Skip to content

Ysgrifenedig - Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru: Ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adolygiad Webb

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Ym mis Mehefin, rhoddais wybod i’r aelodau ein bod yn bwriadu rhoi ymateb llawn i Adroddiad Webb - Addewid a Pherfformiad - er gwybodaeth ac ystyriaeth. Mae hwn yn ymateb linell wrth linell i’r argymhellion a geir yn yr adroddiad. Mae’n arwydd o bwysigrwydd dogfen Webb yn ein golwg ni a’r rhan y bydd yn ei chwarae wrth gyfrannu i ffurfio, datblygu a chyflawni ein polisïau.

Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn amlinellu ein strategaeth er mwyn gwireddu uchelgais ‘Cymru’n Un’ o gael Cymru ag addysg uchel, sgiliau uchel a chyflogaeth uchel. I’r perwyl hwn, mae’n defnyddio’r cyfarwyddiadau allweddol a’r saith neges sylfaenol a gyhoeddwyd yn yr adroddiad Addewid a Pherfformiad.

Roedd Adolygiad Webb yn waith annibynnol ac eang ei gwmpas ac arweiniodd at 136 o argymhellion a oedd yn cynnig newid y modd y darperir addysg ôl 14 yn ogystal ag awgrymu dulliau o lywodraethu darparwyr, rheoli ansawdd a chraffu. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Adroddiad Webb ar y cyd â’r ymgynghoriad ar Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru ac ers ei gyhoeddi mae’r adran wedi datblygu nifer o fentrau sy’n gysylltiedig â’r cysyniadau a’r argymhellion yn adroddiad Webb. Er enghraifft:

  • Mewn ymateb i’r angen am ad-drefnu darparwyr a mwy o fàs critigol ym maes addysg bellach a bwysleisiwyd yn y ddogfen “Addewid a Pherfformiad”, rydym wedi datblygu a chyhoeddi ein Polisi Trawsnewid. Mae hwn yn destun trafodaeth gyhoeddus ar hyn o bryd a chynhelir gweithdai ar hyd a lled Cymru.
  • Mae ein Polisi Dysgu Cymunedol i Oedolion, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn gwneud cynigion allweddol i ddatblygu’r ddarpariaeth o ran dysgu cymunedol ar hyd y llinellau a argymhellwyd yn Adroddiad Webb.
  • Rydym wrthi’n datblygu dull o ddarparu Graddau Sylfaen a fydd yn hyrwyddo mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng rhanddeiliaid addysg uwch ynghyd â chynnwys y Sector Addysg Bellach a chyflogwyr yn fwy.

Dim ond tri yw’r rhain o’r polisïau sy’n cael eu datblygu ac sy’n gysylltiedig â’r cynigion a’r syniadau a geir yn Adolygiad Webb. Maent yn dangos sut y gall yr anghenion, y cysyniadau a’r argymhellion a nodir ac a geir yn Adroddiad Webb lywio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni newidiadau polisi.

Mae’r adroddiad Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Webb yn rhoi’r ymateb manwl o ran safbwynt ein polisi ynghylch pob un o’r 136 o argymhellion. Atodaf gopi er gwybodaeth. Bydd yn destun adolygiadau rheolaidd gan yr adran i sicrhau ein bod yn monitro cynnydd ac yn ei gynnal.