Skip to content

Llafar - Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Hoffwn roi gwybod i Aelodau am gyhoeddiad a lansiad y fframwaith effeithiolrwydd ysgolion, a luniwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, penaethiaid, a rhanddeiliad allweddol eraill. Lluniwyd y fframwaith i sicrhau bod ein holl ysgolion yn datblygu i fod yn lleoedd dysgu effeithiol.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2006-07, a gyhoeddwyd heddiw, yn dod i’r casgliad bod gennym lawer i fod yn falch ohono: mae’r gwaith da a wneir mewn ysgolion cynradd wedi codi 3 phwynt canran ers y llynedd, a 29 pwynt canran dros y cyfnod chwe blynedd ers i’r ysgolion gael eu harolygu diwethaf, ac, yn yr ysgolion uwchradd, mae safonau wedi gwella 6 phwynt canran ers y llynedd ac 20 pwynt canran dros y chwe blynedd. Fodd bynnag, ni chynhaliwyd y gyfradd gwella hon yn unffurf ym mhob rhan o’r gwasanaeth: mae cyrhaeddiad ar ddiwedd cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 yn arafu ac nid yw’r dynodyddion arholiadau yn 16 oed wedi codi. Yr wyf yn falch bod nifer gynyddol o ysgolion yn dangos rhagoriaeth, sef gradd 1, ar draws yr holl feysydd gwaith a arolygwyd. Fodd bynnag, daw Estyn i’r canlyniad, dros gyfnod o chwe blynedd, bod nifer o enghreifftiau o ysgolion, y dynodwyd eu bod yn wan yn 2000-01, wedi’i chael yn anodd gwella. Rhaid inni barhau i godi perfformiad a lleihau’r bwlch rhwng ein hysgolion sy’n perfformio orau a’r rheini sy’n perfformio waethaf, a gwella cysondeb mewn safonau ledled Cymru.

Mae canlyniadau rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr 2006 yn rhoi braslun rhyngwladol o’n sefyllfa. Mewn gwyddoniaeth, yr ydym lawn cystal â’r gwledydd mawrion yn y maes megis yr Almaen, yr Unol Daleithiau, ac 11 o’n cymdogion yn yr UE. Fodd bynnag, mewn mathemateg a darllen, nid yw’r canfyddiadau mor gadarnhaol. Rhaid inni bwyso a mesur y canlyniadau hyn, ond ni ddylem ddefnyddio rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr 2006 fel y prif gatalydd mewn ymgyrch i wella safonau. Yr ydym eisoes yn rhoi polisïau ar waith a fydd yn arwain at well canlyniadau i ddysgwyr, fel y disgrifiwyd yn 'Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith’; mae rhaglen 'Cymru’n Un’ hefyd yn ategu’r ymrwymiadau hynny.

A chofio ein huchelgais ar gyfer Cymru fel arweinydd o’r radd flaenaf mewn addysg a’n hymrwymiad i sicrhau y bydd holl blant a phobl ifanc Cymru yn cael addysg o safon uchel, ni allwn adael yr un dim i hap a damwain. Yr ydym am ddarparu addysg sy’n diwallu eu hanghenion ac yn eu galluogi i wireddu eu potensial a datblygu i fod yn ddinasyddion sy’n cyfrannu ac sy’n economaidd weithredol.

Seilir y fframwaith effeithiolrwydd ysgolion ar ddiwygio ar dair lefel; hynny yw, ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio ac yn cysoni eu rhaglenni i wella lles pobl ifanc a’u dysgu. Er mwyn i ysgol fod yn effeithiol, mae angen ethos lle mae’r plant a’r bobl ifanc yn disgwyl cyflawni safon bersonol o ragoriaeth. Mae angen i ysgolion weithio ar ddatblygu eu dulliau eu hunain a dulliau rhyngddibynnol o effeithiolrwydd, y mae angen iddynt gasglu gwybodaeth ac arfer da sydd eisoes yn bodoli, a dod o hyd i atebion newydd ar gyfer hen heriau a heriau newydd sy’n codi’u pen. Bydd hyn yn defnyddio cyfleoedd i’r dyfodol i’r eithaf ac yn cefnogi’r broses o greu diwylliant perfformiad uchel. Bydd y fframwaith yn tynnu ynghyd y gweithgaredd angenrheidiol er mwyn datblygu ysgolion effeithiol. Mae’n disgrifio’r elfennau pwysicaf yn ein system addysg a sut y maent yn gweithio ar bob lefel, ac yn y pen draw eu heffaith ar ganlyniadau dysgu a lles. Mae cyfraniad pob un lefel yn allweddol, yn ogystal â chydweithio ar draws lefelau a rhyngddynt.

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar lunio’r fframwaith bellach ers dros flwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith cychwynnol gan grŵp o academyddion, a edrychodd ar dystiolaeth ryngwladol am yr hyn sy’n gweithio. Yr oedd y grŵp hwnnw’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, penaethiaid a mudiadau partner eraill, gan gynnwys Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac Estyn. Datblygwyd ar y gwaith hwnnw a’i brofi mewn gweithdai a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod haf a hydref 2007. Bellach, mae’r ddogfen fframwaith ar gael yn www.cymru.gov.uk a chaiff ei lansio mewn pedair cynhadledd ranbarthol rhwng 28 Chwefror a 10 Mawrth. Dyma fydd y cyfle cyntaf ar raddfa fawr i rannu’r fframwaith ymhlith penaethiaid, awdurdodau lleol, undebau athrawon, cymdeithasau proffesiynol a mudiadau partner.

Offeryn datblygu yw’r fframwaith y gall pob ysgol ei ddefnyddio yn unol â’u hamgylchiadau eu hunain. Mae’n fater o gysondeb a gwella perfformiad pob ysgol. Nid yw’n fater o dargedu ysgolion penodol na gosod trefn atebolrwydd newydd. Mae ynddo chwe elfen graidd ryngddibynnol: arweinyddiaeth, y cwricwlwm ac addysgu, gweithio gydag eraill, rhwydweithiau ymarfer proffesiynol, ymyrraeth a chefnogaeth, a gwelliant ac atebolrwydd. Caiff polisïau a rhaglenni sydd eisoes yn bodoli eu mapio yn y fframwaith a chaiff polisïau i’r dyfodol eu mesur yn erbyn eu cyfraniad i effeithiolrwydd ysgolion.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio â’r pedwar consortiwm awdurdod lleol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. Cyn bo hir, gofynnir i bob un consortiwm bennu’r ysgolion a fydd yn treialu’r fframwaith o fis Medi 2008 ymlaen. Byddwn yn chwilio am gymysgedd o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, ysgolion trefol, ysgolion gwledig, ysgolion eglwys, ac ysgolion sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn treialu gwahanol ddulliau o weithio. Mewn dwy ardal gonsortiwm, rhoddir hyfforddiant arbennig i benaethiaid a gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion awdurdod lleol—fe’u gelwir yn 'swyddogion cyswllt’—a byddant yn cael eu rhyddhau am 25 y cant o’u hamser i weithio â’r ysgolion sy’n cymryd rhan. Yn y ddau gonsortiwm arall, byddwn yn gwahodd yr awdurdodau i integreiddio’r gwaith i’w rhaglenni cyfredol ar gyfer gwella ysgolion. Drwy gydol y flwyddyn beilot, caiff y ffordd y defnyddir y fframwaith ei monitro a’i hasesu. Ar ôl pwyso a mesur yr asesiad, caiff y fframwaith ei gyflwyno o ganol 2009 dros gyfnod o oddeutu tair blynedd. Gobeithiaf y bydd ysgolion yn gweld ei fantais fel offeryn datblygu ac yn ei ddefnyddio wrth symud ymlaen.

Mae pum pennaeth wedi’u secondio o ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd i weithio â’m hadran i ddatblygu deunyddiau a gaiff eu defnyddio gan yr ysgolion peilot. Bydd £5.1 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a chyflwyno’r fframwaith. Yr wyf hefyd yn rhyddhau £0.5 miliwn ym mhob un o’r tair blynedd nesaf i gefnogi ymchwil addysgol gymwysedig, a fydd yn cynnwys y gwaith monitro ac arfarnu sy’n gysylltiedig â rhoi’r fframwaith ar waith.

Cynhelir dadl lawn ar y fframwaith ym mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, gobeithiaf y bydd Aelodau’n manteisio ar y cyfle i ddarllen dogfen y fframwaith. Mae’n disgrifio polisi a grëwyd yng Nghymru, sy’n deillio o’r dystiolaeth ryngwladol orau ar effeithiolrwydd ysgolion, ac a luniwyd i fynd i’r afael â’r heriau y mae ysgolion yng Nghymru’n eu hwynebu.