Skip to content

Llafar - Yr Astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Morglawdd ar draws Afon Hafren

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Delio â newid yn yr hinsawdd yw un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yr wyf yn benderfynol y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Un modd pwysig i wneud hynny yw cynhyrchu mwy o’n trydan o ffynonellau adnewyddadwy, ac, yn benodol, harneisio’r ynni llanwol aruthrol yn aber Hafren, a fyddai, mewn egwyddor, yn gallu cynnig ffynhonnell hirdymor o drydan di-garbon i ni.

Fel yr wyf wedi hysbysu’r Cynulliad o’r blaen, yr wyf yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd amgylcheddol aber Hafren ac o’r ddeddfwriaeth i ddiogelu’r amgylchedd y bydd angen ei hystyried yn drwyadl, a hynny’n gwbl briodol. Yr wyf wedi llwyr ymrwymo i barhau â’n deialog agored ac adeiladol â’r nifer mawr o gyrff ac unigolion sydd â buddiant yn aber Hafren.
Yfory, yr ydym yn disgwyl gweld cyhoeddi amrywiaeth fawr o gynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd ar ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr; ar gyfnod nesaf y masnachu ar allyriadau; ar ddal a storio carbon ar gyfer gorsafoedd trydan tanwydd ffosil Ewrop; ac ar gyrraedd y targed o gael 20 y cant o ynni Ewrop o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Bydd y cyfle i harneisio ynni o’r morglawdd ar draws afon Hafren, os gellir gwneud hynny o fewn fframwaith datblygu cynaliadwy, yn galluogi Cymru i chwarae rhan o bwys wrth gyflawni’r amcanion hollbwysig hyn ar lefel Ewropeaidd.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ynni’r llanw o afon Hafren yn cael ei harwain gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio gyda chefnogaeth gadarn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yr wyf yn sicrhau Aelodau’r Cynulliad y bydd yr astudiaeth hon yn ystyried ystod eang o ddewisiadau ar gyfer harneisio ynni afon Hafren, gan gynnwys amryw o gyfluniadau o forlynnoedd a morgloddiau. Nid oes dewis sydd wedi’i ffafrio, a bydd yr asesiad amgylchedd cynaliadwy sy’n gysylltiedig yn un mor gynhwysol ag y bo modd. Bydd rhan gyntaf yr astudiaeth yn para tan fis Medi 2008 a bydd yn canolbwyntio ar faterion lefel uchel. Os bydd gwaith ar ddichonoldeb yn parhau, bydd yr ail ran yn cymryd tua blwyddyn a bydd yn ystyried materion a godwyd yn y rhan gyntaf yn fwy manwl. Ar ôl hynny, os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU o blaid prosiect ynni’r llanw, cynhelir ymgynghoriad ffurfiol a gwneir penderfyniad ynghylch a fydd y prosiect yn mynd ymlaen erbyn gwanwyn 2010.

Yn dilyn adroddiad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am y cyfleoedd i ddefnyddio ynni’r llanw o gwmpas y DU, a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, penderfynwyd y bydd y materion lefel uchel sydd i’w hystyried yn cynnwys cost ac ariannu, perchnogaeth ar unrhyw forglawdd neu forlyn, y lleoliad a’r dechnoleg a ffafrir, cydymffurfiad â deddfwriaeth i ddiogelu’r amgylchedd, a’r effaith ar farchnadoedd ynni. Heddiw, yr ydym yn cychwyn ar yr hyn a allai fod yn ymdrech hir. Mae llawer yn y fantol a rhaid i’n hasesiadau fod yn drwyadl a bod wedi’u seilio ar dystiolaeth wyddonol gadarn. Byddaf yn sicrhau y bydd buddiannau Cymru, yn yr ystyr ehangaf, yn cael eu cynrychioli’n llawn yn y broses honno. Yn ogystal ag ymgynghori cyhoeddus cynhwysfawr drwy gydol cyfnod yr astudiaeth, bydd cyfarfodydd ffurfiol o fforwm o Aelodau o Senedd Ewrop, Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad. Yr wyf wedi rhoi gwahoddiad i holl Aelodau’r Cynulliad heddiw.