Skip to content

Ysgrifenedig - Setliadau Refeniw a Chyfalaf dros dro Llywodraeth Leol 2009-10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf dros dro y 22 awdurdod unedol yng Nghymru ar gyfer 2009-10.

Y Setliad Refeniw

Ar gyfer 2009-10, bydd y cymorth refeniw i awdurdodau lleol yng Nghymru drwy'r prif setliad yn cynyddu tua 2.9%. Mae hyn yn ystyried y £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer llywodraeth leol yng nghyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf. Mae hefyd yn cynnwys £3.7 miliwn yn y gyllideb i gefnogi ymestyn cludiant am ddim i'r ysgol, fel sy'n cael ei nodi ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr y Cynulliad.

Ar y cyfan, bydd y Grant Cynnal Refeniw yn cynyddu £109 miliwn o'i gymharu â 2008-09. Mae hyn yn golygu £3.9 biliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau allweddol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru flwyddyn nesaf.

Bydd hyn yn cynyddu £115 miliwn ychwanegol yn 2010-11 i dros £4 biliwn ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau.


Mae'r adnoddau ychwanegol yn arwydd o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynorthwyo llywodraeth leol, cyn belled ag y mae adnoddau ac ymrwymiadau eraill yn ei chaniatáu, i helpu i dalu'r costau uchel y maent yn eu hwynebu yn y cyfnod economaidd heriol a'r sefyllfa ariannol anodd hon.

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i fanteisio ar £53 miliwn yn ychwanegol o gyllid heb ei neilltuo a ddarperir drwy'r Grant Amddifadedd a'r Grant Cymell Perfformiad.


Grantiau Penodol

Yn ogystal â'r cymorth heb ei neilltuo, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig grantiau sylweddol (dros £650 miliwn) o ystod o adrannau'r Llywodraeth i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a mentrau penodol. Y cynnydd mwyaf arwyddocaol o ran grantiau penodol unigol yw £20 miliwn ychwanegol yn 2009-10, a fydd yn codi i £40 miliwn ychwanegol yn 2010-11, i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen. Mae adnoddau ychwanegol hefyd i sicrhau parhad y cynllun teithio rhatach a threfniadau addysg ôl-16.

Dyrannu rhwng Awdurdodau

Mae goblygiadau'r setliad cyffredinol i awdurdodau unigol yn ddibynnol ar fformiwla safonol yr Asesiad o Wariant Safonol. Mae tabl sy'n nodi manylion y setliad ar gyfer pob awdurdod yn cyd-fynd â'r datganiad hwn. Mae'r dyrannu'n adlewyrchu'r ffaith bod trefniant terfyn isaf wedi cael ei gynnwys i sicrhau bod cynnydd o 1.5% o leiaf i bob awdurdod flwyddyn nesaf. Bydd y cynnydd mwyaf flwyddyn nesaf yn Sir Gaerfyrddin, sef cynnydd o 4.2%, yna Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd gyda chynnydd o 4.1% a 4.0% i’r naill a’r llall. Bydd tri awdurdod yn derbyn y cynnydd gofynnol, sef 1.5%. Y tri awdurdod yw Ynys Môn, Powys a Blaenau Gwent.

Mae'n bwysig bod y fformiwla dyrannu yn adlewyrchu mor gywir â phosibl angen pob awdurdod i wario er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau. Rwyf hefyd yn sylweddoli bod angen i awdurdodau gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn eu cyllid er mwyn rheoli'r ddarpariaeth gwasanaeth ac osgoi rhoi gormod o bwysau ar godiadau mewn treth gyngor. Rwyf felly wedi cytuno na fydd unrhyw newidiadau i'r fformiwla ar gyfer 2009-10 heblaw am gyflwyno'r newidiadau cyfredol i'r fformiwla yn raddol. Cytunwyd ar y rhain gyda llywodraeth leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae ffactorau sydd wedi dylanwadu ar ddyrannu adnoddau ar draws awdurdodau yn adlewyrchu i raddau helaeth y newidiadau yng nghyfran gymharol pob awdurdod o boblogaeth Cymru yn ei chyfanrwydd a grwpiau penodol fel niferoedd disgyblion.

Setliad Cyfalaf

O ran y setliad cyfalaf, tua £636 miliwn fydd y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2009-10, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol.

Cyfanswm y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol yw £217 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a thelir £54 miliwn ohono fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £163 miliwn, fel cymorth i fenthyca.


Ar ben hyn, bydd hefyd modd i awdurdodau lleol gael y £400m sydd ar gael eleni ac yn y ddwy flynedd nesaf drwy Fwrdd Buddsoddiad Cyfalaf Strategol newydd Llywodraeth y Cynulliad ariannu prosiectau cyfalaf strategol a phenodol. Mae'r gwaith yn dod i'w derfyn ar ddatblygu Cynllun Buddsoddi’r Bwrdd. Bydd y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar brosiectau i'w datblygu o dan y cynllun.

Mae tablau manwl pellach gan gynnwys dyraniadau unigol y setliad cyfalaf ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Setliadau Tair Blynedd

Fel rhan o'r setliad tair blynedd a gyhoeddwyd y llynedd, rydym wedi cyhoeddi Asesiad mynegol o Wariant Safonol a dyraniadau Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2009-2010 a 2010-2011. Mae ystod y cynnydd a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer 2009-10 yn adlewyrchu'r newidiadau yng nghyfran berthynol pob awdurdod o'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a grwpiau penodol fel niferoedd disgyblion.


Mae hyn yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y cylch cyntaf o setliadau tair blynedd. Cyn cyhoeddi cylch nesaf y setliadau dros sawl blwyddyn, byddwn yn adolygu'r profiad o'r cylch hwn.

Casgliad


Rwyf wedi rhyddhau'r wybodaeth hon nawr er mwyn i awdurdodau allu cynllunio eu cyllidebau gan wybod beth y gallant ddisgwyl ei dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.


Rydym yn wynebu cyfnod hwn yn gyfnod economaidd ac ariannol heriol ac unigryw i lywodraeth, busnesau a dinasyddion fel ei gilydd. Mae’r math o dwf cryf rydym wedi’i weld mewn cyllid cyhoeddus dros y ddegawd ddiwethaf ar ben. Y rhagolwg yw y bydd cynnydd llawer llai mewn cyllid. O fewn y cyd-destun anodd hwn, nod Llywodraeth y Cynulliad yw cefnogi llywodraeth leol i sicrhau bod modd cynnal y gwasanaethau allweddol sy'n hollbwysig i bobl Cymru.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol gydag awdurdodau lleol ar y setliad dros dro. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i law.