Skip to content

Ysgrifenedig - Cymeradwyaethau Prosiect ar Gyfer Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2007-2013

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Yr wythnos diwethaf (25 Chwefror 2008) ym Mrwsel, cyhoeddais enwau’r prosiectau cyntaf a fyddai’n derbyn arian Ewropeaidd o dan raglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF 2007-2013 ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi bron i £50 miliwn (gan gynnwys grant ERDF gwerth bron i £23 miliwn) mewn dau brosiect newydd ar gyfer Datblygu Gwybodaeth a Throsglwyddo Technoleg . Bydd y rhain yn helpu tua 2,500 o fusnesau Cymru i elwa ar waith ymchwil a datblygu ym mhrifysgolion a sector addysg bellach Cymru, gan droi syniadau blaengar a thechnolegau newydd yn gynnyrch sy’n fasnachol ddichonadwy. Byddant hefyd yn helpu i roi sgiliau masnachu ac arloesi i staff academaidd allweddol er mwyn eu harfogi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, fel y gall Cymru gystadlu hyd yn oed yn fwy llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Bydd y prosiectau hyn yn galluogi’r sectorau addysg uwch a phellach i ddatblygu diwylliant o fentergarwch drwy atgyfnerthu eu gallu ym maes ymchwil a datblygu a thrwy gydweithredu â busnesau a phartneriaid eraill i hyrwyddo datblygiadau technolegol, i rannu syniadau ac i ddatblygu’r rhain yn gyfleoedd busnes cyffrous.

Bydd y ddau brosiect yn adeiladu ar y buddsoddiadau a wnaed hyd yma drwy brosiectau Arloesi a Thechnoleg Amcan 1, gan gynnwys y Gronfa Datblygu Gwybodaeth (KEF) a’r Canolfannau Rhagoriaeth ar gyfer Technoleg a Chydweithrediad Diwydiannol (CETIC). Mae’r rhain eisoes wedi helpu miloedd o entrepreneuriaid ac wedi cynyddu faint o waith ymchwil a datblygu sy’n cael ei gynnal gan ddiwydiant yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau sy’n cael eu hariannu gan y KEF yn dod i ben ym mis Mehefin/mis Medi eleni, ond oherwydd bod y cymeradwyaethau prosiect diweddar hyn wedi dod yn gynnar, byddwn mewn safle da i drosglwyddo’n esmwyth i’r trefniadau newydd. Y disgwyl yw y bydd y prosiectau newydd yn gwbl weithredol erbyn mis Ebrill eleni.

Ar ben hyn, rydw i yn falch i gyhoeddi heddiw (3 Mawrth 2008), y bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn buddsoddi tua £60 miliwn (gan gynnwys grant ESF gwerth tua £30 miliwn) yn yr ardal Cydgyfeirio er mwyn helpu hyd at 22,500 o oedolion di-waith ac economaidd anweithgar, gan gynnwys pobl ifanc sy’n cael eu categoreiddio yn NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), i ennill y sgiliau priodol a fydd yn eu galluogi i gael gwaith.

Bydd y prosiect ‘Adeiladu Sgiliau’, a oedd hefyd yn arfer cael ei ariannu o dan Amcan 1, yn darparu hyfforddiant strwythuredig i roi sgiliau i ragor o oedolion a phobl ifanc, gan gynnwys sgiliau sylfaenol ac NVQs, a’u paratoi ar gyfer byd gwaith. Bydd yn gwneud hyn drwy gyfrwng asesiadau yn y gweithle a darpariaeth mewn canolfannau. Bydd y prosiect hefyd yn treialu ffyrdd newydd o gyflawni’r gwaith hwn. Diben y treialu hwn fydd sicrhau bod y systemau yn iawn, cefnogi’r gwaith o ddatblygu gwell darpariaeth sy’n gysylltiedig â sgiliau - a mwy ohoni - a chynnig gwell cymorth dysgu a chymorth personol i alluogi pobl ifanc ac oedolion i ddod yn fwy o ran o’r farchnad lafur.

Mae’r cymeradwyaethau prosiect hyn yn llwyddiant mawr ar gyfer y dull gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol os ydym eisiau sicrhau ffordd gadarnach a mwy strategol o ymdrin â rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013, gwell trefniadau i gyflawni’r rhaglen a llai o ddyblygu gweithgareddau. Ers haf 2007 mae partneriaid wedi bod yn rhannu eu syniadau am brosiectau drwy gyfrwng gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a chafwyd llawer o gydgynllunio a chyd-drafod ymysg rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae 140 o’r syniadau hyn bellach yn cael eu datblygu.

Disgwylir rhagor o gymeradwyaethau prosiect cyn bo hir, gan gynnwys prosiectau gan lywodraeth leol, addysg uwch, y sector gwirfoddol a’r sector preifat. Mae’r prosiectau hyn yn symud yn gyflym drwy’r broses a sefydlwyd i sicrhau bod arian y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru yn cael ei wario yn briodol ac y gellir rhoi cyfrif priodol amdano.

Mae cynnydd da y rhaglenni newydd hefyd yn ategu un o lwyddiannau mawr eraill y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru. Yn gynharach yr wythnos hon ym Mrwsel, cyhoeddwyd bod Technium OpTIC yn Llanelwy wedi ennill gwobr fawreddog ‘Regiostars’ y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer datblygu ac arloesi rhanbarthol.

Cyflwynwyd saith deg un o brosiectau ledled Ewrop ar gyfer y gwobrau Regiostars. Cafodd 26 ohonynt eu henwebu ond dim ond 5, gan gynnwys OpTIC, a enillodd yn eu dosbarth. Mae’r anrhydedd hwn yn gyfystyr ag ennill Oscar ar gyfer datblygu rhanbarthol ac mae’n llwyddiant mawr i Gymru a’n partneriaid. Mae’n cadarnhau ein ffydd y daw llawer mwy o lwyddiannau i ran rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru dros y blynyddoedd tan 2014.