Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Ar 1, 2 a 3 Hydref 2010, cynhelir deunawfed gornest ar hugain Cwpan Ryder yng ngwesty’r Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd. Yn y seremoni a gafwyd i ddod â’r ail ornest ar bymtheg ar hugain i ben ddydd Sul diwethaf yn Valhalla, ger Louisville, Kentucky, cafodd y cyfrifoldeb dros ornest y Cwpan Ryder ei drosglwyddo o Kentucky i mi ar ran Cymru. Eleni oedd y tro cyntaf ers naw mlynedd i dîm golff yr Unol Daleithiau fod yn fuddugol.
Er bod yr ymweliad wedi golygu y bûm yn absennol o’r seremoni a gynhaliwyd i groesawu ein tîm arbennig o lwyddiannus yn ôl o’r Gemau Paralympaidd yn Beijing, yr oedd y siwrnai yn gyfle heb ei ail i weld a dysgu sut oedd talaith Kentucky, ardal ddinesig Louisville, a Chymdeithas Golffwyr Proffesiynol America, yn berchnogion y cwrs, wedi gallu trefnu gornest mor groesawgar a chyfeillgar ac eto mor broffesiynol. Trefnwyd a pharatowyd popeth i’r dim, er y bu i gorwynt Ike chwythu sawl colfen i lawr ar y cwrs a ger y cwrs, gan greu llanast o’r gwifrau a’r cyflenwadau trydan ychydig ddyddiau cyn i’r golff ddechrau.
Ymgymerodd y Dirprwy Brif Weinidog, a aeth i’r seremoni agoriadol, a minnau â rhaglenni busnes dwys yn UDA gan fanteisio ar y cyfle rhagorol a gynigid gan Gwpan Ryder i groesawu gwesteion allweddol a chynnal cyfarfodydd allweddol yn Valhalla a’r cyffiniau. Dyma’r cyfle gorau mewn cenhedlaeth i Dîm Cymru hyrwyddo nid dim ond twristiaeth golff yng Nghymru ond hefyd i ddatblygu cyfleoedd mewnfuddsoddi, i hyrwyddo masnach, ac i greu perthynas rhwng Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn yr Unol Daleithiau. Credwn y bydd y cysylltiadau hyn yn dwyn ffrwyth gwerthfawr maes o law.
Croesawyd gwesteion o’r sector busnes a’r sector twristiaeth a chynhaliwyd cyfarfodydd ffurfiol, wyneb-yn-wyneb ac un-ac-un gyda nifer fawr o’r cysylltiadau hollbwysig hyn. Crëwyd cysylltiadau pwysig â gwesteion eraill mewn digwyddiadau ehangach yng nghyswllt Cwpan Ryder, gan gynnwys ymweld â dosbarthwr whisgi Penderyn yn yr Unol Daleithiau. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda llywodraethwyr Kentucky ac Oklahoma a chyfarfod â swyddogion Masnach a Buddsoddi’r DU yn Washington DC. Drwyddi draw, cawsom oddeutu 40 o gyfarfodydd ffurfiol, a phob un ohonynt yn hyrwyddo Cymru i gynulleidfa eang ac amrywiol o benderfynwyr a dylanwadwyr allweddol. Rhai o’r prif ddigwyddiadau a gynhaliwyd i werthu Cymru i gynulleidfaoedd mawr oedd derbyniad yng Nghanolfan Muhammad Ali yng nghanol Louisville, a derbyniad yn Churchill Downs, cartref y Kentucky Derby.
Roedd Cwpan Ryder yn fagned enfawr i gymuned fusnes America. Trefnwyd inni groesawu bron 40 o fewnfuddsoddwyr o’r Unol Daleithiau ac o Ewrop, rhai ohonynt eisoes yn buddsoddi yng Nghymru ac yn ystyried buddsoddi rhagor yma, ac eraill yn ystyried Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo am y tro cyntaf, Yn ddieithriad, yr oedd y rhai a oedd eisoes yn buddsoddi yma’n gadarnhaol iawn ynglŷn â’u profiadau yng Nghymru ac yn hyderus y byddent yn buddsoddi rhagor yma er gwaethaf cyflwr y farchnad gredyd ar hyn o bryd. Yr wyf yn hyderus y cawn g yhoeddiadau cadarnhaol yn y dyfodol agos mewn ambell achos o leiaf. Efallai mai cyhoeddiadau ar gyfer y tymor canolig y bydd cyhoeddiadau eraill, ac fel sy’n wir am bob cyfle i farchnata, ni fydd pob cysylltiad sy’n edrych yn addawol yn troi’n penderfyniad llwyddiannus o’n plaid yn y pen draw.
Fel gyda Chwpan Ryder ddwy flynedd yn ôl yn Iwerddon, mae ein trafodaethau gyda chleientau’n gyfrinachol, ond yr wyf yn sicr yn y misoedd o’n blaen, fel y gwelsom yn Iwerddon, y gwelwn ganlyniadau o bwys ar ffurf mewnfuddsoddiadau newydd a swyddi newydd i Gymru.
Un o’n hamcanion hollbwysig oedd hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth ar gyfer golff ac ar gyfer twristiaeth yn gyffredinol. Yr oedd croesawu cwmnïau teithio, cynnal cyfarfodydd un-ac-un gyda hwy, cymryd rhan yn y digwyddiad i awduron teithio a chynnal cyfweliadau i’r cyfryngau gyda Forbes a Reuteurs a’u tebyg i gyd yn gyfleoedd i gyflwyno Cymru ar ei gorau mewn marchnad anferth sy’n cynnig cyfle sylweddol i Gymru ym maes twristiaeth. Pwysleisiwyd y neges honno mewn cyfarfod gyda’r Dirprwy Ysgrifennydd dros Dwristiaeth, y Celfyddydau a Threftadaeth a chydag Ysgrifennydd Masnach Talaith Kentucky.
Y fantais fwyaf amlwg, er y byddai’n cael ei diffinio’n fantais haniaethol, yw bod croesawu Cwpan Ryder Rhif 38 yn ein galluogi i sicrhau cynnydd anferth yn ymwybyddiaeth pobl o Gymru—o safbwynt busnes, o safbwynt twristiaeth ac o safbwynt cyffredinol. Yn sgil presenoldeb Cymru yn Kentucky, gyda baner Cymru’n chwifio’n falch, taniwyd ymwybyddiaeth pawb y cyfarfuwyd â hwy. Mae’r 150,000 o wylwyr, y bobl fusnes, yr awduron teithio, y gwleidyddion, y cyfryngau’n gyffredinol a rhai o leiaf o’r cannoedd o filiynau yn y gynulleidfa deledu fyd-eang yn gwybod erbyn hyn beth yw Cymru ac ymhle y mae mewn ffordd nad oeddent yn ei wybod o’r blaen, ac mae ganddynt ddigon o ddiddordeb i gael gwybod rhagor am ein gwlad.
O blith y gwersi pwysig a ddysgwyd, un yw bod pobl Kentucky’n gyffredinol yn mwynhau croesawu ymwelwyr ac yr oedd yr agwedd groesawgar a welwyd gan bawb—nid oedd dim yn ormod o drafferth—yn eu natur i raddau a honno wedyn yn cael ei hatgyfnerthu drwy ddarparu hyfforddiant tebyg i’r Cynllun Croeso. Mae gwirfoddoli ar gyfer Cwpan Ryder, gan dalu hyd yn oed am y fraint o fod yn wirfoddolwr, yn boblogaidd yn UDA. Gwrthodwyd 2,000 o ddarpar wirfoddolwyr, a oedd yn barod i dalu, ond nad oedd lle iddynt. Mae’r ystadegyn hwnnw’n eithaf syfrdanol, a dyna sut y llwyddwyd i glirio llanastr corwynt Ike mor gyflym. Cyfleuster un cwrs yw cwrs Valhalla, sy’n ymestyn dros 450 erw, a dim ond 180 erw o’r tir hwnnw yw’r cwrs golff. Defnyddiwyd y 270 erw arall ar gyfer gwasanaethau, ar gyfer arlwyo, y ganolfan gyfryngau, croeso corfforaethol, y bysiau gwennol di-ri ac ati. Yr oedd yn syfrdanol.
Yr oedd blas Cymreig cryf ar y seremoni gloi, gyda phresenoldeb enfawr Bryn Terfel yn amlwg iawn ar y llwyfan. Yr wyf yn hynod o ddiolchgar iddo. Gwelodd cynulleidfa fyd-eang y digwyddiad hwnnw, ac, er ei bod yn amhosibl rhoi gwerth ar y sylw unwaith-mewn-oes hwnnw, daw’r canlyniadau i’r golwg yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd o’n blaenau, gan gyrraedd penllanw pan fydd Cymru’n croesawu Cwpan Ryder Rhif 38, yn 2010, ymhen 737 o ddiwrnodau, gan wneud hynny’n llwyddiannus, yr wyf yn siŵr.