Skip to content

Llafar - Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Diben fy natganiad yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad Cenedlaethol am sefyllfa cynllun datblygu gwledig Cymru ar gyfer 2007 i 2013. Yr wyf yn falch o ddweud bod y cynllun wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel y bore yma. Mae’r ffaith bod y cynllun wedi’i gymeradwyo yn golygu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau gwerth £195 miliwn o arian Ewropeaidd i ategu gwariant cyffredinol o £795 miliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y sectorau ffermio a choedwigaeth a’n cymunedau gwledig tan 2013.

Yn ystod y chwe mis diwethaf, cynhaliwyd trafodaethau dwys ac anodd wrth i’r comisiwn fynd ati i ystyried manylion y cynllun. Mae angen i’r Aelodau sylweddoli bod y gofynion a bennwyd gan y comisiwn o ran strwythur a chynnwys y cynllun yn golygu bod y ddogfen yn rhyw 800 o dudalennau. Aed ati yn ystod y trafodaethau i ymdrin â’r ddogfen yn ei chyfanrwydd. Mae’r ffaith bod y comisiwn wedi cymeradwyo’r cynllun yn golygu y gall Llywodraeth y Cynulliad fynd ati bellach i weithredu er mwyn rhoi’r gweithgareddau sydd yn y cynllun ar waith.

Mae pedair prif thema neu echel yn y cynllun ei hun. Nod echel 1 yw gwneud ein sector amaethyddol a’n sector coedwigaeth yn fwy cystadleuol. Yma, byddwn yn darparu gwasanaeth cynghori newydd i ffermwyr ac yn mynd ati i fireinio’r cynllun cyswllt ffermio. Mae’r ddau gynllun yma wedi’u hanelu’n benodol at gynnig cyngor perthnasol a phenodol a fydd yn cynnwys help i fodloni safonau’r UE yn ogystal â chymorth i ddatblygu ac i gynnal busnesau unigol, boed y busnesau hynny’n rhai amaethyddol neu’n rhai ym maes coedwigaeth. Gyda’i gilydd, bydd y cynllun grant prosesu a marchnata a menter effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes o ran ychwanegu mwy o werth i gynnyrch ffermydd Cymru.

O dan echel 2, byddwn yn ehangu gweithgareddau amaeth-amgylcheddol o dan y cynlluniau Tir Gofal a Thir Cynnal a’r cynllun organig, ac yn parhau hefyd i roi cymorth i ddatblygu coetiroedd drwy’r cynllun coetiroedd gwell i Gymru. Mae’r cynllun cymorth ar gyfer yr ardal lai ffafriol, sef Tir Mynydd, wedi bod yn agwedd arbennig o anodd ar y trafodaethau. Pennwyd cyllideb o £24 miliwn ar gyfer Tir Mynydd ar gyfer 2007, a rhyddhawyd y swm hwn fis Mawrth diwethaf. Ar gyfer blynyddoedd y cynllun o 2008 ymlaen, yr oedd y cynllun wedi cynnig gwariant blynyddol a oedd yn gyson â’r hyn y pleidleisiwyd o’i blaid yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth 2007: hynny yw, £29 miliwn yn 2008 a £25 miliwn ar gyfer bob blwyddyn wedi hynny.

Ar ôl negodi ar broffil gwario Tir Mynydd a’i amodau, mae’r comisiwn wedi cytuno ar linell sylfaen o £25.5 miliwn ar gyfer y swm y caniateir ei dalu drwy’r cynllun Tir Mynydd o dan amodau presennol y cynllun, a hynny o 2008 ymlaen. Ar gyfer cynllun 2008 yn unig, mae’r comisiwn wedi caniatáu taliad chwyddo ar gyfer pori a fydd yn daladwy i ffermwyr sydd â chymysgedd o wartheg a defaid o fewn y terfynau a bennwyd ar gyfer dwyseddau da byw. Amcangyfrifir y bydd tua 4,300 o ffermwyr yn gymwys i gael y taliad chwyddo, sy’n golygu y bydd cyfanswm cost y cynllun yn 2008 yn £29 miliwn.

Ni fydd pawb yn yr ardal llai ffafriol yn gymwys i gael y taliad chwyddo ar gyfer pori. Y canlyniad hwn oedd y gorau y gellid ei sicrhau yn ystod y trafodaethau gyda’r comisiwn, ac mae’n sicrhau bod modd darparu’r cynllun ar gyfer 2008 am y £29 miliwn a gynigiwyd gyntaf pan gafodd y cynllun ei gyflwyno. Yn gynharach y prynhawn yma, cwrddais ag undebau’r ffermwyr a llefarwyr y gwrthbleidiau ar amaethyddiaeth i esbonio’r sefyllfa. Bydd y taliadau Tir Mynydd o dan y llinell sylfaen o £25.5 miliwn yn cael eu rhyddhau o ddechrau mis Mawrth ymlaen, a bydd y taliadau chwyddo ar gael o ddiwedd Ebrill ymlaen.

O dan echel 3, sef mesurau i gynorthwyo arallgyfeirio’r economi wledig a gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau gwledig, ac echel 4, sef LEADER, mae’r partneriaethau lleol wedi gwneud llawer o waith yn barod i ddatblygu cynlluniau busnes bydd yn cefnogi’r hyn bydd yn cael ei wneud ar lefel leol. Mae cynlluniau wedi dod i law oddi wrth 18 o bartneriaethau o bob cwr o Gymru. Mae’r broses asesu’n mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac yr wyf yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi’r canlyniad erbyn mis Mai.

Mae’r ffaith bod y cynllun wedi’i gymeradwyo yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer defnyddio buddsoddiad o gyfanswm o £795 miliwn hyd at 2013 er mwyn cynnal gwead economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein cymunedau gwledig, a hynny fel rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau ffyniant tymor hir ar gyfer Cymru gyfan.