Skip to content

Ysgrifenedig - Rhag-gofrestru cemegau o dan Rheoliadau REACH erbyn 1 Rhagfyr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Erbyn 1 Rhagfyr, rhaid i fusnesau Cymru rag-gofrestru unrhyw gemegau y maent yn eu gweithgynhyrchu, mewnforio neu eu hadfer o wastraff yn unol â chynllun ledled Ewrop, neu wynebu gweld eu cynnyrch yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad.

O dan REACH – Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau – bydd nifer o reoliadau yn cael eu disodli gan un system. Y nod yw diogelu pobl a’r amgylchedd rhag cemegau. Un peth pwysig y mae’r cynllun yn anelu at ei wneud yw sicrhau bod pobl sy’n rhoi cemegau ar y farchnad yn gyfrifol am ddeall a rheoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.

Mae Rheoliadau REACH (Penodi Awdurdodau Cymwys) 2007 (OS 2007 Rhif 1742) yn dynodi Gweinidogion Cymru fel awdurdod cymwys ar gyfer REACH yng Nghymru. Mae rôl yr awdurdod cymwys wedi’i ddirprwyo gan Weinidogion Cymru i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), ond nid yw’r cytundeb yn eu hatal rhag gweithredu unrhyw swyddogaeth a ddynodwyd iddynt fel awdurdod cymwys gan Reoliadau REACH – yn benodol, darparu cyngor i weithgynhyrchwyr, mewnforwyr, cwsmeriaid ac unrhyw bartïon eraill â buddiant, ar eu cyfrifoldebau a’u goblygiadau penodol o dan REACH. Mae swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â’r HSE a chyrff eraill dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnig sesiynau codi ymwybyddiaeth am REACH i fusnesau ledled Cymru.

Yn dilyn fy natganiad i’r wasg ar 14 Hydref, hoffwn annog pob cwmni sy’n gweithgynhyrchu sylweddau, yn eu mewnforio i’r UE, neu yn eu hadfer o wastraff, i fynd ati ar fyrder i ystyried a oes angen iddynt rag-gofrestru’r sylweddau hynny gyda’r Asiantaeth Gemegau Ewropeaidd.

Ar ôl 1 Rhagfyr, bydd rhaid i bob sylwedd sy’n destun cofrestru o dan gynllun REACH ar hyn o bryd, gael ei rag-gofrestru, ei gofrestru’n llawn, neu ei dynnu oddi ar y farchnad.

Gall y rhai a fydd yn rhag-gofrestru’r sylweddau y maent yn eu gweithgynhyrchu neu yn eu mewnforio gymryd mantais o derfynau amser cyflwyno’r cynllun REACH, a rhannu’r baich o baratoi ar ei chyfer gyda chwmnïau eraill sydd wedi rhag-gofrestru’r un sylweddau.

Ni chodir tâl am rag-gofrestru, ac mae’n broses gymharol syml sy’n golygu y gall cwmnïau fanteisio ar derfynau amser sy’n caniatáu iddynt fynd ati fesul cam i gofrestru’n llawn. Os byddant wedi rhag-gofrestru, ni fydd angen i lawer o sylweddau tunelledd isel gael eu cofrestru’n llawn tan 2018.