Skip to content

Ysgrifenedig - Ad-Dalu’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post: Dod I Gytundeb  Swyddfa’r Post Cyf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio
Ym mis Hydref 2007 dechreuodd Swyddfa’r Post Cyf eu Rhaglen Newid Rhwydwaith yng Nghymru, gan gyhoeddi’r cyntaf o bum cynllun ar gyfer ardaloedd lleol. Mae’r pedwar cynllun ardal sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma oll wedi cynnwys cymalau i’w gwneud yn orfodol i gau swyddfeydd post sydd wedi elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn siomedig ynghylch y bwriad i gau’r swyddfeydd post sydd wedi derbyn cyllid o’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn atebol am y ffordd y mae’n gwario arian cyhoeddus ac felly cyhoeddais ar 10 Hydref y byddem yn ceisio sicrhau ad-daliad am y cyllid a dalwyd o’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post i swyddfeydd post sy’n cael eu cau gan Swyddfa’r Post Cyf fel rhan o’u rhaglen Newid Rhwydwaith.

Mae’n bleser gennyf nodi ein bod wedi dod i gytundeb mewn egwyddor â Swyddfa’r Post Cyfyngedig. Golyga hyn y bydd Swyddfa’r Post Cyf yn ystyried rhoi iawndal sy’n gysylltiedig ag ad-dalu’r grant o’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post i is-bostfeistri a dderbyniodd gyllid drwy’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post ac y mae eu swyddfeydd post wedi cau, neu ar fin cael eu cau. Er nad yw union fanylion y meini prawf cymhwysedd ar gyfer iawndal wedi’u cymeradwyo’n derfynol, hyderaf y bydd is-bostfeistri yn croesawu’r newyddion yma fel newyddion da.

Bydd y pecyn wrth gefn hwn ar gyfer is-bostfeistri y mae eu busnesau yn cau yn golygu y bydd is-bostfeistri sy’n bodloni meini prawf Swyddfa’r Post Cyf yn derbyn swm grant y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post y mae’n rhaid iddynt ei ad-dalu.

Rhwng 2002 a 2004 cynigiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru grantiau gwerth cyfanswm o £4.1m o dan y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post i 106 o swyddfeydd post yn rhai o ardaloedd mwyaf ynysig a mwyaf difreintiedig Cymru.


Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo drwy gytundeb Cymru’n Un i ailgyflwyno’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post a newid ei phwyslais. Bydd y gronfa yn ailagor o 1 Ionawr 2009.