Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghori ar y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post ar ei newydd wedd

Dolenni perthnasol

Eir ati yn y papur ymgynghori hwn i geisio barn am gynigion ar gyfer y Gronfa ddiwygiedig Datblygu Swyddfeydd Post.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad yn Cymru’n Un i ailsefydlu’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post ar ei newydd wedd. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd y gronfa newydd yn agor ar 1 Ionawr 2009. Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos a fydd yn trafod rhai o’r cynigion am y math o gymorth y gallai’r gronfa newydd ei gynnig, ac yn gofyn am safbwyntiau am y math o welliannau y gellid eu hariannu.

Diben y cynllun yw helpu is-bostfeistri i arallgyfeirio yn eu gwaith, drwy ddarparu arian i dalu am gyngor busnes a chyngor marchnata, hysbysebion, hyfforddiant a chostau sefydlu gwasanaethau newydd. O ganlyniad, efallai y byddwn yn galw’r gronfa newydd yn ‘Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post’. Gallai’r gronfa newydd dalu hefyd am welliannau ffisegol i safleoedd Swyddfeydd Post nad ydynt yn cael eu hariannu gan Post Office Ltd.

Rydym bob amser wedi cydnabod gwerth cymdeithasol a chymunedol swyddfeydd post, yn arbennig yng nghyd-destun cefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf arunig a mwyaf difreintiedig, ac i fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol. Rydym am weld mwy o swyddfeydd post yn ffynnu er mwyn iddynt allu darparu gwasanaeth angenrheidiol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y cynigion yr wyf wedi eu nodi heddiw ar gyfer y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post ar ei newydd wedd yn helpu i gyrraedd y nod hwn. Mae copi o’r ymgynghoriad yn atodedig, ac edrychaf ymlaen at weld yr ymateb.