Mae datblygiadau yn y byd darlledu, yn enwedig oblygiadau yr hyn sy’n wynebu ITV Cymru, yn digwydd yn gyflym. Mae heddiw yn gyfle pwrpasol i ddiweddaru’r Cynulliad am safbwynt y Llywodraeth. Yn fy sesiwn gwestiynau ar 1 Hydref, mynegodd nifer o Aelodau eu hawydd i gael cyfle pellach i drafod materion darlledu. Edrychaf ymlaen, felly, at glywed sylwadau yr Aelodau, yn ogystal â’u hawgrymiadau am yr hyn y gellid ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hynny.
Mae pethau wedi symud ymlaen cryn dipyn ers i mi ddarparu ymateb cychwynnol Llywodraeth y Cynulliad ym mis Gorffennaf i adroddiad y Pwyllgor Darlledu. Hoffwn ailadrodd fy niolch i aelodau’r pwyllgor am y gwaith a gyflawnwyd ganddynt mewn cyfnod byr. Ym mis Medi, ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor. Mae’r ymateb ar gael ar ein gwefan, a gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i’w ddarllen erbyn hyn.
Ar 25 Medi, cyhoeddwyd ail gam adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ar unwaith, mynegodd Llywodraeth y Cynulliad ei phryder am yr hyn a gyhoeddwyd, yn enwedig y goblygiadau i ITV Cymru a’r colli swyddi a fydd yn deillio o’r penderfyniad hwnnw. Er nad yw darlledu yn fater datganoledig, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymwybodol iawn o oblygiadau awgrymiadau diweddar Ofcom. Yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn gofidio am y newidiadau a allant arwain at danseilio’r ymdrechion i gadw’r amrywiaeth o raglenni a wneir yng Nghymru ac am Gymru.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad, yn naturiol, yn ymateb i adolygiad diweddaraf Ofcom. Fodd bynnag, yn sgil yr angen i fynd i’r afael â hyn yn gyflym, yr ydym eisoes wedi gweithredu. Bythefnos yn ôl, cyhoeddais fy mod wedi sefydlu grŵp ymgynghorol ar ddarlledu, o dan gadeiryddiaeth Huw Jones, cyn-brif weithredwr S4C. Aelodau eraill y grŵp yw Geraint Talfan Davies, Julie Barton a Kevin Morgan. Bydd y grŵp yn edrych ar ddewisiadau dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru drwy gyfrwng y Saesneg. Sefydlwyd y grŵp i baratoi cyngor clir am y ffordd orau o sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn adlewyrchu diddordebau gwylwyr yng Nghymru. Bydd argymhellion y grŵp yn cynnwys awgrymiadau am drwydded ITV hyd at 2014, yn ogystal â nodi’r dewisiadau ar gyfer yr hirdymor. Yr wyf yn disgwyl cael awgrymiadau cychwynnol y grŵp erbyn Rhagfyr 2008. Mae’r grŵp eisoes wedi dechrau ar ei waith. Mae cyfres o gyfarfodydd wedi’i threfnu ac edrychaf ymlaen at weld ei argymhellion. Mae croeso i Aelodau gyflwyno awgrymiadau i’r grŵp o ran y ffordd ymlaen.
Yn ogystal â sefydlu’r grŵp, mae’n bwysig bod Cymru yn chwarae rôl flaengar yn y trafodaethau y mae Ofcom wedi’u hysgogi am ddyfodol darlledu cyhoeddus. Gwnaeth y Pwyllgor Darlledu, dan gadeiryddiaeth Alun Davies, gyfraniad gwerthfawr yn y cyfeiriad hwn yn gynharach yn yr haf, ac yr wyf yn awyddus i adeiladu ar hynny. Yr wythnos nesaf, byddaf felly yn cyfarfod ag Andy Burnham, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Bydd y cyfarfod yn gyfle i godi nifer o faterion mewn perthynas â darlledu. Yr wyf yn awyddus i bwysleisio pryderon pobl Cymru am ddarlledu cyhoeddus a’r angen i sicrhau darpariaeth gref sy’n berthnasol i fywydau pob dydd ar y rhwydweithiau. Yn benodol, yr wyf yn bwriadu trafod ein pryderon ni oll am ddyfodol ansicr ITV Cymru. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio bod cael darpariaeth amgen yn y maes darlledu cyhoeddus i’r hyn a gynigir yn y Saesneg gan y BBC yn gwbl allweddol i’n cenedl ac i ddemocratiaeth iach. Ar yr un diwrnod, byddaf yn cyfarfod â Mark Thompson, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC.
Mae gwerth hefyd mewn rhannu profiadau gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Yr wyf eisoes wedi cyfarfod â Blair Jenkins, cadeirydd Comisiwn Darlledu yr Alban, ac yr oedd yn hynod werthfawr cael clywed am y datblygiadau diweddar yn yr Alban. Byddaf yn cyfarfod yn fuan â Linda Fabiani, y Gweinidog dros Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant yn Llywodraeth yr Alban, a Gregory Campbell, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Yr wyf hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Dirprwy Brif Weinidog yn rhinwedd ei rôl fel Gweinidog yr economi, a hynny er mwyn sicrhau bod Cymru yn manteisio i’r eithaf ar fuddiannau economaidd darlledu. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu cyhoeddiad diweddar y BBC y bydd cyfran Cymru o wariant teledu’r rhwydwaith yn codi i 5 y cant erbyn 2016. Yr wyf yn awyddus i bwysleisio heddiw ein bod yn disgwyl i’r 5 y cant hwnnw fod yn isafswm ac nid yn uchafswm.
Yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd rhaglenni megis Crimewatch ac o bosibl Casualty yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru o hyn ymlaen. Gwnaed y penderfyniad hwnnw mewn egwyddor ond yr wyf yn awr am weld y BBC yn gweithredu ar y mater hwn, gan gyhoeddi cynlluniau pendant yn fuan.
Mae Cymru bellach yn lle cwbl briodol i greu canolfan ragoriaeth fyd-eang ynddi ar gyfer cynyrchiadau drama, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r BBC, a hynny er budd economi Cymru. Er mwyn cyrraedd y nod, croesawn hefyd y cyhoeddiad bod y BBC yn ystyried sefydlu pentref drama yng Nghymru—ac mae un neu ddau o’r rheiny eisoes yn bod. [Chwerthin.] Byddai canolfan gynhyrchu fawr o’r fath yn helpu i ddatblygu safle cynhyrchu cynaliadwy yma yng Nghymru, ac yr ydym eisoes yn helpu’r prosiect hwn, er enghraifft drwy bennu lleoliad addas. Gobeithiaf y bydd hefyd yn sbarduno awduron a chynhyrchwyr i greu deunydd cyffrous, apelgar o Gymru ac am Gymru, ond ar gyfer marchnad ryngwladol.
Rhaid inni adeiladu ar hyn yn ogystal â sicrhau bod cynrychiolaeth briodol i Gymru ar draws pob rhwydwaith. Yn ystod fy nghyfarfod gyda Mark Thompson o’r BBC, byddaf yn awyddus i glywed sut yn union y mae’r gorfforaeth yn bwriadu ymateb i adroddiad yr Athro Anthony King wrth adlewyrchu Cymru ar y rhwydwaith. Fodd bynnag, mae gan ddarlledwyr eraill ddyletswydd i fynd i’r afael â hyn hefyd, ac nid am resymau sych sy’n adlewyrchu cynnwys rhyw lyfr rheolau darlledu neu er mwyn cyrraedd cwotâu. Nid dyna pam ydym wedi hen alaru ar y ffaith bod Cymru yn rhy aml yn anweledig ar y rhwydweithiau, ond am fod pobl Cymru yn haeddu rhaglenni sy’n adlewyrchu eu bywydau pob dydd ac am fod gan y wlad hon gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i ddiwylliant yr ynysoedd hyn.