Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar Ddarparu Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru – Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Dolenni perthnasol

Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Yng nghyd-destun marchnad lafur iach yng Nghymru gyda hanes o lefel uchel o gyflogaeth a lefelau isel o ddiweithdra, rydym yn wynebu her barhaus o ran y gyfran o’n pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae nifer pobl ifanc sy’n NEET yn bwysig; i rai o’r bobl ifanc hyn, bydd yr amser y maent yn ei dreulio y tu allan i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael effaith negyddol sylweddol ar eu bywydau yn y dyfodol – gan gael effaith ar eu gallu i gystadlu am swyddi ac ennill cyflog da, yn ogystal ag ar eu hiechyd, eu cymhelliant a’u hunan-fri, ac i osgoi mynd i drafferth gyda’r gyfraith. Maent yn colli rhan allweddol o’r cyfnod anodd o newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Mae hyn, yn ei dro, yn cael effaith ar bob un ohonom.

Mae’n bleser cael lansio’r ddogfen hon, sy’n ymgynghori ar y cynigion i ostwng cyfran pobl ifanc NEET yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o bapurau thematig sy’n ceisio mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru – ein strategaeth sgiliau a chyflogaeth ddrafft.

Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn amlinellu ein gweledigaeth ehangach ym maes sgiliau a chyflogaeth. Mae’n agenda hynod heriol, ac un sy’n uniongyrchol berthnasol i bobl ifanc sy’n NEET, a’r rhai hynny sy’n debygol iawn o fod felly. Mae sgiliau yn greiddiol i lwyddiant unigolion, busnesau a chymunedau. Mae Cymru’n Un yn tynnu sylw at arwyddocâd cael sylfaen sgiliau gref i Gymru a swyddogaeth bwysig hynny wrth gau’r bwlch tuag at gyflogaeth llawn.

I gael cymaint o bobl ifanc â phosibl i gyfranogi ym myd addysg wedi 16 oed, ein gweledigaeth, fel a amlinellwyd yn Cymru’n Un, yw trawsnewid y ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl ifanc, a’i gwneud yn fwy deniadol, trwy ddarparu opsiynau dysgu mwy hyblyg, ynghŷd â gwell cymorth ac arweiniad. Os y daw yn ddeddf, bydd ein Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 arfaethedig yn gwneud hyn yn hawl cyfreithiol i bob dysgwr. Trwy gynyddu nifer ac ansawdd yr opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc, rydym yn credu y byddant am barhau i gyfranogi ym myd dysgu a hyfforddiant, ac y bydd modd iddynt weld gwerth mewn gwneud hynny, a bod yn llawer llai tebygol o adael y system.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o bobl NEET yng Nghymru. O fewn cyd-destun ein rhaglenni prif ffrwd, a Llwybrau Dysgu 14-19 yn benodol, mae’n gwneud nifer o gynigion sydd â’r bwriad o sicrhau bod ein rhaglenni yn mynd i’r afael ag anghenion ein pobl ifanc sy’n NEET neu’n debygol o fod. Mae’r papur yn seiliedig ar dair haen o weithgaredd, ac yn cynnig ystod o fesurau o fewn pob un ohonynt.

  • Y systemau priodol. Prosesau effeithiol ar gyfer adnabod y bobl ifanc hynny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a cheisio ail-ennyn eu diddordeb.
  • Y ddarpariaeth briodol. Ystod llawn o opsiynau dysgu i fodloni’r galw – i ennyn diddordeb pobl ifanc trwy gynnig darpariaeth ddigonol ar bob lefel ac ar gyfer pob math o ddysgu.
  • Y gefnogaeth briodol. Dysgu a chymorth personol mwy dwys wedi ei dargedu’n well, yn ogystal â chyngor gyrfaol a chanllawiau i sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod sut i gael mynediad at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a’u galluogi i oresgyn rhwystrau personol sylweddol ar brydiau.

Mae’r ddogfen yn ystyried yr adolygiad annibynnol ar genadwri a diben addysg bellach (Addewid a Pherfformiad), o dan gadeiryddiaeth Syr Adrian Webb.

Mae amserlen yr ymgynghoriad yn adlewyrchu’r pwys rydym yn ei roi ar gael pobl ifanc i gymryd mwy o ran mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a chael cyn lleied â phosibl i ymadael â byd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Y bwriad yw y bydd y fersiwn terfynol, i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys cynllun gweithredu manwl – sydd wedi ei gysylltu â’r cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth sgiliau a chyflogaeth – y gellir ei adolygu’n rheolaidd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r ddogfen hon, ac rwy’n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.