Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan y Llywodraeth yn ymwneud â Diwydiant Cig Coch Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gweldig.
Mae’n bleser cael cyhoeddi y bydd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol sy’n ymwneud â diwydiant cig coch Cymru yn cael ei osod heddiw.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau sylweddol eisoes mewn perthynas ag amaethyddiaeth, ond dyma’r Gorchymyn Cynhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i geisio pwerau deddfu ar gyfer y Cynulliad yn y maes hwn.

Mae’r diwydiant cig coch wedi ei ddiffinio fel yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu, prosesu, marchnata a dosbarthu anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o wartheg, defaid a moch. Mae’n ddiwydiant sydd o’r pwys mwyaf i Gymru ac mae gennym gyfle ar hyn o bryd i sicrhau lle ar ein cyfer ni ein hunain ym marchnadoedd y DU a marchnadoedd y byd fel gwlad sy’n cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd.

Diben cyntaf y Gorchymyn hwn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fedru diffinio’r trefniadau ar gyfer casglu ardollau oddi wrth y sector cig coch er mwyn hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru.

Bydd y Gorchymyn Cynhwysedd Deddfwriaethol hwn yn rhoi’r gallu i’r Cynulliad ystyried deddfu er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant; gwella’r ffordd yr eir ati i farchnata; gwella’r gwasanaethau y mae’r diwydiant yn eu darparu ar gyfer y gymuned, a gwella’r ffyrdd y mae’r diwydiant yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 23 Medi.