Y mis diwethaf, cyhoeddais fy mhenderfyniad i ail-wneud cynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad. Yr wyf yn falch bod Llywodraeth y Cynulliad yn un o’r ychydig weinyddiaethau yn y byd sydd wedi rhoi lle canolog i ddatblygu cynaliadwy yn ei statud. Yr ydym wedi ymrwymo o hyd i’r egwyddor hon fel yr arwyddair i raglen y weinyddiaeth hon.
Gwnaethpwyd y cynllun datblygu cynaliadwy presennol yn 2004 ac mae’n pennu’r fframwaith strategol cyffredinol a gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy i Gymru gyfan. Mae’n tynnu sylw at yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth y Cynulliad er mwyn datblygu cynaliadwy, yr egwyddorion y mae’n eu dilyn a’r prosesau y mae’n eu defnyddio wrth hyrwyddo datblygu cynaliadwy ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae llawer iawn wedi’i gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, a thynnwyd sylw yn yr adroddiad blynyddol diwethaf am ddatblygu cynaliadwy at y gwaith da yr ydym wedi’i wneud ar gynaliadwyedd ym maes iechyd, addysg, caffael a meysydd polisi eraill, gan gynnwys y rhaglen Cymru o blaid Affrica a masnach deg. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, yr ydym wedi bod yn edrych yn gyffredinol ar ein gwaith ar ddatblygu cynaliadwy dros y pedair blynedd diwethaf ac yn ymgynghori’n eang â rhanddeiliaid. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn am y mater hwn fis Hydref y llynedd. Mae nifer o eitemau gwaith wedi bod yn sail i’n hasesiad cynhwysfawr o’r modd yr ydym yn cyflenwi datblygu cynaliadwy.
Yn unol â’n dyletswydd statudol, gwnaethom gomisiynu adolygiad o effeithiolrwydd y cynllun datblygu cynaliadwy, a ystyriodd i ba raddau y mae’r weledigaeth a nodwyd yn y cynllun wedi’i gwireddu ar y tu allan. Yr wyf yn bwriadu cyhoeddi’r adroddiad hwn a’i gyflwyno yn yr wythnosau nesaf. Mae Cynnal Cymru wedi ymgymryd â gwaith hefyd ar farn cymdeithas sifil am faterion sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy yng Nghymru, yn dilyn ei raglen ddigwyddiadau gyda llawer math o randdeiliaid. Hefyd, o fewn Llywodraeth y Cynulliad, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried integreiddio datblygu cynaliadwy â’r prosesau penderfynu. Mae’r holl waith hwn yn cynnig asesiad cynhwysfawr o’n gwaith ar ddatblygu cynaliadwy a man cychwyn da i fynd â’r gwaith hwn i’r lefel nesaf. Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion sy’n codi o’r gwahanol ffrydiau gwaith yn cyfleu negeseuon pendant. Yn benodol, mae awydd amlwg am fwy o weithredu ar ddatblygu cynaliadwy ac mae llawer mwy i’w wneud.
Bydd cynllun datblygu cynaliadwy newydd yn rhoi cyfle i ymateb i waith yr adolygiad, a thrwy adeiladu ar sail yr awydd a’r brwdfrydedd hwn, bydd yn ein galluogi i bennu gweledigaeth newydd a modern ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gyda cherrig milltir ac amcanion clir. Mae datblygu cynaliadwy’n ymwneud â chyflawni pob un o’n hamcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn modd cytbwys, gan gydnabod ein heffaith ar adnoddau’r ddaear hefyd yr un pryd.
Mae 'Cymru’n Un’ yn egluro ein hymrwymiad i sicrhau’r gwelliannau hyn. Felly, ni fydd y cynllun datblygu cynaliadwy newydd yn sefyll ar wahân i’n hagenda yn 'Cymru’n Un’, neu’n gweithio ochr yn ochr â hi; bydd yn ddogfen fframwaith strategol sy’n dangos sut y bydd ein polisïau a’n hymrwymiadau presennol yn cyfrannu at les pobl Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol yn ein cymunedau, yn enwedig ein cymunedau lleiaf cefnog.
Yn benodol, bydd ein cynllun datblygu cynaliadwy newydd yn canolbwyntio ar ddangos sut y mae ein polisïau’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, gyda themâu fel: dyfodol iach gyda gwell ansawdd bywyd i bawb; cymdeithas ffyniannus lle’r ydym yn symud tuag at economi carbon isel; cymunedau byw sy’n cyfrannu at iechyd a lles; dysgu ar gyfer bywyd fel bod pob dysgwr yn ymwneud â datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; amgylchedd cynaliadwy sy’n ymateb i newid yn yr hinsawdd; cymdeithas deg a chyfiawn sy’n dathlu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, gan adeiladu ar sail y cyhoeddiad a wneuthum ddydd Gwener fod Cymru wedi dod yn wlad masnach deg gyntaf y byd.
Yr enw yr ydym yn ei roi ar ein cynllun newydd yw 'Cymru Un Blaned’, er mwyn tynnu sylw at y ffaith y byddwn yn ceisio dangos sut y gallwn gyrraedd ein nodau gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n defnyddio gwerth bron dair planed o adnoddau. Lansiais adroddiad sy’n ail gyfrifo ôl-troed ecolegol Cymru yng Ngŵyl y Gelli’n ddiweddar. Mae’n dangos mai ein hôl-troed ecolegol yw 5.16 o hectarau byd-eang y pen—sef y ffigur isaf o blith pedair gwlad y DU, ond mae’n dal ar lefel anghynaliadwy. Mae’r ddadl dros leihau ein hôl-troed ecolegol fel ei fod ar lefelau cynaliadwy’n un daer a grymus ac mae’r adroddiad yn dangos i ni sut y gallwn ei leihau. Yr ydym yn gwneud llawer iawn eisoes. Mae agenda 'Cymru’n Un’ yn hyrwyddo cynlluniau pwysig ym mhob un o’r tri maes allweddol sydd, gyda’i gilydd, yn gyfrifol am oddeutu dwy ran o dair o’r ôl-troed: trafnidiaeth, sy’n 18 y cant; tai, sy’n 25 y cant; a bwyd, sy’n 20 y cant. Felly dylai agenda 'Cymru’n Un’ fod yn fodd i sefydlogi neu hyd yn oed leihau ein hôl-troed ymhellach erbyn 2020. Yr her yn y cynllun datblygu cynaliadwy newydd fydd gwella ansawdd bywyd pobl, gan leihau ein defnydd o adnoddau’r ddaear.
Bydd y cynllun newydd yn gynllun i Gymru—un dilys a pherthnasol i bobl a chymunedau yng Nghymru. Bydd pobl yn ei ddeall ac yn teimlo eu bod yn cymryd rhan wrth beri iddo weithio drostynt hwy. Yr wyf am fanteisio ar yr awydd mawr i wneud mwy ar ddatblygu cynaliadwy, o fewn Llywodraeth y Cynulliad ac yn fwy cyffredinol ledled Cymru. Byddaf yn disgwyl gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid presennol i sicrhau y caiff ein hagenda 'Cymru Un Blaned’ ei chefnogi a’i gweithredu ganddynt ar y cyd. Yr wyf am weld gwaith partneriaeth gwirioneddol—ar draws Llywodraeth, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a chyda chymunedau ac unigolion—i greu consensws go-iawn ar y materion pwysig a chydweithio i sicrhau newid.
Dros y misoedd nesaf, bydd swyddogion yn datblygu’r cynllun newydd gan ymgynghori â chymheiriaid ym maes polisi ym mhob rhan o Lywodraeth y Cynulliad a chyda’n rhanddeiliaid. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar hyn yn yr hydref, a byddaf yn disgwyl dod yn ôl i’r Cyfarfod Llawn bryd hynny i gael barn bellach.
I gloi, mae cynllun datblygu cynaliadwy newydd yn cynnig y gobaith o bennu llwybr clir er mwyn gwneud Cymru’n fwy cynaliadwy yng nghyd-destun 'Cymru’n Un’. Drwy hyn, gallwn sicrhau newidiadau gwirioneddol a pharhaol er mwyn trawsnewid bywydau pobl ledled Cymru a bywydau cenedlaethau’r dyfodol. Gobeithiaf y byddwch yn cefnogi’r datblygiad pwysig hwn, a byddaf yn falch o gael eich barn.