatâd ar gyfer Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd, sydd wedi'i nodi ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o'r ddeddfwriaeth. Yn hytrach na bod Aelodau Llywodraeth y DU yn penderfynu ar geisiadau o'r fath, cânt eu cyflwyno i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith annibynnol arfaethedig, a fydd hefyd yn penderfynu arnynt, ar yr amod bod y Mesur yn cael Cydsyniad Brenhinol yn nes ymlaen eleni. Mae'r system newydd yn delio â mathau penodol o ynni, trafnidiaeth, d?r, d?r gwastraff a phrosiectau gwastraff uwchlaw trothwyon penodedig sydd wedi'u nodi yn y Mesur; bydd yn cynnwys gorsafoedd p?er, llinellau trydan uwchben, piblinellau a storio nwy o dan y ddaear. Bydd effaith y drefn yn gyfyngedig yng Nghymru gan fod y rhan fwyaf o'r gweithdrefnau caniatâd sydd o fewn trothwyon y Comisiwn wedi'u datganoli. Ond bydd gan y Comisiwn y p?er i ystyried caniatâd yng Nghymru mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli, yn eu plith:

  • Adeiladu neu ymestyn gorsaf b?er dros 50 mega watt ar y tir neu dros 100 mega watt ar y môr;
  • Creu llinellau trydan uwchben y ddaear, oni bai nad ydynt dros 20 cilofolt ac yn gwsmer unigol;
  • Storio nwy o dan y ddaear mewn strata mandyllog naturiol;
  • Creu piblinellau;
  • Adeiladu neu newid porthladd gyda mwy o gyfleusterau uwchlaw trothwyon penodol.

Gellir newid y trothwyon wedyn, ond dim ond o fewn cyfyngiad y pwerau presennol nad ydynt wedi'u datganoli.

Un o amcanion polisi allweddol y Comisiwn yw rhoi caniatâd unwaith, a elwir yn ganiatâd datblygu, i ddisodli'r holl agweddau y mae'n rhaid i brosiect gael caniatâd yn eu cylch er mwyn bwrw ymlaen (caniatadau atodol). Ar hyn o bryd, mae'n rhaid mynd at nifer o reoleiddwyr o dan wahanol weithdrefnau statudol i gael y caniatadau hyn. I brosiectau yng Nghymru, mae rhai o'r caniatadau atodol hyn wedi'u datganoli. Rwyf wedi cynnwys darpariaethau yn y Mesur a fydd yn ei gwneud yn bosibl parhau i benderfynu ar ganiatadau yng Nghymru lle bo hynny'n digwydd ar hyn o bryd, boed gan Weinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol Cymru neu gyrff perthnasol eraill yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau nad yw darpariaethau'r Mesur, o ran cylch gwaith y Comisiwn, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi'i ddatganoli neu'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wrthi'n gweithio ar hyn o bryd i nodi'r caniatadau datganoledig hynny a gaiff eu heithrio o gylch gwaith y Comisiwn ar gyfer prosiectau yng Nghymru. Caiff y rhain eu cynnwys mewn Offeryn Statudol a lunnir gan Lywodraeth y DU yn nes ymlaen.

O ran sut bydd y Comisiwn yn gweithredu yn achos prosiectau perthnasol yng Nghymru, mae'r Mesur yn rhoi'r hawl i gadeirydd y Comisiwn benderfynu a gaiff cais ei ystyried gan un Comisiynydd neu banel o aelodau'r Comisiwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud gwelliannau i'r Mesur sy'n sicrhau bod o leiaf un aelod o'r Panel neu'r Cyngor Penderfynu yn cael ei enwebu gan Weinidogion Cymru, yn achos ceisiadau sy'n ymwneud â Chymru, lle bo hynny'n rhesymol ymarferol. Mae fy swyddogion wrthi'n trafod mater penodi Comisiynwyr gyda Llywodraeth y DU.

I ategu'r drefn ganiatâd newydd, bydd Adrannau Llywodraeth y DU yn llunio datganiadau polisi cenedlaethol ar gyfer pob math o seilwaith. Bydd yn rhaid i'r Comisiwn benderfynu ar geisiadau yn unol â'r datganiad polisi cenedlaethol oni bai bod yna eithriadau cyfyngedig. Mae'r Mesur yn mynnu bod yn rhaid ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y datganiadau a bod yn rhaid i'r Senedd graffu arnynt. Mae Gweinidogion y DU wedi rhoi sicrwydd imi yr ymgynghorir â Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wrth eu datblygu. Mae swyddogion o'r Adran Busnes a Diwygio Rheoleiddio eisoes mewn cysylltiad â swyddogion Llywodraeth y Cynulliad i gymryd rhan mewn grwpiau prosiect ar gyfer y datganiad polisi cenedlaethol ar Ynni. Mae'n debyg mai hwn fydd y cyntaf i gael ei lunio. Dylwn ei gwneud yn glir mai dim ond i'r caniatadau nad ydynt wedi'u datganoli yng Nghymru, y penderfynir arnynt gan y Comisiwn, y bydd y statws a roddir i'r datganiad, yn berthnasol; nid yw'r Mesur yn newid y sefyllfa ar gyfer caniatadau sydd wedi'u datganoli a bydd polisïau perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gael eu dilyn.

Cynllunio Gwlad a Thref - Pwerau Gwneud Mesurau

Cyfrifoldeb datganoledig yw'r system cynllunio defnydd tir yng Nghymru ac rydym wedi achub ar y cyfle drwy'r Mesur i sicrhau cymhwysedd deddfwriaethol sylfaenol pellach (pwerau gwneud mesurau) ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r pwerau'n ymwneud â chynlluniau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir yng Nghymru a gweithgareddau cysylltiedig (Cymal 195 y Mesur). Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn o ran datblygu'r system cynllunio defnydd tir yng Nghymru ac mae'n ei gwneud yn bosibl parhau i ddatblygu system cynllunio defnydd tir unigryw sy'n diwallu anghenion Cymru a'i chymunedau mewn ffordd fwy priodol. Bydd y pwerau yn caniatáu i'r Cynulliad barhau i ddiweddaru ac addasu'r system cynllunio defnydd tir yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau datblygu lleol a'u perthynas â Chynllun Gofodol Cymru, yn unol â blaenoriaethau ac amserlenni Cymru. Holwyd rhanddeiliaid allweddol am eu safbwyntiau ar Bwerau Gwneud Mesurau y llynedd a bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ymhellach yn y dyfodol ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig i'r system flaengynllunio sy'n deillio o'r p?er newydd hwn.

Cynllunio Gwlad a Thref - System Rheoli Datblygu

Mae'r Mesur yn cynnwys nifer o ddarpariaethau newydd sy'n ymwneud â gwella'r system rheoli datblygu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio creu nifer o ddarpariaethau drwy'r Mesur ar gyfer Cymru a Lloegr. Bwriad y darpariaethau hyn - rhai technegol yn bennaf - yw cywiro camgymeriadau blaenorol neu geisio cyflwyno gwelliannau i'r system rheoli datblygu bresennol ac fe'u hamlinellwyd yn fy natganiad ym mis Rhagfyr. Mae rhai o'r rhain mor bitw neu dechnegol nad oes angen ymgynghori yn eu cylch, tra bo'r gweddill yn rhoi p?er i ddiwygio'r ddeddfwriaeth gyfredol (ond heb ei newid). Bydd y rhain yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr cyn penderfynu eu gweithredu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi cynnwys darpariaeth yn y Mesur sy'n rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru gyflwyno nifer o ddiwygiadau amrywiol eraill i'r drefn rheoli datblygu, a oedd wedi'u cynnwys yn y Mesur ar gyfer Lloegr yn unig yn wreiddiol. Mae'r ddarpariaeth hon, y p?er cymhwyso, yn rhoi'r disgresiwn i Weinidogion Cymru gyflwyno'r diwygiadau os ystyrir eu bod yn rhywbeth da ar ôl ymgynghori yng Nghymru. Dyma grynodeb o'r diwygiadau:

  • Pwer diwygiedig i gywiro mân-gamgymeriadau yn hysbysiadau penderfyniadau apêl Arolygwyr Cynllunio;
  • Darpariaeth i hwyluso'r broses i Arolygwyr Cynllunio benderfynu ar geisiadau ac apelau ymgymerwyr statudol;
  • Darpariaethau newydd o ran y drefn benderfynu ar gyfer ceisiadau ac apelau penodedig ym maes cynllunio ac adeiladau rhestredig;
  • Diddymu hawliau iawndal lle rhoddir rhybudd bod hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu tynnu'n ôl;
  • Pwer newydd i Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio presennol;
  • Pwer diwygiedig i beidio â pharchu hawddfreintiau a hawliau eraill i hwyluso gwaith adfywio a phrosiectau tebyg. Gwneir darpariaeth hefyd i Weinidogion Cymru ddiwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn yr un ffordd. Nid yw'r Mesur yn diwygio hyn yn achos Lloegr gan mai dim ond i Gymru y mae'r Ddeddf yn berthnasol;
  • Gwelliannau i'r pwer presennol i awdurdodau cynllunio lleol wrthod penderfynu ar geisiadau cynllunio cyfyngedig.

Rwy'n bwriadu paratoi pecyn cynhwysfawr o newidiadau posibl i drefniadau rheoli datblygu sy'n cynnwys y gwelliannau amrywiol uchod, fel y bo'n briodol, a gwelliannau eraill seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Bydd yn ystyried hefyd unrhyw argymhellion perthnasol sy'n deillio o adolygiad Killian-Pretty o'r system rheoli datblygu a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hwn ar y gweill ar hyn o bryd a disgwylir yr adroddiad ar yr adolygiad yn nes ymlaen eleni.

Ardoll Seilwaith Cymunedol

Fel y nodais yn fy natganiad blaenorol, mae'r Mesur Cynllunio hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer Ardoll Seilwaith Cymunedol. Y nod yw sicrhau y gall tirfeddianwyr sydd wedi elwa o gynnydd yng ngwerth tir dalu am gostau darparu seilwaith i ategu'r gwaith o ddatblygu ardal. Gallent dalu rhan o'r gost neu'r cyfan. Fframwaith cyffredinol yw darpariaethau'r Mesur; y Rheoliadau fydd yn penderfynu ar fanylion yr Ardoll a sut y dylai weithredu. Gan mai treth yw'r ardoll, ni chaiff y cyfrifoldeb lunio'r Rheoliadau ei ddatganoli i Weinidogion Cymru. Datblygir y darpariaethau, felly, ar lefel Cymru a Lloegr, gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae'r Adran hon wedi bod yn gwneud gwaith ar yr Ardoll, i ddatrys y materion polisi a gweithredu sy'n gysylltiedig â'r cynigion. Mae fy swyddogion wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r polisi. Sefydlodd yr Adran hefyd gr?p ymarferwyr, sef cynrychiolwyr o Awdurdodau Cynllunio Lleol a'r diwydiant datblygu, a oedd yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Redrow Homes.

Mater i awdurdodau cynllunio lleol fydd penderfynu a ydynt am gyflwyno'r Ardoll. Bwriad Llywodraeth y DU yw llunio is-ddeddfwriaeth er mwyn rhoi'r Ardoll yn ei lle erbyn 1 Ebrill 2009 ar gyfer yr awdurdodau hynny sydd am ei chyflwyno. Bydd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi datganiad polisi yn fuan yn amlinellu'r materion polisi a gweithredu, gan gynnwys natur yr Ardoll. Nid dogfen ymgynghori ffurfiol yw hon ond bydd yn tynnu sylw rhanddeiliaid i gynnwys y rheoliadau drafft sy'n debygol o gael eu cyhoeddi i ymgynghori yn eu cylch yn nes ymlaen eleni. Rwy'n bwriadu dosbarthu'r datganiad i randdeiliaid perthnasol yng Nghymru yn gwahodd eu sylwadau arno, a hynny er mwyn llywio'r trafodaethau gyda'r Adran ar y Rheoliadau a ddatblygir.

Y Camau Nesaf

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i weithio gydag adrannau Llywodraeth y DU wrthh i'r Mesur gael ei drafod, i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth derfynol.

Mae'r Mesur Cynllunio yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru adolygu'r system gynllunio yng Nghymru. Ar wahân i'r newidiadau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio'u sicrhau drwy'r Mesur, mae'n ceisio datblygu amrywiaeth eang o fentrau yng Nghymru. Eu nod yw gwneud y system gynllunio yn fwy agored, teg ac atebol, yn ogystal ag ymateb yn well i anghenion Cymru a'i phobl. Maes o law, byddaf yn rhoi manylion llawnach ar weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer datblygu'r system gynllunio yn y dyfodol.