Skip to content

Ysgrifenedig - Gwelliannau i Reilffyrdd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yn Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Gynllunio Rheilffyrdd y Dyfodol ym mis Ionawr 2008, dywedais y byddwn yn adrodd ar y datrysiadau peirianyddol gorau posibl ar gyfer gwella’r seilwaith rhwng Heol y Frenhines, Canol Caerdydd a Chyffordd Cogan/Y Barri er mwyn cyflenwi’r gallu ychwanegol a dargedwyd gan y Papur Gwyn ar Reilffyrdd 2007. At hynny, er mwyn sicrhau’r datrysiad gorau posibl, dywedais y byddwn yn cyfrannu swm o arian at y cynllun pe byddai angen.

Rwy’n falch iawn fod y gwaith dichonoldeb technegol eisoes wedi cyrraedd y pwynt lle y gallaf baratoi adroddiad o’r fath. Daw hyn yn sgîl gwaith partneriaeth y diwydiant rheilffyrdd yn llunio at ddibenion ymgynghori Strategaeth Defnyddio Llwybrau Cymru Network Rail a gyhoeddir yn fuan, a’r gwaith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail wedi’i wneud ar y cyd ar brosiect Ailosod Signalau a Gwella Ardal Caerdydd.

Ceir testun cyd-ddatganiad y tri pharti sy’n ymwneud â’r Prosiect isod. Mae’n nodi sut y bwriedir cyflawni’r targedau a osodwyd a cheir manylion hefyd am gydgytundeb ariannu. Rwy’n cymeradwyo ac yn cefnogi’r casgliadau hyn ac ymrwymaf i’r buddsoddiad a nodir, ond byddaf yn gwneud penderfyniad ffurfiol ar ôl i’r gwerthusiad ffurfiol a’r achos busnes gael eu cwblhau a’u cyflwyno eleni. O ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol ond cymharol gyffredin gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r datrysiad gorau yn bosibl ar draws rhwydwaith y Cymoedd; ni fyddai Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth yn gallu cyflawni hyn ar eu pennau eu hunain.

Heddiw rwyf hefyd yn cyhoeddi cydgytundeb ariannu rhwng Network Rail a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ailadeiladu a moderneiddio gorsaf Casnewydd. Daw llu o fanteision yn sgîl hyn - gan gynnwys agor terfynfeydd newydd a chyfnewidfa fysiau i gydgysylltu â chynlluniau Cyngor Dinas Casnewydd a Newport Unlimited, yr unig gwmni adfywio trefol yng Nghymru.

Bydd y gwaith ailwampio hwn yn sicrhau bod pob platfform yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Caiff ei gwblhau cyn twrnamaint Cwpan Ryder.

TESTUN DATGANIAD GRŴP LLYWIO RHAGLEN AILOSOD SIGNALAU A GWELLA ARDAL CAERDYDD – Sy’n cynnwys Network Rail, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Adran Drafnidiaeth

Cyd-ddatganiad yw hwn gan Network Rail, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, sy’n ffurfio Grŵp Llywio’r prosiect hwn. Bydd y prosiect yn dod i ddiwedd Stagegate 3 o dan broses GRIP (Canllaw i Weithdrefnau Buddsoddi yn y Rheilffyrdd) Network Rail erbyn diwedd 2008, pan fydd un opsiwn buddsoddi cyffredinol argymelledig yn cael ei nodi i’w gymeradwyo’n ffurfiol.

Gan fod cymaint o’r gwaith ar ddichonoldeb bellach – Mai 2007 – wedi’i wneud, yn amodol ar waith dilysu technegol pellach a chyflawniad y gwerthusiad achos busnes, mae’r datrysiadau peirianyddol gorau posibl, y costau dangosol a’r trefniadau cyd-ariannu wedi’u nodi a’u cytuno. Mae’r prif opsiynau o ran traciau, signalau ac amserlenni wedi’u nodi a’u cytuno ac mae cytundeb ‘mewn egwyddor’ wedi’i sefydlu o ran y trefniadau cyd-ariannu.

Rydym wedi cytuno i gyflawni rhagor o bethau erbyn diwedd y broses Grip 3, gan gynnwys materion manwl ynglŷn â phlatfformau, mwy o welliannau i deithwyr a darparu ym mhob rhan o orsafoedd estynedig Heol y Frenhines, Caerdydd a Chanol Caerdydd fynediad heb risiau er mwyn cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth. Mae’r gwaith manwl a wnaethpwyd wrth baratoi ar gyfer Strategaeth Defnyddio Llwybrau Cymru Network Rail wedi helpu i ddatblygu’r cynllun.

Y cynllun hwn bellach yw’r cynllun gweithredu craidd ar gyfer cyflenwi’r cynnydd yn nifer y teithwyr y gellir eu cludo mewn trenau yn yr oriau brig i Heol y Frenhines, Caerdydd a Chanol Caerdydd o rwydwaith y Cymoedd a addawyd ym Mhapur Gwyn Rheilffyrdd yr Adran Drafnidiaeth yn 2007, yn Asesiad Cynllunio Rheilffyrdd Cymru 2007 Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Gynllunio Rheilffyrdd y Dyfodol, Ionawr 2008.

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:

  • darparu pedwar platfform trwodd yng Ngorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd, a darparu platfform cilfach newydd at ddefnydd gwasanaeth gwennol Bae Caerdydd;
  • platfform ychwanegol ar gyfer y Cymoedd yng ngorsaf Canol Caerdydd, â signalau ar gyfer y ddau gyfeiriad;
  • darparu platfform cilfach sy’n wynebu’r gorllewin yng ngorsaf Canol Caerdydd; byddai angen y platfform hwn pe ceid trenau amlach ar linell Maesteg ac ar gyfer gwasanaethau eraill o’r gorllewin;
  • gwella a gwneud gwell defnydd o Linell y Ddinas rhwng Radyr a Chaerdydd trwy Barc Ninian, er mwyn cyflymu gwasanaethau sy’n mynd yn bellach ac er mwyn darparu mwy o seddau mewn gorsafoedd ar y llwybr sefydlog rhwng Llandaf a Cathays;
  • cynyddu gallu drwy adeiladu platfformau ychwanegol yng Nghaerffili, Pontypridd a’r Barri fel bod modd i wasanaethau byrrach droi’n ôl;
  • bydd y gwaith ar blatfform Heol y Frenhines a Chanol Caerdydd yn arwain at nifer o welliannau i deithwyr, gan gynnwys cyfleusterau modern sy’n cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth i gael mynediad i bob platfform;
  • rhagor o welliannau i draciau a signalau yn ardal y Barri/Cyffordd Cogan.

Bwriedir sicrhau yn y cyfnod hyd at 2014 fod trenau yn gallu cludo mwy o deithwyr drwy ddarparu cerbydau ychwanegol fesul cam ar y gwasanaethau presennol rhwng y Cymoedd a Chaerdydd gan gofio mai deuddeg trên yr awr ar y mwyaf sy’n gallu defnyddio gorsaf Heol y Frenhines. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno nifer ddethol o drenau chwe cherbyd yn yr oriau brig a mwy o drenau pedwar cerbyd yn yr oriau brig pan fydd galw amdanynt a cherbydau dan eu sang. Bydd tua 900 o seddau ychwanegol yn cael eu darparu yn yr oriau brig dros y cyfnod dan sylw.

Ar ôl hynny, ac eto pan fydd galw, bydd hyd at ddau drên ychwanegol yr awr yn cael eu darparu yn wasanaethau cyflym yn yr oriau brig yng nghoridorau Dyffryn Taf a Rhymni ar ôl cwblhau’r rhaglen wella. Byddai hynny’n cynyddu gallu yn yr oriau brig o hyd at 1,200 o seddau ychwanegol yr awr.

Mae dadansoddiad o’r amserlenni yn dangos bod modd i’r ddau drên ychwanegol yr awr, yn amodol ar waith dilysu technegol a chynllunio amserlenni pellach, redeg yn wasanaethau cyflym, nad ydynt yn stopio’n aml, rhwng Trefforest a Chaerdydd ar goridor Dyffryn Taf a rhwng Caerffili a Chaerdydd ar goridor Rhymni.

Yn y ddau achos, yn ogystal â’r seddau ychwanegol, bydd amserau’r siwrneiau’n gwella.

Ystyrir y gwasanaethau cyflym ar goridor Dyffryn Taf yn llwybrau newydd lle na fydd stopio aml ar gyfer y ddau drên yr awr arfaethedig rhwng Merthyr a Chaerdydd. Byddant yn rhedeg heb stopio’n aml o Drefforest drwy Linell y Ddinas gan leihau’r amser teithio i Ganol Caerdydd ond gan gadw’r amserau teithio presennol i Heol y Frenhines. Byddai dau wasanaeth ychwanegol sy’n stopio yn cael eu hychwanegu at yr amserlen o Bontypridd i Gaerdydd trwy Landaf a Cathays er mwyn cynnig digon o wasanaethau sy’n stopio, gan gydnabod bod Llandaf, Cathays a Heol y Frenhines yn gyrchfannau poblogaidd tua’r de.

Ar Goridor Rhymni, byddai’r gwasanaethau cyflym ychwanegol yn symud yn gyflym rhwng Caerffili a Chaerdydd, gan leihau’r amserau teithio.

Bydd y cynllun hwn yn sicrhau’r gallu a’r patrwm gwasanaeth gorau posibl er mwyn darparu’r cynnydd a addawyd o ran gallu ac amlder i Heol y Frenhines a Chanol Caerdydd yn y tymor canolig.

Mae’n sicrhau na fydd angen adeiladu trydydd dec i bont Heol Casnewydd i’r gogledd o Heol y Frenhines. Amcangyfrifir y byddai hynny’n costio tua £20 miliwn, a byddai’n golygu sawl blwyddyn o broses statudol o dan weithdrefnau’r Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith. Mae’n bosibl y gwneir hyn yn y tymor hir, ond ni ragwelir am gryn amser eto y bydd cymaint o alw fel bod angen mwy nag un ar bymtheg o drenau yr awr yn yr oriau brig.

Network Rail sy’n talu costau rhaglen Ailosod Signalau De Cymru ac amcangyfrifir eu bod yn £400 miliwn. O fewn hynny, amcangyfrifir y bydd Ailosod Signalau Ardal Caerdydd yn costio tua £200 miliwn.

Mae cost y gwelliannau ychwanegol ar gyfer Heol y Frenhines – Canol Caerdydd – Cyffordd Cogan yn fwy na £30 miliwn. Disgwylir mai’r Adran Drafnidiaeth fydd yn talu costau’r gwelliannau gallu rhwng Heol y Frenhines a Chyffordd Cogan, yn amodol ar benderfyniad terfynol y Fanyleb Allbwn Lefel Uchel y bydd Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd yn ei chyhoeddi cyn bo hir. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn talu’r £7 miliwn y bydd y gwaith yng Nghaerffili a Phontypridd ac yn ardal y Barri yn ei gostio. Bydd Network Rail yn talu am y gwelliannau o ran gallu i weithredu a pherfformiad.

Bydd cyllid Mynediad i Bawb a chyllid o’r Rhaglen Gwella Gorsafoedd Genedlaethol yn cael ei ddarparu gan yr Adran Drafnidiaeth/Network Rail ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn barod mewn egwyddor i gyfrannu mwy at welliannau i gyfleusterau teithwyr ac at hygyrchedd os bydd angen i sicrhau’r canlyniad gorau posibl.

Nid yw’r costau hyn yn cynnwys cost rhedeg trenau hirach na chost amlderau ychwanegol. Ni fydd y rhain yn cael eu darparu nes bod galw amdanynt, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru fyddant.

Mae prosiectau gwella amlder Maesteg a Rhymni yn destun astudiaeth ddichonoldeb a gwerthusiad achos busnes ac nid oes arian wedi’i neilltuo’n bendant ar gyfer y seilwaith na’r costau rhedeg. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru fyddai’r rhain.

Efallai y bydd rhai newidiadau i wasanaethau trên yn ystod y cyfnod adeiladu.