Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn 'Cymru’n Un’, bu inni ymrwymo’n llawn i greu cysylltiadau trafnidiaeth gwell, yn ffyrdd ac yn rheilffyrdd, rhwng y gogledd, y gorllewin a’r de, ac i sefydlu mentrau integredig a thrawsbynciol gyda’r nod o sicrhau datblygu economaidd ac adfywio mewn ardaloedd fel Blaenau’r Cymoedd a Môn a Menai. Ar 2 Hydref 2007, cyflwynais fy ngweledigaeth o ran sut y byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn yn 'Cymru’n Un’ a dywedais y byddwn yn rhoi’r manylion yn ddiweddarach. Heddiw, yr wyf yn anrhydeddu’r addewid honno ac yn gwneud hynny yng nghyd-destun eu cyflwyno yn rhan o’m hadolygiad o’n rhaglenni ffyrdd a rheilffyrdd.
Yr wyf hefyd yn ymwybodol o’r ymrwymiad a wnaethom yn 'Cymru’n Un’ mewn perthynas â lleihau allyriadau carbon, a’r rhan y mae’n rhaid i drafnidiaeth ei chwarae wrth fodloni’r addewid honno. Dyna pam yr wyf yn cyflwyno am y tro cyntaf ein blaenraglen reilffyrdd a fydd yn rhoi tystiolaeth gadarn o’n bwriad i greu system drafnidiaeth integredig ac i hybu newid mewn dulliau teithio. Yn y man, byddaf hefyd yn gwneud datganiad am sut y bwriadwn ddatblygu ein menter trefi cynaliadwy.
Bydd ein cynlluniau ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu mireinio eto wrth inni gyflwyno’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol a’i sgîl effeithiau rhanbarthol drwy’r pedwar consortiwm trafnidiaeth. Mae cynlluniau o’r fath yn amodol ar gwblhau gweithdrefnau cydsynio statudol, ar gael cyllid ar eu cyfer, ac ar effaith yr adroddiad cyn-gyllidebol a gyhoeddwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael copïau o’r mapiau sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae un bob un ar gyfer rheilffyrdd a ffyrdd, ac maent yn dangos y manylion sylfaenol. Mae’r mapiau yn dangos ein bod yn gwneud cynlluniau nid yn unig ar gyfer y flwyddyn nesaf neu hyd yn oed y tair blynedd nesaf, ond ar gyfer Cymru yn 2014 a thu hwnt.
Dechreuaf gyda’r rhaglen reilffyrdd. Tan yn ddiweddar, yr oedd prosiectau seilwaith rheilffyrdd yn cael eu rhoi ar waith drwy awdurdodau lleol gan ddefnyddio ein trefniadau grant trafnidiaeth ni. Yn awr, yr ydym yn defnyddio mwy ar y pwerau a ddarparwyd gan Ddeddf Rheilffyrdd 2005. Wrth inni symud at gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, yr ydym yn cynnig y dylai prosiectau rheilffyrdd gael eu noddi gan Lywodraeth y Cynulliad a’u rhoi ar waith yn unol â blaenoriaethau 'Cymru’n Un’.
Y mis hwn byddwn yn gweld y gwasanaeth cyflym rhwng Caergybi a Chaerdydd yn dechrau yn unol â’r adduned yn 'Cymru’n Un’ i wella cysylltiadau rheilffordd rhwng y gogledd a’r de. Mae hwn yn cael ei restru ar y map fel ymrwymiad a gymeradwywyd, fel y mae, er enghraifft, y gwasanaeth bob hanner awr o Ferthyr i Gaerdydd yn y Cymoedd, sydd i fod i ddechrau fis Mai y flwyddyn nesaf. Byddaf yn ystyried pa welliannau y gallaf eu gwneud i wasanaethau arfordir y Cambrian pan fydd y gwasanaethau seilwaith wedi cael eu cwblhau oddeutu hydref 2009.
Yr wyf wedi ymrwymo i ddarparu cerbydau a gwasanaethau ychwanegol ar reilffyrdd y Cymoedd, lle mae’r galw’n dal i gynyddu. Mae’r flaenraglen yn newyddion da felly i bobl yn Rhymni, Maesteg, Caerffili a Phontypridd sy’n disgwyl am wasanaethau amlach ac i’r rhai yn Energlyn y mae angen gorsaf newydd arnynt. Gallaf gadarnhau fy mod yn ystyried ychwanegu gwasanaethau o Lynebwy i Gasnewydd yn flaenoriaeth.
Er mwyn darparu gwasanaethau rheilffordd ychwanegol mewn llawer o ardaloedd, mae angen imi raglennu buddsoddiad yn y seilwaith mewn partneriaeth â Network Rail. Yn ychwanegol at y rhaglen yr ymrwymwyd iddi eisoes, yr wyf yn awyddus i weld dechrau ar wella capasiti’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer. Yr wyf yn disgwyl â diddordeb am astudiaeth dichonoldeb Network Rail.
O ystyried llwyddiant ailagor y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd, byddaf yn mynd ati o ddifrif i archwilio opsiynau er mwyn ailagor rheilffyrdd segur i wasanaethau teithwyr newydd.
A throi at y ffyrdd, rhoddwyd ffocws newydd i’r flaenraglen cefnffyrdd er mwyn cynhyrchu rhestr ddiwygiedig o gynlluniau mewn tri cham sydd wedi cael eu hamseru. Fe’u rhestrir mewn trefn blaenoriaeth, gan adlewyrchu ymrwymiadau 'Cymru’n Un’. Mae’r rhestr lawn o gynlluniau cefnffyrdd wedi’u hailflaenoriaethu i’w gweld ar y mapiau sydd gennych, a gwelwch fod grŵp cam 1 yn cynnwys nifer o brosiectau a fydd yn help i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau hollbwysig i’r A470 strategol yng Nghwmbach, Alltmawr a Gelligemlyn, ac i’r A487 ym Mhorthmadog.
Fy nod yw darparu gwell cysylltiadau rhwng canolfannau poblogaeth strategol, gan wella dosbarthiad cyfleoedd datblygu economaidd. Bydd camau 2 a 3, pan gânt eu gweithredu, yn golygu cwblhau ffordd Blaenau’r Cymoedd fel y cynlluniwyd. Dylai’r gwelliannau sy’n gynwysedig yng nghamau 1, 2 a 3—yn cysylltu y gogledd a’r gorllewin â’r de—gael eu cwblhau erbyn 2020, yn amodol ar gyllid ac ar weithdrefnau cydsyniad statudol.
Mae’r nod hwn o ledaenu ffyniant yn cael ei adlewyrchu yn ein buddsoddiad mewn cysylltiadau eraill tyngedfennol, fel y nodir ar y mapiau sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae’r rhaglen heddiw yn mynd ati i gydnabod pwysigrwydd cysylltiadau rhwng gogledd a de ein gwlad a Blaenau’r Cymoedd, yn ogystal â sicrhau gwelliannau sy’n cynyddu ffyniant a chysylltedd ym mhob rhan o’n gwlad. Yr wyf yn benderfynol o wella’r cysylltiadau rheilffordd, a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targedau o ran y newid yn yr hinsawdd ac i ddiwallu’r galw gan deithwyr am ragor o wasanaethau.
Fy nod yw sicrhau gostyngiad cynyddol yn yr amseroedd teithio rhwng y gogledd a’r de drwy gyflymu’r gwaith o ddarparu ffyrdd osgoi newydd, gan dynnu traffig trwm o gymunedau, a darparu rhagor o gyfleoedd goddiweddyd ar ffyrdd a oedd yn arfer cael eu tagu gan gerbydau sy’n symud yn araf.
Nid yw buddsoddi mewn cysylltiadau ffordd a rheilffordd yn rhad. Fodd bynnag, am unwaith, mae’r rheilffyrdd yn gwneud yn dda. Gallaf gyhoeddi bod y ceisiadau i’r gronfa buddsoddi cyfalaf strategol gogyfer â’r gwelliannau seilwaith rheilffordd arfaethedig rhwng Wrecsam a Chaer a Thre-gŵyr a Chasllwchwr wedi cael eu cymeradwyo mewn egwyddor. Mae’r prosiectau hynny’n werth oddeutu £47 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol rhwng yn awr a 2011. Yr ydym hefyd yn ymgeisio’n ddyfal i gael cyfraniad gan gronfeydd strwythurol Ewrop tuag at brosiectau cymwys.
Mae datganoli wedi ei gwneud yn bosibl inni benderfynu ar ein blaenoriaethau ein hunain. Mae ein blaenoriaethau fel Llywodraeth wedi’u nodi yn 'Cymru’n Un’. Yr wyf yn falch ein bod yn cyflawni un o’n haddewidion allweddol, a fydd yn help i wneud Cymru yn genedl gref a hyderus.
Argymhellaf y cynigion hyn i’r Cynulliad.